Manylion y penderfyniad
Mid Year Risk Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To endorse the Council's actions taken to mitigate the significant risks at the mid year point.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y risgiau strategol yng Nghynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor a throsolwg o’r adolygiad Rheoli Risgiau diweddar a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol.
Adroddwyd bod y rhan fwyaf o’r 48 risg wedi’u hasesu fel cymedrol a bod yr 11 risg goch yn gysylltiedig yn bennaf â sefyllfa ariannol barhaus y Cyngor nad oedd modd eu lliniaru’n llawn. Roedd pryderon ynghylch y potensial i rai risgiau coch ddwysáu i fod yn ddu (difrifol) a oedd yn ddigynsail.
O ran amseru’r diweddariad, cynghorodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod y sefyllfa’n destun newid wrth adrodd ar sefyllfa Chwarter 3 y mis canlynol. Esboniodd hefyd y byddai adroddiadau’r dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder ar dueddiadau.
Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod cylch gwaith yr adolygiad eleni wedi newid i ganolbwyntio ar adnabod, rheoli ac adrodd ar risgiau gweithredol a oedd wedi cael lefel sicrwydd cyffredinol o ‘resymol’. Roedd nifer o feysydd lle’r oedd risg yn cael ei reoli’n dda a lle gwnaed cynnydd ar y pedwar maes a ddynodwyd ar gyfer gwelliant pellach.
Gofynnodd y Cynghorydd Woolley a oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gyfathrebiadau am y risg ar fodloni’r galw cynyddol am ofal cartref preswyl a nyrsio. Dywedodd y Prif Weithredwr fod codiadau diweddar mewn cyfraddau preswylio wedi dangos y diffyg gallu. Gwnaed sylwadau gan y Cyngor ar y cyfraddau cadw parhaus o £0.500m o’r Gronfa Gofal Ganolradd yn dda ac roeddent yn aros am benderfyniad ffurfiol. O ran y Polisi a’r Strategaeth Rheoli Risgiau, esboniwyd y byddai diweddariad yn cael ei wneud ac yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf i’w hystyried.
Mewn ymateb i’r cwestiynau gan Sally Ellis a’r Cynghorydd Johnson, dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Phrif Swyddogion i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd ar y meysydd ar gyfer gwelliant i gryfhau prosesau.
Cytunwyd rhai mân newidiadau i argymhellion yr adroddiad i adlewyrchu’r pwyntiau a godwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi statws trosolwg cychwynnol risgiau strategol blaenoriaethau 2017/18 y Cyngor;
(b) Nodi canlyniadau adolygiad Archwilio Mewnol diweddar trefniadau rheoli risg y Cyngor a nodi ymateb rheoli’r Cyngor, yn unol â’r cynllun gweithredu a’r adroddiad Archwilio dilyn i fyny; a
(c) Chyflwyno’r Polisi a’r Strategaeth Rheoli Risgiau i’r cyfarfod nesaf i roi sicrwydd bod hwn wedi’i ddiweddaru’n llawn.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 09/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2018 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: