Manylion y penderfyniad
School Modernisation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Members on the progress made with
School Modernisation
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Uwch Reolwr Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth gyflwyniad ar ddiweddariadau’r cynnydd o ran y rhaglen Moderneiddio Ysgolion a’r ffrydiau ariannu Grant Cyfalaf newydd sydd ar gael trwy Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn trosolwg ar y cynnydd o ran rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif, dywedodd eu bod yn dal i aros am benderfyniadau LlC ar y cais am Grant Maint Dosbarth Babanod ar gyfer Ysgol Glan Aber ac ar y cais am grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg ar gyfer Ysgol Glanrafon. Roeddent hefyd yn dal i aros am gadarnhad ynghylch y Grant Cyfalaf Blynyddoedd Cynnar ynghyd â’r meini prawf cymhwyso.
Soniodd y Cynghorydd Heesom am yr angen i ysgolion trwy’r Sir gael eu hystyried yn gydradd am wella adeiladau, yn arbennig Bryn Pennant ym Mostyn, sy’n ehangu ac mae angen trwsio’r to. Nododd yr Uwch Reolwr hyn a dywedodd fod ysgolion lle mae problemau o ran eu cyflwr wedi’u cofnodi ar restr a’u bod yn cael sylw pan mae arian ar gael. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom hefyd am newyddion ar Ysgol Mornant yn Picton.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Williams at fuddsoddiad yn Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gofyn am eitem yn y dyfodol ar gyrsiau sydd ar gael, cymwysterau lefel mynediad, niferoedd y myfyrwyr a’r rhai sy’n rhoi’r ffidil yn y to. Gofynnodd am ehangu capasiti yn y dyfodol yn Ysgol Uwchradd Castell Alun oherwydd nifer y datblygiadau tai sydd yn yr ardaloedd cyfagos. Dywedwyd bod y rhaglen yn hyblyg er mwyn gallu cynyddu’r capasiti ac y rhoddid cipolwg ar y cynnydd presennol mewn eitem Derbyniadau Ysgol yn hwyrach yn y flwyddyn. Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad i’r Cynghorydd Williams ar waith yn Ysgol Penyffordd a dywedodd yr eir i’r afael â materion a gododd yr ysgol ynghylch traffig trwy gyfrwng y cyfarfodydd rheolaidd.
Wrth sôn am benderfyniad y Cabinet ar Ysgolion Licswm a Brynffordd, awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones y gellir ystyried yr opsiynau ar gyfer ehangu Brynffordd yn ysgol â defnydd neuadd bentref ar y cyd, a gallai hyn ddenu arian grant gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod angen cynorthwyo Ysgol Mornant lle’r oedd y gymuned yn buddsoddi yn y Gymraeg a dywedodd y gallai cysylltu â’r cymunedau arwain at ddod o hyd i ddull sy’n rhoi’r gallu i’r ddwy ochr gyrraedd eu hamcanion.
Eglurodd y Cynghorydd Roberts mai sail penderfyniad y Cabinet oedd graddfa’r cymorth i gynnal addysg yn y cymunedau hyn. Gobeithid y gallai’r Cyngor weithio â’r cymunedau hyn i greu ffederasiwn llwyddiannus.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a chynnydd y cynllun Moderneiddio Ysgolion; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r ceisiadau am ragor o wybodaeth a’r buddsoddi pellach y soniodd yr Aelodau amdano.
Awdur yr adroddiad: Damian Hughes
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: