Manylion y penderfyniad
County Hall Civic Campus and Ewloe Office Re-location – Outline Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present a business case and plan for demolition of County Hall, Phases 1 to 4, the redevelopment of the site and the transfer of some functions to Unity House, in Ewloe
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Ail-Leoli Swyddfa Ewloe a Champws Dinesig Neuadd Y Sir - Cynllun Amlinellol.
Roedd y Cyngor wedi lleihau maint ei swyddfeydd a oedd yn ofynnol yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, a bellach ond yn meddiannu Camau 1 a 2. Roedd Unity House yn Ewloe yn wag, ac roedd trafodaethau i gwblhau’r hawliad dadfeiliad wedi dod i ben. Yn y tymor byr i ganolig, roedd opsiwn hyfyw i ystyried symud nifer fawr o staff swyddfa o Neuadd y Sir i Unity House, wrth ystyried y strategaeth tymor hirach ar yr un pryd ar gyfer canolbwynt dinesig.
Roedd gwaith cynllunio cychwynnol ac achos busnes cysylltiedig yn nodi’r opsiynau tymor byr i ganolig, yn nodi y gellid adleoli i Unity House yn 2018. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagor o fanylion ar gostau a chynlluniau ac yn cynnig dull graddol i symud.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorwyr Thomas ac Attridge, esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn cael ei ystyried yn gyfrinachol, oherwydd natur y wybodaeth fasnachol ynddo, yn enwedig o ran amcangyfrif o werth y tir yn Neuadd y Sir. Cytunwyd y byddai manylion nad oeddent yn gyfrinachol yn yr adroddiad yn cael eu rhannu cyn gynted â phosibl.
Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu diwygio a'u cytuno fel yr amlinellwyd isod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod achos busnes yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad manwl gydag Undebau Masnach a'r gweithlu ac ar gyfer ystyriaeth yng nghyllidebau 2018/19; a
(b) Bod cynllun meistr yn cael ei gomisiynu ar gyfer campws Neuadd y Sir, a bod tendrau’n cael eu gwahodd i ddymchwel ar gyfer Camau 3 a 4.
Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton (old)
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 24/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet
Dogfennau Atodol:
- County Hall Civic Campus and Ewloe Office Re-location – Outline Plan
- Enc. 1 for County Hall Civic Campus and Ewloe Office Re-location – Outline Plan
- Enc. 2 for County Hall Civic Campus and Ewloe Office Re-location – Outline Plan