Manylion y penderfyniad
Community Resilience and Community Benefits Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an overview of Council work taking place to enable Community Resilience and the proposal to agree a Community Benefits Strategy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad Gwydnwch Cymunedol a Strategaeth Budd Cymunedol, a roddodd drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn yr ardal, gan adeiladu ar waith blaenorol i dyfu’r sector cymdeithasol drwy ddatblygu menter gymdeithasol, yn cynnwys Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a Modelau Darparu Amgen.
Roedd yr adroddiad yn cynnig cytuno ar y Strategaeth Budd Cymunedol a oedd yn diffinio cyfres o fuddion cymunedol am y tro cyntaf, y gellid eu defnyddio mewn pob math o gontractau caffael, ond y gellid eu defnyddio hefyd i asesu lefel y budd cymunedol a ddarparwyd gan sefydliad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod 24 menter gymdeithasol / sefydliad cymdeithasol a oedd yn gweithio yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf yn fuddiolwyr cefnogaeth y Cyngor, i helpu eu datblygiad. Roedd hynny, ynghyd â’r rhaglen Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol, wedi arwain at nifer o asedau'n cael eu trosglwyddo i fentrau cymdeithasol / sefydliadau cymunedol. Roedd canlyniadau’r gwaith hwnnw, o ran datblygu sefydliadau a’u galluogi i gymryd asedau a gwasanaethau, wedi arwain at waith sector cymdeithasol cryfach ar lefel gymunedol. Cymerodd y cyfle hwn i longyfarch Caffi Isa a oedd wedi ennill y Wobr Busnes Cymdeithasol Gorau yn Seremoni Wythnos Fusnes Sir y Fflint yr wythnos flaenorol.
Ychwanegodd, gyda chynnydd yn nifer a maint sefydliadau yn y sector cymdeithasol, roedd hyn wedi galluogi gwaith y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen sector cymdeithasol gryfach hon, ac i allu adnabod y sector fel un gwerthfawr, a oedd yn ymdebygu i fusnes. Roedd hefyd yn annog mwy o ymwybyddiaeth ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymdeithasol, am ddarparu amcanion cymdeithasol neu fuddion cymunedol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r Strategaeth Budd Cymunedol.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 24/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 02/11/2017
Dogfennau Atodol: