Manylion y penderfyniad

Play Areas, Play Schemes and Strategic Play Forum Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To provide an update on play areas and play schemes

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad diweddaru ar y Fforwm Ardaloedd Chwarae, Cynlluniau Chwarae a Chwarae Strategol 

 

                        Roedd y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad i gynnal gweithgaredd chwarae yn y Sir drwy:

  • Parhau â’r arian refeniw cyfatebol ar gyfer lleoedd chwarae (£0.105 miliwn y flwyddyn);
  • Dyraniad arian cyfalaf dros dro drwy’r rhaglen gyfalaf i adnewyddu ardaloedd chwarae (£0.887 miliwn dros dair blynedd yn amodol ar benderfyniad y Cyngor ym mis Chwefror);
  • Parhau i gynnal pob ardal chwarae yn ystod 2017/18;
  • Blwyddyn o gyllid pontio i alluogi cynlluniau chwarae i barhau yn ystod 2016 ar ôl diwedd y Grant Llywodraeth Cymru gan Deuluoedd yn Gyntaf; a
  • Y cytundeb i ailfywiogi Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint i gydlynu gweithgaredd chwarae ar draws Sir y Fflint.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad cynnydd ar y materion hynny gan gynnwys argymell cymeradwyo’r cynlluniau arian cyfatebol ar gyfer lleoedd chwarae a dyraniad swm un-tro o £0.040 miliwn i gefnogi cynlluniau chwarae yn 2017.

 

                        Roedd y Cyngor yn gweithredu cynllun arian refeniw cyfatebol a anelwyd at gynnal lleoedd chwarae a oedd angen arian cyfatebol gan Gynghorau Tref a Chymuned.  Roedd rhestr o gynlluniau a gyflwynwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned ynghlwm i’r adroddiad a’r cyfanswm oedd £0.123 miliwn a oedd £0.018 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd ar gael.  Cynigiwyd y dylid cyfuno cyllid refeniw ar gyfer 2015/16 a 2016/17 mewn un gronfa i gyflawni pob un o'r cynlluniau a fyddai'n golygu bod £0.087 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau arian cyfatebol yn 2017/18.

 

                        Roedd y Cyngor wedi dyrannu £0.887 miliwn o arian cyfalaf dros dro i adnewyddu ardaloedd chwarae dros y dair blynedd ariannol nesaf, yn amodol ar gytuno ar y rhaglen gyfalaf ym mis Chwefror.  Cynigwyd, yn seiliedig ar angen a chynaliadwyedd, i gyflwyno rhaglen o brosiectau arfaethedig i'r Cabinet ddechrau 2017.

 

                        Roedd cyllid un-tro o £0.080 miliwn wedi’i ddarparu i barhau â’r lefel o ddarpariaeth cynllun chwarae a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol.  Ariannwyd y cynlluniau hynny’n rhannol gan y Cyngor Sir ac yn rhannol gan y Cynghorau Tref a Chymuned.  Roedd y Cyngor wedi nodi’n glir na fyddai cyllid yn parhau yn 2017/18 ac roedd y Cyngor wedi bod yn gweithio i alluogi cynaliadwyedd y ddarpariaeth heb gyllid.  Y canlyniad oedd rhoi cynnig tair wythnos i bob ardal ar wahân i Gei Connah, a oedd â chynllun llawer mwy y gallai Cynghorau Tref a Chymuned ei brynu yn ôl gan y Cyngor.  Y cynnig oedd y byddai’r Cyngor yn dyrannu cyllid un-tro o £0.040 miliwn i alluogi gostyngiad yn y costau i Gynghorau Tref a Chymuned o 50% ar gyfartaledd.  Er enghraifft, byddai ardal gydag un cynllun chwarae yn cael cynnydd o £409 ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned gan olygu mai cost uchaf darpariaeth cynllun chwarae oedd £1,309. Heb gyfraniad y Cyngor, y cynnydd i Gynghorau Tref a Chymuned fyddai £818.

 

                        Cytunwyd y dylid ail-sefydlu Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint ac roedd seminar gychwynnol wedi’i chynnal ym mis Tachwedd 2016. Y camau nesaf fyddai penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd a hyfforddiant i Aelodau ar ôl mis Mai 2017.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a oedd yn dangos parhad yn y gefnogaeth i ddarpariaeth chwarae yn y Sir.

 

                        Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi derbyn cefnogaeth lawn yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Trefniadol yn ddiweddar.  Ychwanegodd mai datrysiad am un flwyddyn oedd hwn, ond roedd yn golygu bod mwy o amser i’r Cynghorau Tref a Chymuned i ddod o hyd i ateb ar gyfer cynlluniau chwarae y tu hwnt i 2017.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones fod darpariaeth chwarae yn ymdebygu i'r eitem flaenorol ar Nodiadau Canllawiau Cynllunio ac y gellid r?an teilwra darpariaeth yn seiliedig ar angen.  Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge y gallai Cytundebau Adran 106, yn ogystal â chyflenwi ardaloedd chwarae, gynnwys cynnal a chadw ardaloedd o’r fath.

                         

PENDERFYNWYD:

 

            Mabwysiadu’r ymagwedd a amlinellwyd yn yr adroddiad i barhau i gynnal gweithgaredd chwarae yn Sir y Fflint gan gynnwys mabwysiadu’r manylion isod:

  • Cytuno ar y cynlluniau arian cyfatebol ar gyfer ardaloedd chwarae a nodwyd yn Atodiad 1; a
  • Dyrannu cronfa un-tro o £0.040 miliwn i gefnogi rhaglen cynlluniau chwarae yn Sir y Fflint ar gyfer 2017.

Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft

Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2017

Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 26/01/2017

Dogfennau Atodol: