Manylion y penderfyniad
Welsh Public Library Standards: Review of Performance 2016/17
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To outline the progress of delivery for the library service against the Welsh Public Library Standards.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad ar adolygiad o berfformiad gwasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint yn 2016/17 yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.
Rhoddodd Kate Leonard, Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd drosolwg o berfformiad a oedd wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol. Rhoddodd grynodeb o gyflawniadau ar Hawliau Craidd a Dangosyddion Ansawdd, a rhoddodd eglurhad ar y rhai nad oedd wedi cael eu diwallu'n llawn, fel y manylir yn yr adroddiad. Bu ffocws parhaus ar wella perfformiad a byddai llenwi swyddi gwag yn cael effaith gadarnhaol ar y flwyddyn ganlynol. Fe soniwyd yn yr Adroddiad Asesiad Blynyddol am gyflawniadau’r gwasanaeth wrth gynnal perfformiad yn ystod cyfnod o newid, ond fe soniodd hefyd am bwysigrwydd buddsoddiad parhaus. Dywedodd y Rheolwr y byddai’r rhagolygon o ostyngiadau pellach yn cyflwyno risg yng ngweithrediad a gwydnwch y gwasanaeth.
Fe soniodd y Cynghorydd Dunbar am lwyddiant llyfrgell Glannau Dyfrdwy a darparu Wi-Fi mewn llyfrgelloedd.
Gan ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad bod dau reolwr llyfrgell newydd wedi’u penodi a bod ailstrwythuro’r tîm yn gynharach yn y flwyddyn wedi creu haen newydd i gefnogi datblygiad gyrfaol. O ran cyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol, cafwyd eglurhad bod gostyngiad parhaol o 10% o gyllid cyffredinol gan y Cyngor yn rhan o’r cynllun busnes presennol.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Gay am ddyfodol gwasanaeth y llyfrgell deithiol, dywedodd y Rheolwr y byddai cerbyd newydd ar gael i'w ddefnyddio'n fuan. Cafodd aelodau eu hannog i gysylltu â rheolwr y llyfrgell os oedd ganddynt unrhyw ofynion penodol ar gyfer gwasanaeth y llyfrgell deithiol.
Cynigiodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn croesawu bod perfformiad wedi cael ei gynnal, a’r cynnydd o ddarparu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn croesawu bod perfformiad wedi cael ei gynnal, a’r cynnydd o ddarparu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 02/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: