Manylion y penderfyniad

Council Plan 2017/18 - Mid year monitoring

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Quarters 1 & 2 Council Plan Monitoring Reports

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad hanner blwyddyn i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Eglurodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 67% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.Yn ogystal â hyn, roedd 65% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed. Dywedodd y Prif Swyddog fod risgiau hefyd yn cael eu rheoli’n llwyddiannus, gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau, ac adroddodd ar y risgiau mawr, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at Adroddiad Cynnydd Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017 / 18, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a’r dangosydd perfformiad ar y nifer o ofalwyr i oedolion a nodwyd, gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill, sut allai Sir y Fflint sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed gan fod llawer o ofalwyr heb eu nodi o fewn ardal yr Awdurdod. Cydnabu’r Prif Swyddog y byddai rhai gofalwyr i oedolion yn anhysbys i’r Awdurdod, fodd bynnag, darparwyd y wybodaeth hon gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru ac roedd gwaith yn parhau er mwyn cael a gwella data'r gofalwyr gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach gan y Cynghorydd Hilary McGuill, mewn perthynas â chanran yr atgyfeiriadau amddiffyn plant sydd wedi arwain at “ddim camau pellach”, eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu’r cefndir i'r dangosydd perfformiad a’r angen i ostwng y ffigwr.Eglurodd hefyd nad oedd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn weithredol yn ystod mis Ebrill, Mai a Mehefin a’r nod oedd cyrraedd ffigwr o dan 35, dylid gallu cyflawni hyn bellach gan fod y Ganolfan Cymorth Cynnar wedi'i sefydlu. Cadarnhaodd fod y dangosyddion cynnar yn dangos fod y Ganolfan yn llwyddiannus iawn a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Y dylid nodi adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18.

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: