Manylion y penderfyniad

Children's Out of County Placements

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To endorse a fundamental review of residential placements for children and young people. The aim of the review is to enable the Council to: i) more proactively support vulnerable children with complex care and education needs ii) better manage demand for placements and iii) develop the market to be more responsive and affordable.

Penderfyniadau:

Eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cyfeirio’r ddarpariaeth, a’r costau’n gysylltiedig â lleoliadau y tu allan i’r sir i blant a phobl ifanc, at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, adroddiad i gymeradwyo  adolygiad sylfaenol o leoliadau preswyl i blant a phobl ifanc.  Dywedodd mai nod yr adolygiad oedd galluogi’r Cyngor i gefnogi plant diamddiffyn sydd ag anghenion gofal ac addysg cymhleth yn fwy rhagweithiol, rheoli’r galw am leoliadau yn well; a datblygu’r farchnad i fod yn fwy ymatebol a fforddiadwy.

 

                        Darparodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndirol a chyd-destun, a gwnaeth sylw ar yr her bresennol wrth geisio canfod lleoliadau preswyl priodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyfeiriodd at brosiect ar draws bortffolios y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir i ddatblygu mewnwelediad pellach i’r angen presennol ac yn y dyfodol, yr opsiynau ar gyfer cefnogaeth/ lleoliadau, a chostau cysylltiedig.  Adroddodd ar y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

                        Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â’r angen i gynyddu gofal maeth yn Sir y Fflint, eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu bod ystod o fentrau yn cael eu hystyried i wella’r sefyllfa leol.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â chost gyfartalog lleoliad fesul blwyddyn a gwnaeth sylw ar yr effaith negyddol ar recriwtio gofalwyr maeth asiantaeth yn Sir y Fflint. 

 

                        Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd ynghylch gofal maeth, dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu nad oedd anhawster o ran canfod lleoliadau gofal maeth ar gyfer plant ifanc, fodd bynnag, roedd y sefyllfa o ran canfod lleoliadau ar gyfer grwpiau mawr o frodyr neu chwiorydd a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth yn fwy heriol. 

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd McGuill i ddefnyddio canolfannau gweithgareddau preswyl allanol neu ddigwyddiadau dros y tymor byr i reoli sefyllfaoedd anodd, eglurodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y gellid ond darparu gofal a chefnogaeth mewn sefydliad cofrestredig.

 

                        Mynegodd y Cadeirydd bryder am nad oedd darpariaeth ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r Awdurdod pe bai’n gorfod darparu ar gyfer gr?p o frodyr neu chwiorydd gydag anghenion cymhleth.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar yr amseroedd aros i bobl ifanc gael eu hasesu gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y bu buddsoddiad cenedlaethol sylweddol yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a bod Plant Sy'n Derbyn Gofal yn flaenoriaeth ac y byddent yn derbyn asesiad gany Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o fewn 28 diwrnod. Yn ystod trafodaeth, cytunwyd gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin.

PENDERFYNWYD:

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull a ddefnyddir i sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant a gwell rheolaeth o’r  galw am leoliadau; a

(b)       Gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ym mis Mehefin.

 

Awdur yr adroddiad: Craig Macleod

Dyddiad cyhoeddi: 26/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 29/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: