Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme (Social & Health Care)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Social & Health Care Overview & Scrutiny
Committee
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor, i’w gynnal ar 25 Ionawr 2018, yn cael ei gynnal yn Llys Jasmine, Yr Wyddgrug.
Wrth ystyried yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol , soniodd y Cynghorydd David Healey am yr angen i osgoi dyblygu gwaith gyda’r Pwyllgor Throsolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Cyfeiriodd at y r Hwb Help Cynnar a chyflwyno’r ddarpariaeth gofal plant am ddim y gellid ei gyflwyno i gyd gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg a Ieuenctid a Gofal Iechyd a Chymdeithasol. Cytunwyd trefnu cyd gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol ac Addysg a Ieuenctid cyn gynted â phosib.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Cindy Hinds cytunwyd gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Ambiwlans i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin 2018.
Cyfeiriodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu at lythyr blynyddol y Cyfarwyddwr a dywedodd y byddai ceisiadau yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor sydd i'w gynnal ar 29 Mawrth 2018.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
(c) Trefnu cyd gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol ac Addysg a Ieuenctid cyn gynted â phosib; a
(d) Gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Ambiwlans i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin 2018.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: