Manylion y penderfyniad

Older People’s Strategy and Ageing Well Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with an update on the work that is taking place to implement the Strategy for Older People in Wales, with a specific focus on the Ageing Well Plan


Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones adroddiad i roi diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i weithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Heneiddio'n Dda. Gwahoddodd Gydlynydd Strategaeth Pobl H?n i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod y Cynllun Heneddio’n Dda yn Sir y Fflint yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu gweithgareddau a fydd o gymorth i bobl h?n gadw rheolaeth o’u bywydau er mwyn iddynt allu cynnal eu hannibyniaeth a pharhau i chwarae rhan weithgar yn y gymuned. Darparodd wybodaeth gefndirol ac adroddodd ar y cynnydd a wnaed o fewn y meysydd blaenoriaeth canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn dangos y cysylltiadau cryf gyda phartneriaid, gan enwi grwpiau cymunedol a grwpiau i bobl h?n fel enghreifftiau, a sefydliadau trydydd sector a oedd yn allweddol wrth fwrw ymlaen â’r gwaith:

 

·         Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed

·         Atal Codymau

·         Cymunedau Cefnogol i Ddementia

·         Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth

·         Unigrwydd ac Unigedd

 

Diolchodd Hilary McGuill i Gydlynydd Strategaeth Pobl H?n am adroddiad ardderchog. Croesawodd y fenter i hyfforddi swyddogion tân Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru i gynnal Asesiadau o Risg Codymau yn ystod gwiriadau diogelwch tân yn y cartref a gofynnodd am gadarnhad i sicrhau bod yr holl Orsafoedd Tân o fewn Sir y Fflint yn gweithredu’r asesiadau hyn. Cadarnhaodd y Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy ‘o blaid’ a dywedodd y byddai’n cadarnhau sefyllfa Gorsaf Dân Bwcle yn dilyn y cyfarfod.Wrth sôn am y gwaith Unigrwydd ac Unigedd mewn ardaloedd gwledig o ogledd Sir y Fflint, gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut y byddai taflenni gweithgareddau / gwybodaeth yn cael eu dosbarthu i'r ardaloedd targed.Cadarnhaodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n y byddai taflenni’n cael eu cyflwyno drwy Gynghorau Tref a Chymuned, sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol a gwasanaethau. Dywedodd fod Aelodau etholedig hefyd wedi cynnig dosbarthu taflenni mewn rhai ardaloedd ac roedd yn cydnabod yr angen i ddefnyddio adnoddau presennol.

 

Soniodd y Cynghorydd Dave Healey am y cyfle i gyfuno dwy dasg a dosbarthu’r taflenni o fewn y newyddlenni sy’n cael eu hanfon allan gan Aelodau a’r posibilrwydd o ddefnyddio Cynghorwyr lleol, sydd â rhwydweithiau sydd wedi’u hen sefydlu, i ddosbarthu taflenni.

 

Diolchodd y Cynghorydd Hilary McGuill am yr hyfforddiant ‘Cyfeillion Dementia’ a oedd wedi’i ddarparu i Sgowtiaid Mynydd Isa, a oedd yn arddangos ymagwedd gadarnhaol tuag at gymunedau cyfeillgar i ddementia ar draws ystod eang o oedrannau. Gwnaeth sylw ar gynlluniau’r Awdurdod i godi treth busnes o 20% ar sefydliadau gwirfoddol a mynegodd bryder y gallai hyn arwain at orfod cau clybiau sgowtiaid a grwpiau eraill o fewn cymunedau lleol.

 

Bu i’r Cynghorydd Dave Mackie gydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem o unigrwydd ac unigedd ac fe groesawodd y mentrau 'Datrysiadau Dementia’. Pwysleisiodd fod unigrwydd yn broblem ddifrifol yn enwedig ymysg yr henoed ac awgrymodd efallai nad oedd rhai unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn ymweld â Chaffis Dementia. Anogodd yr Awdurdod i edrych ar fentrau y gellir eu gweithredu o fewn cymunedau lleol, er mwyn i’r unigolion hynny sy’n teimlo’n unig allu mynychu yn ystod yr wythnos a chyfarfod ag eraill. Gwnaeth y Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n sylw ar brosiect a oedd eisoes ar waith yn ardaloedd Mostyn a Gronant, i ystyried yr hyn y gallai ein gwirfoddolwyr gyflawni yn yr ardal ac i annog sefydlu grwpiau a chlybiau priodol.

 

Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y cyfle i godi ymwybyddiaeth drwy gysylltiadau â busnesau lleol, gan enwi canolfannau siopa fel enghraifft. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i sicrhau bod pobl h?n yn aros yn gynnes yn ystod misoedd y gaeaf.Eglurodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod Age Cymru yn cynnal ymgyrch flynyddol o'r enw ‘Spread the Warmth’ sy’n cynnwys canllaw â gwybodaeth a chyngor ar sut i gadw’n gynnes, yn ddiogel ac yn iach. Mae awgrymiadau defnyddiol a chyngor ar gadw’n gynnes ac iach yn ystod misoedd y gaeaf hefyd wedi’u cynnwys yng ngholofn y Cynghorydd Christine Jones yn ‘Codger’s Quarterly’, newyddlen chwarterol y Gr?p Gweithredu 50+ a fydd yn cael ei dosbarthu o amgylch y sir ar ddechrau mis Rhagfyr. Awgrymodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y gellid defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a hysbysfyrddau cymunedol i ‘ledaenu’r gair' o fewn cymunedau lleol.

 

Gwaeth y Cynghorydd Gladys Healey sylw ar yr angen i reoli ‘Cyfeillgar i Ddementia ac Age Concern ar wahân.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis at y swydd gweithiwr ymgysylltu 50+ sydd wedi’i hariannu tan 2020 a gofynnodd i swyddogion ac Aelodau gofio fod hon yn swydd bwysig, yn enwedig o ystyried y cynnydd a ragwelir o ran nifer yr henoed yn Sir y Fflint yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

Dylid nodi’r cynnydd a wnaed.

 

Awdur yr adroddiad: Helen Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: