Manylion y penderfyniad
North East Wales Homes Limited
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To request approval regarding Flintshire
County Council’s member nomination(s) for the Board of
Directors.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad North East Wales (NEW) Homes Limited.
Wedi i'r Cynghorydd Attridge gamu i lawr fel Cadeirydd ac Aelod Bwrdd NEW Homes, a bod lle gwag yn parhau ar gyfer y bwrdd, roedd y Cynghorwyr Janet Axworthy a Sean Bibby wedi eu henwebu i lenwi'r swyddi gwag.
Roedd angen dau welliant i Erthyglau Cymdeithasu NEW Homes, byddai’r cyntaf yn caniatáu’r cwmni i benodi Is Gadeirydd a fyddai’n darparu mwy o hyblygrwydd mewn cyfarfodydd pan na fyddai’r Cadeirydd yn bresennol. Byddai’r ail yn caniatáu diddymu safle’r cyfarwyddwr pan fyddai cyfarwyddwyr y cwmni wedi methu mynychu nifer benodol o gyfarfodydd y bwrdd mewn unrhyw flwyddyn neu flwyddyn ariannol.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod penodiad y Cynghorydd Janet Axworthy a’r Cynghorydd Sean Bibby yn cael ei gymeradwyo fel Cyfarwyddwyr NEW Homes yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Bwrdd NEW Homes;
(b) Fod gwelliant i Erthyglau Cymdeithasu NEW Homes i ganiatáu penodi Is Gadeirydd NEW Homes yn cael ei gymeradwyo; a
(c) Fod gwelliant i Erthyglau Cymdeithasu NEW Homes yn cael ei gymeradwyo i ddarparu ar gyfer diddymu safle’r cyfarwyddwyr os na fyddai presenoldeb yng nghyfarfodydd y bwrdd mewn unrhyw flwyddyn neu flwyddyn ariannol gyda thelerau penodol wedi eu cymeradwyo gan Fwrdd NEW Homes.
Awdur yr adroddiad: Amanda Haslam
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/11/2017
Dogfennau Atodol: