Manylion y penderfyniad

Corporate Parenting Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review and endorse a refreshed Corporate Parenting Strategy for Flintshire

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i gefnogi Strategaeth Rhianta Corfforaethol wedi’i diweddaru ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith parhaus sy’n mynd rhagddo i lunio Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd o fewn cyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a datblygiadau cenedlaethol sy’n ymwneud â Rhianta Corfforaethol. 

 

Cafwyd gwybodaeth gefndir gan y Swyddog Cynllunio a Datblygu, a adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, mewn perthynas â chynnydd o ran datblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol Sir y Fflint. Eglurodd y byddai’r Strategaeth yn ei lle am o leiaf 5 mlynedd er mwyn sicrhau cysondeb ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal. Cyfeiriodd at Strategaeth Rhianta Corfforaethol ddrafft 2018-2023 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei chymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai’n bosib diwygio’r testun yn y Strategaeth er mwyn iddo ddarllen fel pe bai’n cyfarch plentyn. Cytunodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu i ddiwygio’r testun yn unol â hynny.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a fyddai’n bosib diwygio’r Strategaeth i nodi, pan fo plentyn sy'n derbyn gofal yn cael ei roi mewn gofal maeth, y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i’w osod gyda rhieni maeth gyda’r un credoau crefyddol neu ethnigrwydd. Eglurodd yr Uwch-reolwr Plant a'r Gweithlu fod hyn eisoes yn cael ei ystyried a chytunodd i’w gynnwys yn y Strategaeth.

 

 Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Carol Ellis, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cael cyflwyniad byr ar Rianta Corfforaethol yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol a hefyd ar gyfer Tîm y Prif Swyddog. Awgrymodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu y dylid gwahodd pobl ifanc i lunio’r cyflwyniad er mwyn rhoi esiamplau go iawn i’r Aelodau.

 

Awgrymodd Mrs Rebecca Stark y dylid ychwanegu esiamplau personol gan bobl ifanc at y Strategaeth derfynol, er mwyn dangos sut y gweithiodd y Strategaeth iddyn nhw.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Janet Axworthy y dylid newid teitl y Strategaeth i ‘Gofalu Amdanoch Chi: Strategaeth Rhianta Corfforaethol’.

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Cindy Hinds, a sylwadau pellach a wnaed gan y Pwyllgor yngl?n â digwyddiad Balchder Sir y Fflint, awgrymodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu y dylai anfon neges e-bost at bob Aelod yn cynnwys trosolwg byr o ddigwyddiad Balchder Sir y Fflint, a hefyd i wahodd cyfraniadau gan Aelodau.

 

Holodd Mr David Hytch a ellid cynnwys Aelodau cyfetholedig Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn y neges e-bost hon, a'u gwahodd nhw hefyd i fynychu digwyddiad Balchder Sir y Fflint ym mis Medi.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r camau arfaethedig i gyhoeddi Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd, gan roi ystyriaeth i’r diwygiadau a awgrymwyd gan yr Aelodau;

 

(b)       Cymeradwyo’r cam arfaethedig i holl staff Cyngor Sir y Fflint fod yn gyfrifol am gyflwyno’r Strategaeth;

 

(c)        Cymeradwyo'r cam arfaethedig i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu traws-bortffolio i gyflawni’r datganiadau a amlinellwyd yn y Strategaeth; a

 

(d)       Codi Rhianta Corfforaethol yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol a gyda Thîm y Prif Swyddog, gan gynnwys pobl ifanc.

 

Awdur yr adroddiad: Craig Macleod

Dyddiad cyhoeddi: 29/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 24/05/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/05/2018 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: