Manylion y penderfyniad

Financial Forecast and Budget Position

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide a verbal update on the financial forecast and budget position for 2018/19.

 

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar am y Rhagolwg Ariannol a Sefyllfa’r Gyllideb.  Roedd Cam Un y gyllideb wedi’i gwblhau ac roedd Cam Dau wedi cael ei drafod yn y Cyngor Sir yr wythnos flaenorol gyda’r canlyniadau a ganlyn:

 

·         Byddai amrediad Treth y Cyngor rhwng 3% a 5%;

·         Byddai argymhellion gan y Cabinet yn cael eu cyflwyno, sef;

 

(a)       Bod opsiynau’r Gyllideb Cam Dau yn yr adroddiad Craffu ac argymhellion y Cabinet a nodir isod yn cael eu cyflwyno;

 

(i)         Bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 strategaeth y gyllideb;

 

(ii)        Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a

 

(iii)       Bod y Cabinet yn cael a derbyn yn llawn y 6 argymhelliad drafft gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (rhestrir isod).  Gwnaeth y Cabinet nodi ac argymell Cam 2 y gyllideb i'r Cyngor Sir gyda’r amod y byddai’r cynigion penodol ar gyllidebau ysgol a thaliadau parcio ceir yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr ar gyfer adolygiad llawn, er mwyn iddynt adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hyn.

 

Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:

1.            Ar ôl ystyried opsiynau’r gyllideb Cam 2, nodi’r adroddiad a’r cynigion;

2.            Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a

3.            Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a thros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd yn cael eu dosbarthu i bob Aelod;

4.            Bod manylion llawn yr asesiadau o’r risgiau, effeithiau a chanlyniadau o’r holl gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;

5.            Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnull ym mis Ionawr i adolygu’r taliadau parcio ceir a chynigion y gyllideb ar gyfer ysgolion fel ei gilydd yn fanwl gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a

6.            Bod adroddiad yn adolygu’r broses ar gyfer proses gosod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

(2)       Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi.

 

            Byddai trafodaeth yn cael ei chynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC) am y sefyllfa hon.  Rhoddodd sylwadau ar £20m posibl ychwanegol i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2018/19, gyda £40m posibl yn 2019/20, ar sail y fformiwla, byddai hyn yn £950,000 ac £1.7m ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fel ei gilydd ar gyfer Sir y Fflint.  Rhoddodd sylwadau hefyd ar dri chais penodol LlC, sef: (1) Cap Ffioedd Gofal Cartref; (2) Cronfa Gofal Canolraddol; a (3) Ardoll Treth Prentisiaid.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod lobïo yn parhau ar y tri maes penodol hwnnw. 

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Attridge sylwadau ar yr 1% a ragwelwyd ar gyfer codiadau cyflog yn y gyllideb, a gofynnodd beth fyddai’r sefyllfa pe bai’r ganran honno’n cael ei chynyddu.  Eglurodd Cynghorydd Shotton mai’r Cynnig Cyflogwyr, yn dilyn trafodaethau cenedlaethol, oedd 2%, ac roedd yn bryderus nad oedd Canghellor y Trysorlys wedi dweud a fyddai’n cael ei ariannu’n llawn.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod posibilrwydd iddo fynd y tu hwnt i 2%, a’r pryder oedd sut byddai’n cael ei ariannu; barn LlC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) oedd y dylai unrhyw beth dros godiad 1% gael ei ariannu ar lefel y DU.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts, pe bai’n uwch na 1%, byddai’r effaith ar ysgolion yn annioddefol. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Y dylid derbyn yr adroddiad llafar.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 06/01/2018

Accompanying Documents:

  • Financial Forecast and Budget Position