Manylion y penderfyniad

Consultation on Review of Car parking Charges

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consult the Corporate Resources and Environment Overview & Scrutiny Committees on the Review of Car Parking Charges

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan esbonio pam bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal drwy gyd-gyfarfod o ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu (Adnoddau Corfforaethol ac Amgylchedd). Gan fod i’r adolygiad o ffioedd meysydd parcio’r ochr gyllidebol ac ochr gweithredu’r meysydd parcio, a gan fod yr adolygiad o’r ffioedd yn fater nad oedd wedi cael sylw gan gyfarfodydd cyllideb y Cyngor llawn, roedd cyfarfod ar y cyd yn briodol – Adnoddau Corfforaethol oedd y pwyllgor arweiniol dros graffu ar gyllidebau a’r Amgylchedd oedd y pwyllgor arweiniol dros bolisi a gweithrediadau’r meysydd parcio.

 

            Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y cafwyd, yn ystod y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2018, gydgytundeb i gynyddu’r targed incwm ar gyfer parcio ceir £450,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Cydnabyddai y ceid, o bosibl, safbwyntiau gwahanol yngl?n â sut i gyrraedd y targed ac atgoffodd yr aelodau bod cyrraedd y targed yn gyfrifoldeb i bawb.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y ffioedd diwygiedig, ynghyd â’r trefniadau a’r dyddiad dechrau gohiriedig ar gyfer cyflwyno ffioedd parcio yn Fflint. Roedd ffioedd parcio ceir wedi cael ei drafod yn flaenorol gan Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd yn agored i holl Aelodau’r Cyngor ar 16 Ionawr 2018. Yn ystod y cyfarfod, gwnaeth yr Aelodau nifer o awgrymiadau ar yr opsiynau, ac roedd esboniadau manwl o ba rai o’r awgrymiadau a dderbyniwyd a’r rhesymau pam na fwriwyd ymlaen ag eraill wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog fod y cyfle i gynnig rhoi cyfleoedd i barcio am ddim ar y stryd, yn agos i ganol trefi, wedi cael ei archwilio a bod y Cyngor wrthi’n ymgynghori gyda dau Gyngor Tref yngl?n â’r potensial o ddileu gorchmynion parthau cerddwyr a fyddai’n caniatáu i gerbydau ddychwelyd i’r Stryd Fawr. Gallai cynghorau tref ystyried sybsideiddio ffioedd parcio yn eu hardaloedd. Byddai angen i unrhyw gynigion sicrhau bod y targedau incwm parcio ceir corfforaethol yn cael eu cyrraedd. Byddai’r system codi tâl am barcio ceir yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.

 

            Ymddiheurodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad fod awgrym a wnaed gan y Cynghorydd Mike Peers yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2018 i gynyddu’r arhosiad lleiaf i 1 awr am 30c wedi’i hepgor o’r adroddiad. Sicrhaodd yr Aelodau fod yr awgrym hwn wedi cael ei ystyried ond y gwelwyd nad oedd yn fforddiadwy. Dywedodd pa mor bwysig oedd sicrhau hyfywedd canol trefi gan esbonio y byddai codi’r ffioedd parcio ceir yn talu’r gost o ofalu am y meysydd parcio ar draws Sir y Fflint.      

 

            Croesawodd Arweinydd y Cyngor y broses graffu wrth ystyried y ffioedd parcio ceir arfaethedig gan ddweud y byddai’r Cabinet yn rhoi ystyriaeth i’r sylwadau o’r cyfarfod yn ei gyfarfod ef ar 20 Mawrth 2018. Cyfeiriodd at y broses heriol o bennu’r gyllideb a’i bryder, pe na chodid ffioedd parcio ceir i dalu costau llawn darparu’r gwasanaeth, y byddai’n rhaid dod o hyd i arbedion yn rhywle arall o fewn y Cyngor i fantoli’r gyllideb. Dywedodd y byddai’r ffioedd parcio ceir lleol yn dal yn gymharol isel.  

 

Mae crynodeb o’r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau ynghlwm yn Atodiad 1 y cofnodion.

 

Yn dilyn y drafodaeth, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r wybodaeth ganlynol yn cael ei chasglu cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Mawrth 2018:-

 

  • Gwerthuso a chostau’r cynnig gan y Pwyllgor i addasu’r rhestr ffioedd i £0.30 am 1 awr o £0.30 am 30 munud (dim ond i’r trefi hynny lle dangosir y ffi 30 munud yn y rhestr/atodiad);

 

  • Manylion y costau rheoli/cynnal a chadw ar gyfer 2017/18 a 2018/19 yn ôl penawdau’r gyllideb sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad – gan ddangos union ac amcangyfrif/dosraniad fel y bo angen; a’r

 

  • Rhestr lawn o feysydd parcio’r Sir sydd yn codi ffioedd a’r rheini sydd am ddim.

 

Cynigiodd yCynghorydd Heesom gefnogi argymhellion i’r Cabinet, yn amodol ar y pwyntiau a amlinellwyd gan y Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Gofyn i’r Cabinet ystyried addasu’r rhestr ffioedd i £0.30 am 1 awr o £0.30 am 30 munud (dim ond i’r trefi hynny lle dangosir y ffi 30 munud yn y rhestr/atodiad);

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn gofyn am fanylion y costau rheoli/cynnal a chadw ar gyfer 2017/18 a 2018/19 yn ôl penawdau’r gyllideb sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad – gan ddangos union ac amcangyfrif/dosraniad fel y bo angen;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn gofyn am y rhestr lawn o feysydd parcio’r Sir sydd yn codi ffioedd a’r rheini sydd am ddim; a

 

(d)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cyflwyno ymateb ffurfiol y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac Amgylchedd i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth 2018.  

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 27/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Amgylchedd

Accompanying Documents: