Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Community & Enterprise Overview & Scrutiny
Committee
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Raglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried.Dywedodd wrth yr Aelodau y cytunwyd i gynnal sesiwn friffio i ystyried ‘Sut mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn gweithio’ am 9.30am cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 20 Rhagfyr 2017. Esboniodd hefyd y cytunwyd i aildrefnu cyfarfod nesaf y Pwyllgor, oedd i fod ar 31 Ionawr 2018, i'w gynnal ar 15 Ionawr 2018.
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.03 yr adroddiad a nododd y cafwyd penderfyniad yng nghyfarfod Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad 25 Hydref 2017, y dylai bob Pwyllgor ganfasio am farn ar eu blaenoriaeth cyfarfodydd fel rhan o’r rhaglen gwaith i'r dyfodol. Cyfeiriodd at y dewisiadau fel y'u manylir yn yr adroddiad a gofyn i’r Pwyllgor fynegi beth fyddai orau iddynt ar gyfer eu patrwm cyfarfod.Byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad.
Cynigodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylai’r Cyngor gadw at ei drefniant arferol o gyfarfod ar fore Mercher am 10.00am, a chytunwyd ar hyn pan gafwyd pleidlais ar y mater.
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod yr Hwylusydd yn darparu adborth i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad bod y cyfarfodydd cefnogi Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter yn parhau i fod am 10.00am fore Mercher.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Accompanying Documents: