Manylion y penderfyniad
Treasury Management 2018/19 Strategy and Quarter 3 Update 2017/18
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
1.01 To present to Members the draft Treasury Management Strategy 2018/19 for comments and recommendation for approval to Cabinet.
1.02 To provide an update on matters relating to the Council’s Treasury Management Policy, Strategy and Practices to the end of December 2017.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Cyfrifeg Dechnegol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19 ddrafft i’w hadolygu a’i thrafod, gan geisio argymhelliad i’r Cabinet. Gwahoddwyd pob Aelod i sesiwn hyfforddiant ym mis Rhagfyr 2017 i baratoi ar gyfer cymeradwyo’r Strategaeth yn y Cyngor llawn yn nes ymlaen yn y mis. Yn ogystal, cyflwynwyd diweddariad Chwarter 3 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli’r Trysorlys 2017/18 y Cyngor er gwybodaeth.
Crynhodd yr adroddiad y prif newidiadau a gododd o’r diweddariad diweddar i’r ddau God Ymarfer gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Oherwydd yr amserlenni a’r ffaith nad oedd CIPFA eto wedi cyhoeddi arweiniad ymarferol i gyd-fynd â’r diweddariadau, argymhellodd ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys (Arlingclose) fod y Cyngor wedi gosod ei Strategaeth 2018/19 gan ddefnyddio fersiwn 2011 y Cod. Amlygwyd newidiadau allweddol o’r Strategaeth flaenorol, gan nodi bod Adran 4 (cyd-destun lleol) yn seiliedig ar waith yn y Rhaglen Gyfalaf ar hyn o bryd a allai fod yn destun newid cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor.
Yn ystod diweddariad ar Reoli’r Trysorlys 2017/18, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid at drafodaeth flaenorol ar MiFiD II (Marchnadoedd yn y Gyfarwyddeb Offerynnau Ariannol) a arweiniodd at gytundeb i’r Cyngor ddewis statws cleientiaid ‘proffesiynol’. Ers cyhoeddi’r adroddiad, cymeradwywyd y Cyngor i’r statws hwn gan 11 sefydliad ariannol ac roeddent yn aros am ymateb gan un arall.
Cyfeiriodd Sally Ellis at gyhoeddi canllawiau CIPFA, oedd yn ddisgwyliedig yn ail hanner y flwyddyn, a gofynnodd ynghylch y risgiau oedd yn codi yn sgil gweithredu’r newidiadau yn hwyr. Esboniodd y Rheolwr Cyllid fod Cod 2011 yn parhau i fod yn berthnasol. Er y gallai rhai paratoadau ddechrau, byddai’r goblygiadau ymarferol yn gofyn am ragor o drafod pan fyddai’r canllawiau ar gael, er enghraifft eglurder ar ddiffiniad ehangach ‘buddsoddiadau’. Roedd gan y Cyngor ddull da o droi at fesur y risgiau sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau buddsoddi tymor hir ac roedd hi’n bwysig peidio â chael eu gorlethu â’r fframwaith risgiau petai gofynion y Cod yn cael eu bodloni. Gofynnodd Sally i ddiweddariad ychwanegol ar Reoli’r Trysorlys gael ei amserlennu yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Nid oedd y Prif Weithredwr yn disgwyl i’r newidiadau effeithio ar arferion oherwydd roedden nhw’n gyffredinol berthnasol i gofnodi a dosbarthu’r eitemau.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Johnson ar newidiadau CIPFA, dehonglodd y Rheolwr Cyllid fod y rhain o gwmpas y mentrau masnachol cynyddol a gyflawnir gan y cynghorau yn Lloegr yn bennaf. O ran MiFiD II, rhoddodd wybodaeth am y sefydliadau ariannol rheoledig oedd yn ofynnol i roi cymeradwyaeth i statws proffesiynol y Cyngor a chytunodd rannu rhestr o’r sefydliadau hynny a fyddai’n cyd-fynd ag Arferion ac Amserlenni Rheoli’r Trysorlys.
Siaradodd y Cynghorydd Woolley am yr angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch cynlluniau ad-drefnu i lywodraeth leol. Gofynnodd a ad-dalwyd benthyciad o £1.6m yn ystod Chwarter 3 gan ddefnyddio cronfeydd presennol neu drwy fenthyca. Dywedodd y Rheolwr Cyllid fod y penderfyniadau hynny’n cael eu penderfynu gan y sefyllfa ariannol ar y diwrnod yr oedd y benthyciad yn aeddfedu a byddai’n darparu ymateb ar wahân ar y mater penodol hwn.
Gofynnodd y Cynghorydd Woolley am eglurhad ar y cyfanswm benthyca a ddangoswyd yng ngwahanol ardaloedd yr adroddiad. Cadarnhaodd y swyddogion fod y cyfanswm benthyciad net o £274.49m a ddyfynnwyd yn cynnwys benthyca tymor hir a byr yn rhan 3 y Strategaeth a oedd yn clymu’n ôl â’r £252.1m o fenthyciadau tymor hir a ddangoswyd yn rhan 6.
PENDERFYNWYD:
(a) Argymell Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft 2018/19 i’r Cabinet ar 20/02/18. Mae’r Pwyllgor yn cadarnhau ar yr achlysur hwn mai’r mater yr hoffai ddod ag ef i sylw’r Cabinet yw gofid am y risgiau potensial sy’n codi o argaeledd hwyr canllawiau CIPFA ar y Codau Ymarfer a ddiweddarwyd; a
(b) Nodi diweddariad chwarterol 2017/18 Rheoli’r Trysorlys.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 09/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2018 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol:
- Treasury Management 2018/19 Strategy and Q3 Update 2017/18 PDF 150 KB
- Enc. 1 - Draft Treasury Management Strategy 2018-19 PDF 491 KB
- Enc. 2 - Investment portfolio as at 31-12-17 PDF 21 KB
- Enc. 3 - Long-term borrowing portfolio as at 31-12-17 PDF 123 KB
- Enc. 4 - Short-term borrowing portfolio as at 31-12-17 PDF 19 KB
- Enc. 5 - Graph of investments and short-term borrowing in 2017-18 to date PDF 95 KB