Manylion y penderfyniad

Young Carers

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To inform members of changes to Young Carers Services and outline the strategy moving forward

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad er mwyn rhoi gwybod am y newidiadau i Wasanaethau Gofalwyr Ifanc ac amlinellu’r strategaeth wrth symud ymlaen.  Gwahoddodd Chisty Hoskings, Swyddog Cynllunio a Datblygu, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y cytundeb dan gontract gyda Barnados Cymru i ddarparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc.  Eglurodd fod yr Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda Barnados Cymru a gofalwyr ifanc i ail gynllunio rhannau o'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn unol â gofynion gofalwyr ifanc, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac yn gallu cyflawni arbedion ariannol a osodwyd gan yr Awdurdod gyda’r effaith lleiaf posib ar ddarpariaeth gwasanaeth. Eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaethpwyd ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a’r canlyniadau a gyflawnwyd. 

 

Adroddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu ar y prif ystyriaethau fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a rhoddodd wybod fod y ddarpariaeth gwasanaeth newydd wedi ei gynllunio o amgylch pum llwybr at les Sir y Fflint ar gyfer Gofalwyr Ifanc.    Adroddodd hefyd ar y gwasanaeth yn ystod 2016/17, y canlyniadau craidd a gyflawnwyd, heriau'r gwasanaeth, a’r gwaith wrth symud ymlaen at 2017/18.

 

Mewn trafodaeth ymatebodd Swyddogion i gwestiynau Aelodau am heriau’r Gwasanaeth a rhoddwyd sylwadau ar y toriadau ariannol sy’n digwydd bob blwyddyn, a’r newidiadau oherwydd hynny yn y ddarpariaeth Gwasanaeth er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posib gyda llai o adnoddau. Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu hefyd at y gwaith a wnaed i godi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc a’u hanghenion drwy wasanaethau plant ac ysgolion, a’r gwaith a wneir ar y cyd gyda chyrff eraill a’r gymuned yn ehangach.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi ail gynllun, cynnydd a chanlyniadau’r gwasanaeth; 

 

 (b)      Fod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Uwch Reolwr Diogelu a    

Chomisiynu, er mwyn mynegi pryderon am oblygiadau cyllido pellach; a

 

(c)       Fod y Pwyllgor yn gofyn am ddiweddariad ar y goblygiadau ariannol a'r heriau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Awdur yr adroddiad: Christy Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: