Manylion y penderfyniad

Diweddariad ar y Diwygiad Lles

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on Welfare Reform including the roll out of Universal Credit


Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar yr effaith roedd 'Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau hawliau lles eraill yn eu cael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith oedd yn parhau i liniaru a chefnogi aelwydydd. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyflwyniad ar y Diwygiad Lles yn Sir y Fflint a chwmpasodd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Diwygiadau Cyn Credyd Cynhwysol
    • Treth Ystafell Wely
    • Uchafswm Budd-daliadau
  • Credyd Cynhwysol
    • Problemau ac Effeithiau
  • Gwaith Cefnogi
    • Cefnogaeth Cyllidebu Personol
    • Cefnogaeth Ddigidol Cynorthwyol
    • Taliadau Tai Dewisol
  • Effeithiau Diwygiad Lles Arfaethedig
  • Dadansoddi Data
  • Diwygiadau Lles y Dyfodol (o 2020)

o   Cyfyngiad Lwfans Tai Lleol – diddymwyd ar gyfer Tenantiaid Tai Cymdeithasol

o   Cyfyngiad Lwfans Tai Lleol – diddymwyd ar gyfer llety â chymorth

o   Nawdd wedi’i neilltuo ar gyfer Llety mewn Argyfwng 

 

            `           Diolchodd y Cadeirydd y Rheolwr Budd-daliadau am gyflwyniad manwl, llawn gwybodaeth a bu gwahoddiad i Aelodau ofyn cwestiynau.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei bryderon a leisiodd o’r blaen ynghylch effaith Credyd Cynhwysol a rhoddodd sylwadau ar y mater o ôl-ddyledion rhent.Rhoddodd ganmoliaeth i waith y Rheolwr Budd-Daliadau a’i Thîm am ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i breswylwyr Sir y Fflint, sydd wedi cael eu nodi gan Lywodraeth Cymru.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd David Wisinger ei fod wedi derbyn cwynion gan rai o’r preswylwyr am nad oedd modd iddynt dalu eu rhent yn lleol ac eu bod wedi gwynebu problemau wrth gysylltu â'r Awdurdod dros y ffôn i drafod Credyd Cynhwysol.  Cytunodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’n dilyn i fyny ar y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Wisinger yn dilyn y cyfarfod.

 

                        Yn ystod trafodaeth ymatebodd y Rheolwr Datrysiadau Tai a Chomisiynu i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd ynghylch digartrefedd ac esboniodd effaith gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol a’r pwysau o ganlyniad i hyn ar gyllideb digartrefedd Sir y Fflint. Dywedodd fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno newid i’r ddeddfwriaeth yn y Flwyddyn Newydd i ddarparu ffordd wahanol i'r Awdurdodau Lleol adennill ychydig o’r costau a ysgwyddir wrth osod unigolyn neu deulu mewn llety mewn argyfwng, dros dro.

 

                        Ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle ynghylch darpariaeth llety interim a defnyddio llety gwely a brecwast. Cododd y Cynghorydd Hardcastle gwestiynau am y mater o denantiaid mewn ôl-ddyledion rhent, a’r anawsterau oedd yn wynebu tenantiaid oedd yn dymuno symud i eiddo llai ond nid oedd modd iddynt wneud hynny oherwydd y diffyg eiddo addas ar gael. Addawodd y Prif Swyddog bod rhywun wedi cysylltu â'r tenantiaid oedd mewn ôl-ddyledion rhent cyn gynted â phosib i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch incwm a hawl.  

 

PENDERFYNWYD: 

 

            Bod y pwyllgor yn parhau i gefnogi’r gwaith parhaus i reoli'r effeithiau mae’r Diwygiadau Lles yn eu cael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

 

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: