Manylion y penderfyniad
Alternative Delivery Model Social Care Learning Disability Day Care and Work Opportunity Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider whether to award a contract to the
preferred provider for the Learning Disability Day and Work
Services.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones, y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad Model Darparu Amgen y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu, oedd yn argymell dyfarnu’r contract darparu Gwasanaethau yn Sir y Fflint i Home Farm Trust.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo penodiad Home Farm Trust fel partner i ddarparu Gwasanaethau Gofal dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol i gytuno bod yr amodau canlynol wedi’u cyflawni ar gyfer dyfarnu’r contract:-
- Cwblhau’r gwaith a’r diwydrwydd ar Drosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) a phensiynau;
- Cwblhau’r telerau ac amodau cyflogaeth a'r cyfraddau tâl ar gyfer y rhai sy’n dechrau gyda’r gwasanaeth o’r newydd;
- Cwblhau’r contract; a
- Gosod prosesau monitro contract a llywodraethu cadarn i sicrhau y cynhelir ac y gwellir ansawdd y gwasanaeth.
Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Kevin Jones yr ystafell yn ystod y drafodaeth.
Awdur yr adroddiad: Dawn Holt
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2017
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/03/2017