Manylion y penderfyniad
Corporate Safeguarding Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve the Council’s Corporate Safeguarding Policy noting progress made and areas for further improvement prior to publication.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad y Polisi Diogelu Corfforaethol, a amlinellodd y gwaith a wnaed i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu, yn nodi meysydd i’w gwella ac yn cyflwyno’r Polisi Diogelu Corfforaethol i’w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.
Rhoddodd y Polisi Diogelu Corfforaethol fframwaith i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion, gyda’r Polisi’n disgrifio rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig pob gweithiwr ac Aelod etholedig, gwirfoddolwr a chontractwr. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o gam-drin, deall arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod datblygu’r Polisi wedi bod yn broses gadarnhaol, a oedd wedi cynnwys hyfforddiant yn cael ei roi gan AFTA Thought, gyda thua 300 o weithwyr yn bresennol. I gefnogi gweithrediad o’r Polisi, byddai dogfen gryno a chyfres o Gwestiynau Cyffredin yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i weithwyr. Roedd dwy raglen e-ddysgu i ddiogelu plant ac oedolion hefyd ar gael ar-lein. Byddai cyflwyniadau ar ddiogelu’n cael eu rhoi i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y misoedd i ddod, i godi ymwybyddiaeth Aelodau.
Byddai gweithrediad o’r Polisi’n cael ei fesur drwy nifer o ddangosyddion perfformiad, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod y gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac oedolion; a
(b) Bod y Polisi Diogelu Corfforaethol yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi a’i weithredu.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 24/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet
Dogfennau Atodol: