Manylion y penderfyniad
Learner Outcomes
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Learner Outcomes update
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar Ganlyniadau Dysgwyr yn 2017. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) yn parhau i weithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod yr holl ysgolion, ac yn enwedig yr ysgolion uwchradd, yn olrhain cynnydd eu disgyblion yn gywir yn erbyn targedau a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau gwell cyfatebiaeth rhwng y canlyniadau a ragwelir a’r canlyniadau gwirioneddol.
Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie nifer o bryderon yngl?n â chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd fod dirywiad parhaus wedi bod ym mherfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn ystod y blynyddoedd diweddar. Roedd o’r farn y dylai Sir y Fflint fod yn uwch na’r 6ed safle yn y tablau perfformio. Ymatebodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) i’r sylwadau a phryderon a fynegwyd ac esboniodd mai’r 6ed safle oedd safle lleiaf y sir ond bod ganddynt ddyheadau uwch.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at Ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 - 2017, fel y nodwyd yn atodiad 2 yr adroddiad a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu data cymharol ar gyfer Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Choleg Cambria. Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Prif Swyddog Dros Dro i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Mackie ac esboniodd fod y meini prawf derbyn ar gyfer myfyrwyr Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn wahanol i feini prawf derbyn ysgolion uwchradd Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Geoff Collett hefyd ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 a gofynnodd am gynnwys gwybodaeth yngl?n â nifer y myfyrwyr na wnaeth gwblhau eu cyrsiau a’r rhesymau pam na wnaethant, yn Adroddiadau Canlyniadau Dysgwyr y dyfodol. Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn adroddiadau’r dyfodol.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â phresenoldeb mewn ysgolion ac absenoldeb anawdurdodedig, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i rieni gael hyd at 10 diwrnod o absenoldeb anawdurdodedig. Er gwaethaf ymdrechion ysgolion i annog rhieni i beidio â chymryd eu plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor, a’r wybodaeth a ddarparwyd ar effaith colli diwrnod o addysg, esboniodd fod rhai rhieni yn ystyried y penderfyniad fel ‘hawl’. Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro sicrwydd fod gan ysgolion brosesau a data cadarn yn eu lle i adnabod patrymau presenoldeb a gweithdrefnau cadarn i fynd i’r afael â phroblem diffyg presenoldeb ymhlith disgyblion.
Dywedodd Mrs. Rebecca Stark y dylai ysgolion gael eu canmol am eu perfformiad yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofynnodd i’r neges honno gael ei rhoi i’r ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i ddarparu cymorth personol i benaethiaid a staff sydd yn y ‘rheng-flaen’ ac yn wynebu effeithiau’r toriadau ariannol i’r gyllideb addysg. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro yn cydnabod bod ysgolion o dan bwysau mawr a rhoddodd ei sicrwydd fod cymorth dynodedig ar gael gan ymarferwyr iechyd meddwl a bod cymaint o gymorth â phosibl yn cael ei ddarparu.
Gofynnodd Mrs. Rebecca Stark am gynnwys gwybodaeth yngl?n â thargedau disgwyliedig myfyrwyr a’u cyrhaeddiad gwirioneddol yn adroddiadau’r dyfodol. Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro edrych ar hyn ar gyfer adroddiadau’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes y dylai ysgolion gael eu llongyfarch am eu gwaith gwych a’r cyfleoedd a ddarparwyd i ddisgyblion drwy gynllun Bagloriaeth Cymru.
Yn dilyn cwestiynau yngl?n â'r cymhorthdal cludiant i Goleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro y byddai’n gofyn i’r Bwrdd Partneriaeth pa fecanwaith ariannu oedd yn ei le ar gyfer myfyrwyr o Loegr a oedd yn mynychu Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy.
Gofynnodd yr Aelodau rhagor o gwestiynau yngl?n â thargedau a chanlyniadau disgwyliedig disgyblion, a’r llwybrau galwedigaethol oedd ar gael i fyfyrwyr a oedd yn dymuno mynd ymlaen i addysg uwch ond nad oeddynt yn ennill y cymwysterau mynediad ar gyfer llwybr academaidd. Mewn ymateb i’r sylwadau a phryderon a godwyd rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Prif Swyddog Dros Dro ymrwymiad i ddarparu gweithdy ar bob agwedd ar addysg ôl-16 oed ar draws Sir y Fflint.
Cynigiodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn cymeradwyo gwaith ysgolion uwchradd Sir y Fflint i gynorthwyo pobl ifanc i wireddu eu potensial a chytunodd yr aelodau.
CYTUNWYD:
(a) Y dylid nodi’r adroddiad a’r data cyrhaeddiad sydd wedi’u dilysu ar gyfer plant a phobl ifanc Sir y Fflint yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 ar gyfer y flwyddyn 2016-17; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn cymeradwyo gwaith ysgolion uwchradd Sir y Fflint i gynorthwyo pobl ifanc i wireddu eu potensial.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: