Manylion y penderfyniad

Greenfield Valley Museum Heritage Park visit and presentation

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an update on the developments at Greenfield Valley Heritage

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariad ar gynnydd o ran mynd i’r afael ag argymhellion adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar lywodraethu, ariannu a threfniadau gweithredu ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

 

Traddododd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol gyflwyniad ar y canlynol:

 

·         Cefndir

·         Cwmpas yr Archwiliad

·         Archwiliad – meysydd a reolwyd yn dda

·         Archwiliad – meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

·         Prif newidiadau 2017/18

·         Amcanion y Cynllun Busnes

 

Yn ystod y cyflwyniad, eglurodd y Rheolwr nifer o ddatblygiadau allweddol megis penodi swyddog gweinyddol/ariannol i gynorthwyo gwelliannau i systemau’r swyddfa gefn a symud i fodel mwy cyfunol dan y portffolio Cynllunio a’r Amgylchedd. Fel rhan o’r newidiadau strwythurol, roedd y ddau Arweinydd Tîm yn chwarae rôl allweddol yng nghyhoeddi’r gweithgareddau yn y wlad, gwella  pryd a gwedd y safle a chynyddu ymgysylltu cyhoeddus, yn arbennig trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae trefniadau llywodraethu wedi eu hatgyfnerthu trwy recriwtio pedwar Ymddiriedolwr newydd a chadw rhai o’r Ymddiriedolwyr blaenorol i roi cymorth yn ystod y cyfnod o drosglwyddo. Byddai’r cynllun busnes tair blynedd yn sail i’r cytundeb rheoli diwygiedig ac yn sicrhau yr atebid anghenion y bartneriaeth. Dywedodd y Rheolwr y cydnabuwyd yr heriau blaenorol a dywedodd fod perthynas weithio cadarnhaol bellach rhwng y tîm a’r Ymddiriedolwyr i gydweithio tuag at yr un amcanion.

 

Fel Aelod Cabinet, mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei gwerthfawrogiad am y gwaith a waned a’r cynlluniau i godi proffil y safle yn y dyfodol. 

 

Bu i’r Cynghorydd Shotton ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad a phwysleisiodd ar yr angen i godi cyhoeddusrwydd y parc, yn arbennig gerbron twristiaid sy’n ymweld o dramor. Eglurwyd bod marchnata yn elfen bwysig o waith y tîm gan ddefnyddio cysylltiadau presennol a chreu rhai newydd er mwyn datblygu strategaeth hirdymor, a bod y wefan newydd ar fin mynd yn fyw.

 

Trafododd y Cynghorydd Chris Dolphin am gymaint o werthfawrogiad a chefnogaeth sydd i’r parc a dywedodd mai yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y profwyd trafferthion. Mynegodd bryderon ynghylch canfyddiadau’r adroddiad archwilio a chwestiynodd y camau gweithredu sy’n mynd rhagddynt ynghylch y trefniadau llywodraethu; dywedodd y dylai cofnodion Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fod ar gael i’w gweld. Bu iddo drafod y dyddiad terfyn ar gyfer gweithredu a mynegi ei siom ynghylch y diffyg manylder yn yr adroddiad  eglurhaol yr oedd yn gobeithio yr eid i’r afael ag o yn y diweddariad nesaf. Cyfeiriodd at yr effaith negyddol ar y gymuned yn sgil y penderfyniad blaenorol i dynnu’r pegiau pysgota o’r pwll yn y safle i atal pysgota.

Eglurodd y Prif Swyddog mai erbyn mis Medi 2017 yr oedd yn rhaid i’r Ymddiriedolaeth gyflwyno ymrwymiad i dderbyn argymhellion adroddiad yr archwiliad, a oedd yn yr agenda at ddibenion didwylledd. Byddai’r Archwiliad Mewnol yn monitro’r camau gweithredu ac yn adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin 2018. Roedd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys rhai aelodau newydd â sgiliau pwysig i gynorthwyo datblygiad a chynaliadwyedd y safle. Er mwyn cynnal elfen o barhad, cytunodd rhai cyn-aelodau i aros, yn cynnwys y Trysorydd (fel y nodir yn adroddiad yr archwiliad) a fyddai’n aros ar y Bwrdd dros y cyfnod trosglwyddo.

 

Cyfeiriodd Gwladys Harrison at ganfyddiadau adroddiad yr archwiliad ac eglurodd fod peth o’r wybodaeth a geisid ar gael yn rhywle arall ar y pryd. Fel yng nghyflwyniad y Rheolwr, rhoddodd sicrwydd bod y bartneriaeth yn cydweithio i wneud i’r Ymddiriedolaeth ddwyn elw a gofynnodd am gymorth Aelodau etholedig i wneud hyn. Yn ymateb i bryderon y Cynghorydd Dolphin ynghylch tynnu’r pegiau pysgota, darllenodd ddatganiad yn egluro cefndir y penderfyniad, gan ychwanegu y byddai cynrychiolwyr y Cyngor Sir a Chyngor Tref Treffynnon ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’r ffeithiau ar y pryd. Eglurodd na fu dewis ond atal pysgota, er gwaethaf ymdrechion taer y Bwrdd ar y pryd, oherwydd anterth materion a allai beryglu bywyd, problemau diogelwch ac effaith ar fywyd gwyllt. Cyfeiriodd at drafodaethau a oedd wedi eu trefnu er mwyn ail-gyflwyno pysgota yn y safle yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Johnson, Perfect, Legg, Hinds a Hughes o blaid y cynnydd a wnaed ac yr amcanion at y dyfodol y gobeithient y byddent yn llwyddiannus. Codwyd nifer o awgrymiadau ynghylch ehangu marchnata’r safle i ardaloedd megis Glannau Merswy, gan gynnwys safleoedd lleol eraill o ddiddordeb ar yr un deunydd hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth mewn cylchlythyrau Cynghorau Tref/Cymuned a gan Aelodau’r Cyngor.

 

Gan groesawu’r cysylltiadau gwell â Chyngor Tref Treffynnon, gobeithiai’r Cynghorydd Rosetta Dolphin y byddai’r cynlluniau ar gyfer y parc yn llwyddiannus. Gofynnodd beth oedd yr amserlen a ragfynegid ar gyfer gwella’r risgiau ‘coch’ yn adroddiad yr archwilio, a dywedodd y Prif Swyddog yr adroddir am y cynnydd arth y Pwyllgor Archwilio. Cytunodd y byddai’r cynllun busnes ar gael i’r Pwyllgor ac i Gyngor Tref Treffynnon wedi ei gyflwyno i Fwrdd y Cyfarwyddwyr ym mis Mai.

 

Yn ymateb i ymholiad ynghylch cymharu â threfniadau ym Mharc Gwepra, eglurodd y Rheolwr fod y model hwn yn wahanol ac yn cael ei reoli’n fewnol. Roedd y trefniadau llywodraethu ar gyfer Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas yn wahanol oherwydd bod y safle’n cynnwys Amgueddfa. Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Dunbobbin, cafwyd eglurdeb ynghylch ‘Cyfeillion Parc Gwepra’ fel gr?p cymunedol â buddiant yn y safle, yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol ac Aelodau etholedig.

 

Siaradodd y Cadeirydd o blaid y cynlluniau a mynegi ei ddiolch i’r Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a Gwladys Harrison am roi taith o’r safle cyn y cyfarfod. 

 

Yn ystod trafodaeth ynghylch yr argymhellion, cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin addasiad a chytunodd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r diweddariad a’r cyflwyniad; ac

 

(b)       Y dylai’r Pwyllgor dderbyn diweddariad gwybodaeth bob chwe mis.

Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow

Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 17/04/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/04/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: