Manylion y penderfyniad

Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consult the Committee on the Stage 1 Council Fund Revenue budget proposals for 2018/19

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 yn ogystal â’r pwysau ariannol a’r opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.

 

            Diwygiwyd y rhagolwg ariannol a oedd wedi’i nodi yn adran 1.04 yr adroddiad, i ystyried y penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, a’i ddiweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau gan bortffolios gwasanaeth.  Defnyddiwyd setliad yr un fath neu debyg i waelodlin ariannol 2017/18 fel sail ar gyfer cyfrifo'r rhagolwg ar gyfer 2018/19 ac nid oedd unrhyw fodel ar gyfer codi lefelau Treth y Cyngor wedi’i gynnwys yn ystod y cam hwn.

 

            Daeth y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol i’r casgliad bod cam un y cynigion ar gyfer y  portffolio gwasanaeth yn cael eu cyflwyno drwy gydol mis Hydref i'w hadolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Roedd y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref, 2017. Roedd y setliad terfynol i’w gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn galendr, yn dilyn datganiad cyllideb Canghellor y Trysorlys ar 22 Tachwedd 2017. 

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i gyflwyno'r Datganiad Gwytnwch a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Cymuned a Menter. 

 

            Rhoddodd Rheolwr Cyllid y Gwasanaethau Cymunedol fanylion am yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2018-19, sef cyfanswm o £0.837m a £0.893m, fel y manylir yn y Model Gweithredu yn y Dyfodol, a ddangosir yn Atodiad 2. Roedd yr arbedion arfaethedig yn cynnwys trefniadau newydd ar gyfer taliadau ffôn i gysylltu â’r Gwasanaeth Cysylltiadau, addasiad i ddarpariaeth dyledion gwael, effeithlonrwydd y gweithlu ac arbedion y Cynllun CTRS.             

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at Hawliau Lles a’r aelodau o staff Sir y Fflint sy’n gweithio gyda Chyngor ar Bopeth, gan helpu i gefnogi hawlwyr gyda Chredyd Cynhwysol a gafodd oblygiadau mawr.  Gofynnodd a ddylai llywodraethwyr ysgol dynnu mwy o sylw at argaeledd prydau ysgol am ddim.  Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai y dylid lobio unrhyw un a allai ddylanwadu’n genedlaethol neu’n lleol, am nad oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd a allai gael mynediad ato.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at brydau ysgol am ddim, gan awgrymu y byddai mwy o sgyrsiau gyda rhieni yn fuddiol er mwyn annog y defnydd ohonynt.

           

Croesawodd y Cynghorydd Dolphin y cynnig o ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, er mwyn lleihau nifer y teuluoedd sy’n gorfod aros mewn llety gwely a brecwast.  Rhoddodd sylw hefyd ar y Tîm Hawliau Lles a chafodd sioc mai dim ond 2 aelod o staff oedd yn y tîm, gan ofyn a oedd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir.

 

            Mewn ymateb, rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai sylw am hawlwyr credyd cynhwysol yn gorfod aros hyd at chwe wythnos ac, mewn rhai achosion, hyd at bedwar neu bum mis ar gyfer prosesu eu hawliau.  Cadarnhaodd na fyddai unrhyw effeithlonrwydd cyllideb pellach yn cael ei ddarganfod yn y Tîm Hawliau Lles, yn ogystal â'r hyn y cynigir yn yr adroddiad hwn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r ymagwedd a gymerir tuag at y Gyllideb yn y portffolio Cymunedau a Menter.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 02/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 16/10/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: