Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y Cyd).

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau a rhoi esboniad llawn o'i gollfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

 

Rhoddodd yr ymgeisydd fanylion am y cefndir a arweiniodd at y troseddau a oedd wedi digwydd fel yr amlinellwyd yn y DBS, ac yr oedd yn edifar ganddo. Cadarnhaodd ei fod wedi mynychu cwrs perthnasol ar gyfer ei drosedd DR10 a oedd wedi lleihau ei waharddiad gyrru 18 mis cychwynnol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad ar wahanol agweddau o'i gollfarnau gan gynnwys manylion am ei fywyd personol, a oedd yn cynnwys pa mor aml yr oedd yn gofalu am ei blentyn yn wythnosol. Ymddiheurodd yn ddiffuant am y camgymeriadau anghyfrifol a'r penderfyniadau anghywir a wnaethpwyd ar y ddau achlysur. Wrth ymateb i gwestiynau pellach dywedodd ei fod yn ystyried ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr gwestiynau pellach mewn perthynas â'r digwyddiadau a amlinellir yn y datgeliad DBS, gan gynnwys pam mai rhybudd yn unig a gafodd am y drosedd o fod â chyffuriau yn ei feddiant. Esboniodd yr ymgeisydd bod hynny am nad oedd wedi bod mewn trafferth o’r blaen. Cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw broblemau ag alcohol na chyffuriau.

 

I gloi, ychwanegodd yr ymgeisydd, ers y digwyddiad diwethaf, ei fod wedi troi ei fywyd o gwmpas er ei les ei hun a'i blentyn a’i fod wedi cael cynnig swydd lawn amser gyda chwmni tacsis a fyddai'n rhoi cyfle gwych iddo wneud gwell bywyd ar eu cyfer.

 

Darllenodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ddau eirda personol a dderbyniwyd am yr ymgeisydd.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi'u codi, gofynnodd i'r ymgeisydd, ei gynrychiolydd a'r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod y panel yn dod i benderfyniad.

 

4.1       Penderfynu ar y Cais

                      

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd y panel ganllaw’r Cyngor ar drin euogfarnau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Ystyriodd y panel yr amgylchiadau cysylltiedig ym mhob achos a theimlai fod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y Cyd).

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a'r ymgeisydd i ddychwelyd fel y gellid ailgychwyn y cyfarfod.

 

4.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y panel wedi ystyried y sylwadau a wnaed gan yr holl bartïon a chytunodd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a bod y Drwydded yn cael ei chaniatáu.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 02/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/11/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •