Manylion y penderfyniad
Review of Dispensations
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar yr adolygiad o oddefebau yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod blaenorol pan roedd y Pwyllgor yn penderfynu pa oddefebau ddylai barhau mewn grym a pha rai ddylid eu diddymu.
Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor i ymestyn sawl goddefeb hyd y cyfarfod hwn er mwyn galluogi’r Dirprwy Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr Aelodau hynny i ofyn a oeddent yn dymuno ymestyniad pellach. O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Veronica Gay wedi gofyn am ymestyn ei goddefeb mewn perthynas â Throsglwyddo Canolfan Gymunedol, Llyfrgell, a Chanolfan Ieuenctid yn Ased Cymunedol ar 1 Hydref 2018. Mewn perthynas ag aelodau o Gyngor Cymuned Argoed a gâi eu cynrychioli ar ‘MIFFY’, adroddwyd fod y Clerc wedi cadarnhau nad oedd angen y goddefebau hyn mwyach.
Eglurodd y Swyddog Monitro y gallai Aelodau oedd wedi derbyn goddefeb yn gynharach, ail ymgeisio ar delerau tebyg pe dymunent. Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom y dylid egluro hyn yn glir wrth yr unigolion perthnasol.
PENDERFYNWYD:
Y dylai’r oddefeb a roddwyd i'r Cynghorydd Veronica Gay gan y Pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2016, mewn perthynas â Throsglwyddo'r Ganolfan Cymunedol, Llyfrgell a Chanolfan Ieuenctid i fod yn Assed Cymunedol, barhau tan 1 Hydref 2018.
Awdur yr adroddiad: Amanda Haslam
Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 02/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/10/2017 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: