Manylion y penderfyniad
Council Plan 2017-23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Cynllun y Cyngor 2017-23
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ystyried y ddogfen targedau a cherrig milltir, Cynllun (Gwella) y Cyngor 2017 – 23 ac i roi adborth i’r Cabinet cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu fel cyhoeddiad terfynol.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar Gynllun drafft (Gwella) y Cyngor 2017-23 a atodwyd at yr adroddiad. Cynghorodd y byddai arch-strwythur y Cynllun yn aros yr un fath â chynlluniau blaenorol a'u bod bellach yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y chwe blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor o brosiectau a dyheadau’r Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin nad oedd cyfeiriad yng Nghynllun (drafft) Gwella y Cyngor at Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at dudalennau 41 a 44 y cynllun drafft oedd yn cynnwys cyfeiriadau at y Ddeddf.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y ddogfen arfaethedig “Sut rydym ni’n Mesur” oedd wedi ei atodi fel atodiad 2 i’r adroddiad a dosbarthodd gopïau o’r newidiadau arfaethedig i’r ddogfen. Adroddodd ar bob un o'r newidiadau arfaethedig a gofynnodd i Aelodau ddarparu unrhyw sylwadau neu newidiadau arfaethedig.
0>Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith pe gellid cynnwys geirfa o'r talfyriadau / termau a ddefnyddir yn yr adroddiad ar gefn yr adroddiad perthnasol.
Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman pe gellid rhannu'r fideo ar Brofiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod gyda'r Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir (atodiad 2) a Chynllun (Gwella) y Cyngor 2017 – 23 ac yn hysbysu’r Cabinet, cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu i’w gyhoeddi yn derfynol.
Awdur yr adroddiad: Christopher X Phillips
Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: