Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Corporate Resources Overview & Scrutiny Committee
Penderfyniadau:
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai modd dwyn ymlaen cyfarfod, a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ionawr 2018, i ystyried diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyngor gan gynnwys y symiau canlyniadol o unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor am dderbyn ei Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar 20 Rhagfyr ac ni fyddai o bosib yn derbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol tan ddyddiad diweddarach. Awgrymodd y dylai’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd ddosbarthu nodyn i Aelodau wedi iddynt dderbyn y wybodaeth, gan gydnabod y byddai hyn efallai yn y Flwyddyn Newydd.
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn agored i'r holl Aelodau er mwyn ystyried yr eitemau cyllideb.
Cytunwyd:
· Byddai’r adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu manwl, a drafodwyd yn gynharach, yn cael ei drefnu ar gyfer 15 Chwefror 2018.
· Byddai’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn cael ei drefnu ar gyfer 15 Chwefror 2018.
· Rhoddir cadarnhad os yw’r cyfarfod ymgynghori ar y gyllideb ar ddiwedd mis Ionawr am fynd rhagddo.
· Byddai Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ym mis Mawrth yn cynnwys eithriadau a adroddwyd i’r holl bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn ôl y gofyn yn y cyfarfod blaenorol.
·
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda diwygiadau;
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 14/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: