Manylion y penderfyniad
Welsh Public Library Standards: Review of Performance 2015/16
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on performance in
2014/15
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru:Adroddiad Adolygu Perfformiad 2015/16
Rhoddodd pumed fframwaith ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru y gweithredwyd ynddi gyfleoedd i lyfrgelloedd ddarparu gwasanaethau mewn modd arloesol gan gynnwys yr hyblygrwydd i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Cyfrannodd gwasanaethau llyfrgelloedd at ystod o ganlyniadau Llywodraeth Cymru (LlC) fel llythrennedd, sgiliau a dysgu, cynhwysiant digidol, tlodi ac iechyd a lles. Roedd y fframwaith yn cynnwys themâu ynghylch agweddau o wasanaethau craidd:
· Cwsmeriaid a chymunedau;
· Mynediad i bawb;
· Dysgu i fyw; a
· Hyfforddiant a datblygiad
Roedd 18 hawl craidd a oedd yn amlinellu'r hyn y gallai trigolion ei ddisgwyl o’u gwasanaeth llyfrgelloedd ac yn 2015-16 cyflawnodd Sir y Fflint 17 ohonynt yn llawn a chyflawnodd un yn rhannol. Disgwyliwyd y byddai hyn yn 18 yn y canlyniad nesaf gan y byddai pob pwynt gwasanaeth yn cynnig Wi-Fi.
Roedd 23 dangosydd gwasanaeth, nid oedd pob un yn cael eu mesur gan dargedau. O'r rhai hynny a fesurwyd gan dargedau, cyflawnodd Sir y Fflint ddau yn llawn, pedwar yn rhannol a methodd i gyflawni un ohonynt.
Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylw ar y llyfrgell yn Nhreffynnon a oedd wedi agor yn ddiweddar yn y Ganolfan Hamdden. Diolchodd i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect a oedd wedi cael adborth cadarnhaol yn lleol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r cynnydd wrth gyflawni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/01/2017
Dogfennau Atodol: