Manylion y penderfyniad
Bailey Hill - Heritage Lottery Fund Stage 2 Application
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide the outline proposals for the Heritage Lottery Fund (HLF) stage 2 grant application.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Gais Cam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri – Bailey Hill, sy’n manylu ar gynnydd y prosiect ac yn cynnig sefyllfa’r Cyngor a chyfraniadau tuag at y prosiect, cyn cyflwyno’r cais.
Roedd Bailey Hill yn brosiect sylweddol i wella amgylchedd treftadaeth y Castell Mwnt a Beili a oedd yn cynnwys torri llawer iawn o goed, gwella mynediad, man chwarae newydd a dehongliad ar hyd y safle, yn cynnwys ardal arddangos yn y Porthdy.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod cyfraniad y Cyngor tuag at gynllun meistr cyffredinol a’r costau cyfalaf wedi’u nodi’n flaenorol fel cyllid ar gyfer yr ardal chwarae.
(Wedi iddynt ddatgan cysylltiadau’n flaenorol, gadawodd y Cynghorwyr Bithell a Thomas yr ystafell yn ystod ystyriaeth o’r eitem.)
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar sefyllfa’r Cyngor a chyfraniadau tuag at y prosiect, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad; a
(b) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i gyflwyno Cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cam 2, yn unol â’r sefyllfa a’r cyfraniadau a amlinellwyd (yn amodol ar fân newidiadau) gan y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg.
Awdur yr adroddiad: Theresa Greenhough
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 24/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 02/11/2017
Dogfennau Atodol: