Manylion y penderfyniad

Council Plan 2017-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider and endorse specific targets set within the Council Plan 2017-23, plus national performance indicators

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad Cynllun y Cyngor 2017-23 a oedd wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

            Roedd strwythur y Cynllun yn parhau'r un fath â chynlluniau blaenorol a bellach yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol.  Mae’r chwe blaenoriaeth yn cymryd golwg hirdymor ar brosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf.

 

            Cyfeiriodd at flaenoriaeth ‘Cyngor wedi’i Gysylltu’ a’r cysylltiadau â Throsglwyddo Asedau Cymunedol (TAC) a Modelau Cyflenwi Amgen (MCA).  Roedd hwn yn gyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ddarparu unrhyw adborth ar feysydd penodol i’r Cabinet eu hystyried cyn eu cyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod effaith diwygio'r gyfundrefn les yn bryder iddo yn ogystal â mynediad at wasanaethau digidol.  Roedd Credyd Cynhwysol yn system ar lein felly croesawodd y mesur ar ‘Cyngor Cefnogol: Diogelu pobl rhag tlodi’ o Gyflawni Cyllidebau Personol a Gwasanaethau Cefnogaeth Ddigidol’ a oedd yn ymwneud ag effaith lleol cyflwyno'r gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn.

 

            Ar ‘Cyngor Cefnogol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol Integredig’, teimlai’r Cynghorydd Jones y dylid dileu'r geiriau ‘yn y cartref’ o Effaith 1) Galluogi mwy o bobl i fyw’n annibynnol ac yn dda yn y cartref, gan nodi esiamplau lle’r oedd pobl yn byw’n annibynnol ac yn dda, ond nid o reidrwydd yn y cartref, ond mewn lleoedd fel Llys Jasmine.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y geiriau ‘yn y cartref’ yn llythrennol a chydnabuwyd mai mater personol oedd i bobl ddewis ble i fyw.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg, mewn perthynas â’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCMA), roedd yn bwysig fod ysgolion presennol yn parhau’n hyfyw ac yn anelu at wella, ynghyd â’r nod i gynyddu nifer y cyfleusterau lle’r oed d y Gymraeg yn cael ei darparu.

 

            Ar ‘Cyngor Gwyrdd: Datblygu Cynaliadwy a Rheoli Amgylcheddol’, Adran 3: Cynyddu potensial asedau’r Cyngor am effeithlonrwydd ynni, dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd unrhyw gyfeiriad at sut y byddai defnydd o ynni yn cael ei leihau.  Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) y broses o reoli systemau ar y campws, rhai ohonynt yn cael eu gweithredu o bell ac roedd yn bwysig fod gweithwyr yn ymwybodol o’r neges ‘dim cost / cost isel’  Cytunwyd y byddai’r geiriau ‘Rheoli / lleihau defnydd y Cyngor o ynni ac felly costau’ yn cael eu hargymell i’r Cabinet eu hystyried.

 

            Ar 'Cyngor sy'n Gwasanaethu: Gwella Rheolaeth Adnoddau, Adran 5: Strategaeth Ddigidol a Strategaethau Cwsmeriaid, gwnaeth y Cynghorydd Jones sylw ar y problemau parhaus oedd yn wynebu pentrefi yn ei ward wrth geisio cael mynediad i’r rhyngrwyd.  Roedd nifer o fusnesau’n gweithredu yn yr ardaloedd hynny ac yn dibynnu ar gysylltu â’r rhyngrwyd nad oedd yn bosibl ei gael ar hyn o bryd.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod barn debyg wedi ei mynegi mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac y dylai’r Cyngor fod yn fwy dylanwadol o ran y darparwyr isadeiledd a rhwydweithiau.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Gay â barn y Cynghorydd Jones a nododd fod y gwasanaethau yn anghyson yn Saltney oherwydd bod y ffin mor agos.  Teimlai y dylai fod gan bobl fynediad i’r rhyngrwyd fan lleiaf. 

 

            Cytunodd y byddai’r geiriau ‘Gwell mynediad i isadeiledd digidol i gartrefi a busnesau ar draws y Sir' yn cael eu hargymell i'r Cabinet eu hystyried.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Dunbar yr adroddiad a’r blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau.  Ar ‘Cyngor Cefnogol: Cartrefi Priodol a Fforddiadwy’, holodd a oedd unrhyw gynnydd wedi bod ar gyflawni dewisiadau ar gyfer cynlluniau tai rhent isel newydd ac arloesol ar gyfer pobl dan 35 oed.  Ymatebodd y Prif Weithredwr gan ddweud eu bod yn archwilio datrysiadau creadigol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar, eglurodd y Prif Weithredwr eu bod yn dal i edrych ar opsiynau ar sut y gellid dargyfeirio ynni o baneli solar y Cyngor ei hun i Alltami er mwyn i gerbydau trydanol eu defnyddio.

 

            Ar ‘Cyngor Uchelgeisiol: Twf y Sector Busnes ac Adfywio’, nododd y Cynghorydd Dunbar bwysigrwydd y flaenoriaeth hon i ddiogelu'r buddsoddiad sydd ei angen mewn isadeiledd ar gyfer twf rhanbarthol a lleol.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Gay bryderon ar y Cynllun Moderneiddio Ysgolion a gofynnodd am sicrwydd fod Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Saltney wedi’i chynnwys yn y cynllun hwnnw.  Eglurodd y Prif Weithredwr mai Ysgol Uwchradd Dewi Sant oedd y flaenoriaeth gyntaf am gyllid ym Mand B.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Mullin Aelodau’r Pwyllgor am eu cyfraniad at Gynllun y Cyngor gyda dau ychwanegiad a fyddai’n cael eu hystyried gan y Cabinet y diwrnod canlynol cyn y Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y pwyllgor yn cefnogi strwythur, fformat a chynnwys fersiwn "gyhoeddus" Cynllun (Gwella) y Cyngor ar gyfer 2017-23; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir (atodiad 2) ynghlwm â Chynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23 gyda’r sylwadau canlynol i’r Cabinet eu hystyried:

 

·         Blaenoriaeth: Cyngor Gwyrdd

Adran 3: Cynyddu potensial asedau’r Cyngor am effeithlonrwydd ynni: Rheoli / lleihau defnydd y Cyngor o ynni ac felly costau. Ychwanegiad i’r cynnwys:

·         Blaenoriaeth: Cyngor sy'n Gwasanaethu

Adran 5: Strategaeth Ddigidol a Strategaethau Cwsmeriaid: Gwell mynediad i gartrefi a busnesau ar draws y Sir at isadeiledd digidol. Ychwanegu mater cenedlaethol ar ddatblygu isadeiledd, fuddsoddiad y Llywodraeth, a pherfformiad cyflenwyr.  Ychwanegiad i’r cynnwys:

Awdur yr adroddiad: Christopher X Phillips

Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Accompanying Documents: