Manylion y penderfyniad
Welsh Government's (WG) 21st Century Schools Programme and Education Programme Band B and Mutual Investment Model (MIM)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval of the Mutual Investment
Model (MIM) funding model and to underpin the projects contained
within the programme.
Penderfyniadau:
Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ymddiheuriadau am y camgymeriad yn yr atodiad i’r adroddiad, oedd yn nodi mai bwriad y Cyngor oedd uno Ysgol Terrig ac Ysgol Glanrafon ar safle Glanrafon yn Yr Wyddgrug a chau’r ddarpariaeth yn Ysgol Terrig. Dylai’r adroddiad fod wedi amlinellu’r angen i adolygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardaloedd hynny a cheisio mynd i’r afael â’r lleoedd gwag yn Ysgol Terrig a’r diffyg lleoedd yn Ysgol Glanrafon, sydd ill dau â’u heriau eu hunain. Diolchodd i Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Terrig am dderbyn ymddiheuriad y Cyngor ac am eu cadarnhad eu bod yn dymuno gweithio’n ymarferol â’r Cyngor i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Trwy’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn helpu Llywodraeth Cymru (LlC) i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd Band B yn cynnwys cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti.
Amlinellodd yr adroddiad y prosiectau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor i LlC. Eglurodd yr egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith lleiaf posib ar gyllidebau refeniw’r dyfodol. Darparwyd manylion hefyd am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).
Darparodd Band B gyfle cyffrous arall i’r Cyngor adeiladu mwy o ysgolion newydd a gwella’r cyfleusterau’n llwyr mewn eraill. Byddai hyn yn sicrhau bod llawer mwy o ddisgyblion Sir y Fflint yn cael defnydd o’r cyfleusterau gorau posib, fyddai’n gwella ansawdd y dysgu.
Ar gyfer prosiectau traddodiadol, byddai’r cyllid yn cael ei rannu 50:50 rhwng LlC a’r Cyngor. Fodd bynnag, dan y mecanwaith cyllido MBC newydd, bydd LlC yn cyllido 75% a’r Cyngor yn cyllido 25%.
Y CAS oedd cam cyntaf proses hir o dynnu’r ffrwd gyllido i lawr gan LlC, a dyma oedd datganiad o fwriad y Cyngor. Bydd pob prosiect unigol yn cael ei ystyried gan y Cabinet.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am wybodaeth am y broses ymgynghori ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan geisio sicrwydd am y model MBC. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cafodd y cynigion eu hystyried yn y lle cyntaf gan Fwrdd y Rhaglen Addysg ac Ieuenctid a Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf. Cyflwynir yr adroddiad a’r argymhellion ger bron y Cabinet heddiw ac, os cânt eu cymeradwyo, bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus manwl yn cychwyn, fel y diffiniwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Ar MBC, eglurodd mai ffurf newydd LlC ar Fenter Cyllid Preifat (MCP) yw hwn, gydag unrhyw brosiectau MBC yn arwain at system addysg ddwy haen o ran ansawdd a dwyster y drefn gynnal a ddefnyddir. Bu i MBC ystyried a dysgu o faterion blaenorol gyda MCP. Bydd gwaith yn cael ei wneud â phartneriaid allweddol mewn cymunedau i sicrhau bod cymunedau’n ymwybodol bod addysg cyfrwng Cymraeg yn ddewis iddynt hwy.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn debygol y byddai rhywfaint o le i symud o fewn y cynigion, ond bod meini prawf penodol ar gyfer gwneud ceisiadau.
Croesawodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad a’r cyllid MBC. Roedd hi nawr yn bwysig gwrando ar farn y cymunedau ar ôl i’r ymarfer ymgynghori ddod i ben cyn cael adroddiad pellach i’r Cabinet.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad hefyd, gan roi manylion y cyflawniadau a wnaed trwy Band A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cytunodd â’r Prif Weithredwr nad oedd y rhestr yn un terfynol, gan egluro bod nifer o brosiectau wedi’u cynnwys yn y cynigion Band A nad oedd wedi mynd yn eu blaenau.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y sylwadau o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.
Awdur yr adroddiad: Damian Hughes
Dyddiad cyhoeddi: 01/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/02/2018
Dogfennau Atodol: