Manylion y penderfyniad

Community Asset Transfer - Review of Progress

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the progress of the Community Asset Transfer Programme prior to inviting in community groups at a future meeting to give their views on the individual projects that have been completed in year 2 of the programme

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad a eglurodd mai hon oedd trydedd flwyddyn gweithrediad a chefnogaeth y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).

 

Mae yna rhai trosglwyddiadau asedau allweddol ar raddfa fawr, yn nodedig Pwll Nofio Cei Connah a oedd bellach yn cael ei redeg a’i reoli gan Cambrian Aquatics, ac yn fwy diweddar Canolfan Hamdden Treffynnon, sef yr ased fwyaf a mwyaf cymhleth a drosglwyddwyd hyd yma.

 

Roedd y Cyngor yn dal i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r rhaglen TAC ac wedi cynnal nifer o adolygiadau blwyddyn un fel rhan o’i ymrwymiad i ddeall eu hymrwymiad parhaus a’u cyfraniad at Fuddion Cymunedol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion asedau eraill a oedd wedi bwrw ymlaen drwy gwblhau cyfreithiol neu a oedd yn cwblhau’r camau cyfreithiol terfynol.  Awgrymodd y Prif Swyddog y gallai adborth gan rai o’r grwpiau yn y rhaglen CAT fod yn rhan o gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol lle gallent fynd a siarad am eu prosiectau eu hunain a oedd wedi eu cefnogi.

 

Roedd y grwpiau yn datblygu setiau o sgiliau o fewn eu pwyllgorau lleol a oedd yn drosglwyddadwy ac a greodd wydnwch cymunedol.  Roedd hwn yn gysyniad pwysig ac yn ychwanegu gwerth ar y broses TAC drwy greu cymunedau mwy gwydn a oedd yn gallu cefnogi ei gilydd drwy ddatblygu sgiliau newydd, hyder a gwybodaeth.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dunbar ei fod yn falch gyda’r TAC ar Bwll Nofio Cei Connah a gofynnodd sut yr oedd yn cael ei ariannu.  Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod cyfarfod wedi digwydd yr wythnos flaenorol gyda Cambrian Aquatics ac roedd yn falch i nodi fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o wersi nofio sy’n cael eu rhoi ers i’r TAC ddigwydd.  Dywedodd fod y cytundeb ariannu gan y Cyngor wedi bod am dair blynedd ac roedd bellach yn ei drydedd flwyddyn.  Roedd Cynllun Busnes wedi ei awgrymu am y tair blynedd nesaf ond roedd sefyllfa ariannol Cambrian Aquatics yn gadarn.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar ar Randiroedd Lôn y Felin yng Nghei Connah, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod hyn wedi ei drosglwyddo i’r Cyngor Tref fel bod yr endid cyfreithiol yn bodoli gyda’r Cyngor Tref.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a chanmol Cambrian Aquatics am y gwaith roeddynt wedi ei wneud ers y TAC, gan gyfeirio at y clwb nofio ffyniannus.  Dywedodd hefyd fod cynnydd da’n cael ei wneud yng Nghlwb Ieuenctid Cei Connah.  Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod cynllun ‘Ein Gardd Gefn’ Parc Golftyn yn rhan o gais loteri a gefnogwyd gan y Cyngor.

 

            Croesawodd y Prif Weithredwr y cynnydd rhyfeddol oedd wedi ei wneud gyda TAC.  Gwnaeth sylw ar y cynnig gan Lywodraeth Cymru (LlC) y dylid cynnal adolygiad sylfaenol ar swyddogaeth Cynghorau Tref a Chymuned.  Awgrymwyd y gallai Sir y Fflint ymateb drwy nodi fod cynnal TACau YN swyddogaeth allweddol iddynt bellach oedd a gwneud cais iddynt allu tynnu ar gyllid canolog am y gefnogaeth honno.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylai’r Pwyllgor nodi'r adroddiad a chefnogi’r gwaith a wnaed mewn perthynas â’r rhaglen waith Trosglwyddo Asedau Cymunedol; a

 

 (b)      Dylid nodi’r swyddogaeth gefnogol y gall Trosglwyddo Asedau Cymunedol ei chyflawni wrth gefnogi Gwydnwch Cymunedol.

Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton (old)

Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Accompanying Documents: