Manylion y penderfyniad
Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the Quarters 1 & 2 Council
Plan Monitoring Reports
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) yr adroddiad i gyflwyno cynnydd monitro canol y flwyddyn ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau ynghylch monitro gweithgareddau, perfformiad a risgiau, fel y’u manylir yn yr adroddiad ac estynnodd wahoddiad i’r Rheolwr Menter ac Adfywio, Rheolwr Budd-daliadau, Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai a Rheolwr Datrysiadau Tai a Chomisiynu, i ddarparu diweddariad ar gynnydd yn eu hardaloedd gwasanaeth.
Cyfeiriodd y Rheolwyr Gwasanaeth at Adroddiadau Cynnydd Canol y Flwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 – Cyngor Cefnogol a Chyngor Uchelgeisiol, oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad ac adroddwyd ar yr is-flaenoriaethau a’r cynnydd cyffredinol a chanlyniadau gweithgareddau ar gyfer eu hardaloedd gwasanaeth.
Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei werthfawrogiad i’r Swyddogion am eu gwaith a’u cefnogaeth wrth ymdrin â’r mater o wersylloedd anghyfreithlon ar Dir Comin Bwcle.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Accompanying Documents: