Manylion y penderfyniad
Domestic Energy Efficiency Programme
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the delivery of domestic energy efficiency programmes.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r canlynol:-
· Y Rhaglenni Effeithlonrwydd Ynni Domestig a ddarparwyd yn Sir y Fflint dros y blynyddoedd diwethaf i gartrefi yn stoc y Cyngor a'r sector preifat;
· Y cyfanswm o 4325 o gartrefi a gafodd gefnogaeth yn y pum mlynedd diwethaf; ac
· Amlinelliad o’r mesurau a fyddai’n arbed arian i gartrefi yn y dyfodol ac a fyddai hefyd yn arbed dros 123,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid.
Roedd y cyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn gyfyngedig ar gyfer rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig i gartrefi'r sector preifat, ac roedd dyfodol cyllid ynni yn aneglur.
Roedd y prif raglenni gwaith a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:-
· Paneli ffotofoltaidd solar
· Inswleiddio waliau allanol
· Cynlluniau Mewnlenwi Nwy
· Prosiect peilot oddi ar nwy
· Cronfa mewn Argyfwng Cynhesrwydd Fforddiadwy a chynllun Cartrefi Iach Pobl Iach, a
· Chyngor ar Ynni ac Ymgysylltiad â'r Gymuned drwy Ganolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru
Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton y mentrau inswleiddio atig a phaneli solar, a fyddai’n darparu arbedion ar gyfer preswylwyr, a gofynnodd a oedd unrhyw beth newydd ar arbed ynni yn cael ei ystyried ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod tariffau effeithlonrwydd a thariffau cymdeithasol yn cael sylw ar hyn o bryd.
Cytunodd y Cynghorydd George Hardcastle gyda sylwadau’r Cynghorydd Shotton hefyd, a gofynnodd os mai dim ond ar gyfer byngalos oedd y rhaglen solar. Gofynnodd hefyd faint fyddai cost gosod y rhain, a beth fyddai’n digwydd pe na bai’r preswylydd am gael eu gosod.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio nad dim ond ar gyfer Byngalos oedd y paneli hyn, ond bod y rhaglen wedi'i dylunio i ddarparu'r budd mwyaf i breswylwyr. Cost gosod y paneli yw rhwng £3,500 a £4,000 am set lawn o baneli. Pe bai preswylydd yn gwrthod cal paneli solar, yna ni fyddai paneli solar yn cael eu gosod. Ond yn y dyfodol, pe bai preswylydd newydd yn yr eiddo am gael paneli solar, byddai'n cael ei ychwanegu at y rhaglen bosibl ar gyfer y flwyddyn honno ac, os yn bosibl, byddent yn cael eu gosod.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarperir yn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 02/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 16/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol: