Manylion y penderfyniad
Revised Regional Model for Secondary School Support
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with an overview of
the new arrangements within the regional school improvement service
to provide greater support to secondary schools that will came into
effect from September 2017
Penderfyniadau:
Cyflwynoddy Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaeth i rym ym mis Medi 2017.
Esboniodd Uwch Reolwr Interim y Systemau Gwella Ysgolion fod adolygiad diweddar o berfformiad ysgol gan GwE wedi tynnu sylw at bryderon am berfformiad ysgolion uwchradd ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru. Daeth yr adolygiad i'r casgliad hefyd nad oedd y model gweithredu gwreiddiol o raniad 80/20 o adnoddau o blaid ysgolion cynradd yn addas i'r pwrpas bellach a bod angen cyfeirio mwy o adnoddau at ysgolion uwchradd i sicrhau gwelliant cyflym. Cyflwynodd Mr Alwyn Lloyd Jones – Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE, Mr Elfyn Vaughan Jones – Arweinydd Uwchradd Rhanbarthol GwE, a Mr Martyn Froggett – Arweinydd Craidd Uwchradd ar gyfer Sir y Fflint, a’u gwahodd i adrodd ar y sail resymegol ar gyfer newid, gan ddarparu trosolwg o sut y byddai’r model rhanbarthol diwygiedig ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd yn cael ei weithredu.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar berfformiad ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint, gan roi gwybodaeth ar ganran y disgyblion a gyrhaeddodd lefel 2 ac uwch rhwng 2013 a 2016 mewn ysgolion uwchradd, fel enghraifft o’i bryderon. Wrth ymateb i’r materion a godwyd, cydnabu GwE yr angen i wella gan ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud. Rhoddodd swyddogion GwE sicrwydd hefyd fod ysgolion uwchradd Sir y Fflint yn perfformio’n dda o gymharu ag awdurdodau eraill.
Yn ystod trafodaethau, ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon pellach a godwyd ynghylch y data a ddarparwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pherfformiad ysgolion, yn seiliedig ar feincnodau a chymhwysedd prydau ysgol am ddim.
Cododd Mr David Hytch y mater o recriwtio athrawon, gan wneud sylw ar broblem recriwtio athrawon pynciau arbenigol, a chyfeirio at Fathemateg fel enghraifft. Cytunodd y Cynghorydd Ian Roberts gyda'r sylwadau a wnaed gan MrHytch ar y mater recriwitio a chadw athrawon yn ysgolion Sir y Fflint, gan awgrymu efallai y bydd y Pwyllgor am anfon llythyr arall at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg i amlinellu ei bryderon, a chytunwyd ar hyn gan y Pwyllgor. Cytunwyd hefyd y byddai'r Hwylusydd yn dosbarthu copi o'r llythyr blaenorol a gafodd ei anfon at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, yn ogystal ag ymateb y Gweinidog.
Yn ystod trafodaeth, codwyd materion pellach cefnogaeth ar gyfer penaethiaid, iechyd a lles staff ysgolion, balans rhwng gwaith a bywyd personol, a rhaglenni arweinyddiaeth gynaliadwy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r newidiadau i’r model cefnogaeth ranbarthol ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd;
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion uwchradd a'r newidiadau a ddyluniwyd i wella perfformiad ysgolion yn Sir y Fflint; a
(c) Bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, ar ran y Pwyllgor, gan amlinellu ei bryderon ynghylch recriwtio athrawon.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: