Manylion y penderfyniad
Financial Forecast and Stage Two of the Budget 2018/19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To consider the feedback from CROSC on the Stage Two of the Budget 2018/19 and to make recommendations to Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Ragolwg Ariannol a Cham Dau Cyllideb 2018/19 a oedd yn gofyn bod yr aelodau’n ystyried adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, yr oedd pob aelod wedi cael gwahoddiad iddo, ar Gam Dau y gyllideb ac i wneud argymhellion i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Cyflwynwyd y penderfyniadau drafft a wnaed gan y cyfarfod hwnnw o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i Aelodau'r Cabinet, sef:
1. Wedi ystyried opsiynau cyllideb Cam 2, y dylid nodi’r adroddiad a’r cynigion.
2. Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi;
3. Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Datganiadau Gwytnwch yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau.
4. Bod manylion llawn yr asesiad o risgiau, effeithiau a chanlyniadau'r holl gynigion parthed y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr.
5. Bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnal ym mis Ionawr er mwyn edrych yn fanwl ar daliadau parcio ceir a chynigion par: cyllideb ysgolion, yn y drefn honno, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a
6. Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.
Soniwyd yn benodol am y trefniadau ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr i adolygu’r cynigion ar gyfer parcio ceir a’r gyllideb ysgolion a ddeilliodd o sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. O ganlyniad i gyfraddau amser ac oherwydd yr adroddir ar y gyllideb mewn tri cham erbyn hyn, barnwyd mai dyma’r ffordd orau i graffu ar faterion penodol fel rhan o’r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod adborth yn cael ei dderbyn o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 o strategaeth y gyllideb.
(b) Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi; a
(c) Bod 6 argymhelliad drafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (gweler isod) yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo. Nododd a chymeradwyodd y Cabinet Gam 2 o’r gyllideb i'r Cyngor Sir ar yr amod fod cynigion penodol ar gyfer cyllidebau ysgolion a thaliadau parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr i’w hadolygu yn llawn er mwyn iddyn nhw adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hwn.
Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:
1. Wedi ystyried opsiynau cyllideb Cam 2, y dylid nodi’r adroddiad a’r cynigion.
2. Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi;
3. Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Datganiadau Gwytnwch yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau.
4. Bod manylion llawn yr asesiad o risgiau, effeithiau a chanlyniadau'r holl gynigion parthed y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr.
5. Bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnal ym mis Ionawr er mwyn edrych yn fanwl ar daliadau parcio ceir a chynigion par: cyllideb ysgolion, yn y drefn honno, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a
6. Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.
7. Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi; a
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 12/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/12/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/12/2017
Accompanying Documents: