Manylion y penderfyniad

North Wales Population Assessment Regional Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review and approve the draft North Wales Population Assessment Regional Plan

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i adolygu a chymeradwyo fersiwn drafft o Gynllun Rhanbarthol Asesu Poblogaeth Gogledd Cymru. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod awdurdodau lleol a Byrddau iechyd yn gorfod paratoi  cynllun ardal ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth erbyn 1 Ebrill 2018. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad yn ymwneud â’r blaenoriaethau rhanbarthol, ymateb i benodau’r asesiad poblogaeth a’r themâu craidd, a’r casgliadau cyffredinol. Rhoddodd gyflwyniad ar Gynllun Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd yn cynnwys y meysydd allweddol canlynol:

 

·         Plant a phobl ifanc

·         Pobl h?n

·         Iechyd, anabledd corfforol a nam ar y synhwyrau

·         Anableddau dysgu

·         Iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau

·         Gofalwyr

·         Trais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref a thrais rhywiol

·         Ystâd ddiogel

·         Cyn filwyr

·         Tai a digartrefedd

·         Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ei gyflwyniad a gwahoddodd aelodau’r pwyllgor i ofyn cwestiynau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill pa gefnogaeth oedd ar gael i deuluoedd oedd mewn sefyllfa o argyfwng oherwydd eu bod yn gofalu am berthynas h?n oedd yn dioddef o ddementia a heb fod mewn ysbyty na chartref nyrsio.  Cyfeiriodd hefyd at ASD a’r angen am ymyrraeth gynnar a gofynnodd pa oed y dylid rhoi meddyginiaeth i blant. Dywedodd y Prif Swyddog fod asesiad meddygol yn cael ei wneud o’r unigolyn ond nad oedd oedran penodol ar gyfer gwneud hyn.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn cefnogi’n rhagweithiol bobl â dementia a chyfeiriodd at y ddarpariaeth seibiant a gwasanaethau cymorth gofal yn y cartref oedd ar gael i helpu pobl i ymdopi. Dywedodd Uwch Swyddog - Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion fod yr Awdurdod hefyd yn ariannu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru a oedd yn darparu gwybodaeth am Linell Ofal Argyfwng i ofalwyr a chyfeiriodd at y cynllun ‘pontio’r bwlch’.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylwadau yngl?n â phroblem digartrefedd oedd yn datblygu a bod prinder llety addas, ac effaith hyn ar ymddygiad plant, a lles meddyliol rhieni.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â chynnydd yn nifer y plant ar y Gofrestr Diogelu Plant,  eglurodd y Prif Swyddog fod y cynnydd o 9% y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn rhanbarthol a bod cynnydd cenedlaethol yng Nghymru. Dywedodd Uwch Swyddog, Plant a Gweithlu, fod y cynnydd yn deillio’n rhannol oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth ymysg asiantaethau o ddiogelwch a materion diogelu plant ac ymyrraeth gynnar. Hefyd cyfeiriodd at brosiect oedd ar fin dechrau i gefnogi mamau oedd yn beichiogi’n gyson ac yn methu â gofalu am eu plant. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Kevin Hughes sylwadau ar y mater o fwlio ar-lein a’r angen i hysbysu a gweithio’n agos gydag ysgolion i gefnogi disgyblion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i weithio gydag ysgolion i hybu bwyta’n iach a mynd i’r afael â phroblem gordewdra. Rhoddwyd sicrwydd gan y Cynghorydd Christine Jones a’r Prif Swyddog fod y ddau fater yn cael sylw ym mholisi Diogelu’r Awdurdod. Gwnaeth Uwch Swyddog - Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion sylwadau hefyd ar y gwaith oedd yn cael ei wneud gyda gweithwyr proffesiynol yn y sector Iechyd i fynd i’r afael â gordewdra ymysg pobl ifanc ac ymyrraeth gynnar gyda rhieni. Cadarnhaodd hefyd fod gordewdra ymysg plant yn flaenoriaeth gan Iechyd Cyhoeddus. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylw am yr angen i gael gwybodaeth ehangach am awtistiaeth a phroblemau iechyd meddwl a bod y rhain yn cael eu hadnabod yn gynharach mewn lleoliadau Addysg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at y camau i gefnogi pobl h?n ag anghenion cymhleth a  chyflyrau yn cynnwys dementia a gwnaeth sylw am yr angen hefyd i gefnogi cyn filwr. Cydnabu’r Prif Swyddog y pwynt a wnaed a eglurodd bod cefnogaeth ar gael i bobl o dan 65 oed ac mai Sir y Fflint oedd yr unig Awdurdod yng Ngogledd Cymru oedd yn cynnig gwasanaethau cymorth o’r fath.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Rita Johnson dywedodd swyddogion fod y gwasanaeth y tu allan i oriau’n darparu gwasanaethau asesu iechyd meddwl a rhif argyfwng y tu allan i oriau a gwasanaethau cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon yngl?n â’r effaith yr oedd y gwasanaeth carchar lleol yn ei chael ar ysbytai lleol a chyfeiriodd at achosion cynyddol o oedi o ran amseroedd aros am apwyntiadau a thriniaethau yn Wrecsam Maelor fel enghraifft. Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylw am yr angen i ddarparu cyllid ychwanegol i dalu am gostau trin unigolion o’r gwasanaeth carchar. Cytunodd y Prif Swyddog i fynegi pryderon y Pwyllgor yngl?n â’r effaith ar drigolion Sir y Fflint wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell cymeradwyo’r fersiwn drafft o Gynllun Rhanbarthol Asesu Poblogaeth Gogledd Cymru; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ymateb i’r heriau o ddarparu gwasanaethau yn yr hinsawdd ariannol bresennol

 

 

Awdur yr adroddiad: Neil Ayling

Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: