Manylion y penderfyniad

Housing (Wales) Act 2014 – Homelessness

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider implementation of new legislation and emerging challenges

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddarparu’r diweddaraf ynghylch sut mae’r Cyngor wedi diwallu gofynion y ddeddfwriaeth digartrefedd newydd a rhai o’r heriau arfaethedig y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.  Fe roddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yna gynnydd wedi bod yn nifer yr aelwydydd sydd yn gofyn am gymorth a bod y gwasanaeth yn rhagweld pwysau ychwanegol oherwydd cyfuniad o ffactorau.

 

            Diolchodd y Cynghorydd George Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu gwaith ynghylch atal digartrefedd. Fe gyfeiriodd at ddarpariaeth llety dros dro a’r defnydd o lety Gwely a Brecwast, a gofynnodd sawl teulu sydd wedi’u lleoli mewn llety gwely a brecwast ar hyn o bryd. Fe eglurodd y Prif Swyddog bod y nifer y bobl mewn llety gwely a brecwast ar hyn o bryd yn isel iawn. Fe soniodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd am y broblem denantiaid oedd ag ôl-ddyledion rhent, a defnyddiodd y dreth ystafelloedd gwely fel enghraifft, a gofynnodd sawl tenant oedd wedi gofyn i gael symud i eiddo llai ond nad oedd modd iddynt wneud hynny oherwydd diffyg eiddo addas ar gael. Cytunodd y Rheolwr Budd-daliadau i ddarparu’r wybodaeth yma ar ôl y cyfarfod.

 

            Fe ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a phryderon a fynegwyd gan ddweud y byddai adroddiad ar effaith Diwygiadau Lles yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2017. Fe eglurodd y Prif Swyddog fod gan y Cyngor bolisi dyled deg a bod ganddynt agwedd holistaidd at bob achos a’u bod yn gweithio gyda phob cwsmer i ddarparu’r canlyniad gorau ar gyfer y tenant a’r Cyngor. 

 

Fe soniodd y Cynghorydd Aaron Shotton am y gostyngiad i'r Grant Cefnogi Pobl ac fe awgrymodd efallai yr hoffai’r Pwyllgor bwyso ar Lywodraeth Cymru i ofyn am gefnogaeth i’r Grant.    Cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar ran y Pwyllgor i geisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru i warchod y Grant Cefnogi Pobl.

 

Yn ystod trafodaeth, fe ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau ac awgrymiadau a grybwyllwyd ynghylch dulliau newydd a’r defnydd arloesol o adeiladau presennol i fynd i’r afael â’r mater o lety dros dro a diffyg tai.

 

Wrth ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hardcastle ynghylch trawsnewid, trwsio ac ailwampio adeiladau presennol, cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor ar asbestos mewn eiddo ar ôl y cyfarfod.

 

Yn dilyn awgrym y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd y Swyddog Strategaeth Dai y byddai’n edrych mewn i’r mater o gael gwasanaeth glanhau mewn eiddo sy’n cael eu rhannu.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi'r diweddariad ar reoli'r ddeddfwriaeth newydd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014;

 

 (b)     Nodi’r heriau y mae’r Cyngor wedi’u hwynebu wrth ddod o hyd i ddewisiadau tai addas ar gyfer aelwydydd a’r peryglon pellach i hyn petai cyllid pontio yn dod i ben a/neu gyllid Cefnogi Pobl yn cael ei leihau;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i ddatblygu darpariaeth tai newydd i liniaru digartrefedd yn y Sir; ac

 

 (d)     Anfon llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar ran y Pwyllgor i geisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru i warchod y Grant Cefnogi Pobl.

 

Awdur yr adroddiad: Katie Clubb

Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: