Manylion y penderfyniad

Council Plan 2017-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider and endorse specific targets set within the Council Plan 2017-23, plus national performance indicators

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad gan ddarparu gwybodaeth gefndir.  Fe gyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a gwahoddodd y rheolwr gwasanaeth perthnasol i roi diweddariad am y blaenoriaethau diwygiedig a'r is-flaenoriaethau i'w gweithredu a oedd yn cael eu cynnig i’r Cyngor eu mabwysiadu. 

 

                        Bu’r Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf a’r Rheolwr Menter ac Adfywio yn rhoi adroddiad ar flaenoriaeth y Cyngor Cefnogol, a’r is-flaenoriaethau canlynol;

 

  • tai priodol a fforddiadwy
  • cartrefi modern, effeithlon ac wedi’u haddasu
  • diogelu pobl rhag tlodi

 

Fe roddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ddiweddariad hefyd ar flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol ac is-flaenoriaeth twf y sector busnes ac adfywio. 

 

            Fe ofynnodd y Cadeirydd am ragor o wybodaeth am yr is-flaenoriaeth i warchod pobl rhag tlodi a datblygu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi bwyd. Wrth ymateb, fe gyfeiriodd y Prif Swyddog at ddatblygu ymagwedd gyfannol i fynd i’r afael â thlodi ac fe soniodd am yr angen i roi cymorth ar gyfer rheoli cyllideb, tlodi tanwydd, a helpu pobl i gael gwaith. Fe awgrymodd y Prif Swyddog bod adroddiad ar dlodi bwyd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol pan fyddai'n briodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod Cynllun (Gwella) y Cyngor yn nodi blaenoriaethau’r Cyngor dros y pum mlynedd nesaf a’r hyn y mae’n gobeithio ei gyflawni. Fe soniodd am y pwysau ariannol sylweddol ac effaith tan-gyllido a dywedodd er ei fod yn canolbwyntio ar amcanion yn ystod 2017/18, roedd y Cynllun hefyd yn realistig ynghylch rhwystrau cenedlaethol i’r hyn y gallai gael ei gyflawni.      

 

            Wrth ymateb i bryder a fynegwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton ynghylch oedi roedd rhai pobl wedi’i brofi mewn perthynas â hawlio’r Credyd Cynhwysol, rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad am gynnydd cyflwyno’r Credyd Cynhwysol a dywedodd y byddai dadansoddiad manwl yn cael ei ddarparu i gyfarfod o'r Pwyllgor a fydd yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2017. 

 

            Yn ystod trafodaeth, fe ymatebodd Swyddogion i gwestiynau pellach ynghylch cynnydd wrth gwblhau cynlluniau gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru. Fe eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf fod yna sawl rheswm pam fod tenantiaid wedi gwrthod gwaith cyfalaf, serch hynny, fe achubwyd ar bob cyfle i ail-ddal y ‘gwrthodiadau’ a hysbysu’r tenant y gallai gwaith gwella gael ei gynnal i wella safon y tai er lles y tenant.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Denis Hutchinson i’r Cynghorydd Bernie Attridge a swyddogion am y cymorth a ddarparwyd wrth fynd i’r afael â’r broblem o wersylloedd diawdurdod sipsiwn a theithwyr yn ei Ward.

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i’r Prif Swyddog am adroddiad manwl a llawn gwybodaeth a diolchodd iddi hi a’i thîm am eu gwaith. Fe soniodd am anghenion a'r heriau roedd pobl ifanc yn eu hwynebu, gan sôn am y gr?p oedran 18-24 yn benodol, ac fe soniodd am yr angen i ddatblygu llety fforddiadwy ar gyfer y gr?p yma o bobl. Gan sôn am y Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru gofynnodd i’r Pwyllgor yn cael gweld casgliadau archwiliad mewnol y Rhaglen pan fyddai’n cael ei gwblhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod sylwadau’r Pwyllgor yn cael eu casglu a’u hadrodd yn ôl i’r Cabinet.

 

Awdur yr adroddiad: Christopher X Phillips

Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: