Manylion y penderfyniad
Council Tax and Business Rate Statutory Policies 2017/18
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To approve local discretionary policies for the administration of Council Tax and Business Rates
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Polisïau Statudol Treth y Cyngor a Threthi Busnes 2017/18.
Bob blwyddyn roedd angen cymeradwyo polisïau penodol ar gyfer gweinyddu Treth y Cyngor a Threthi Busnes sef:
- Gostyngiadau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag tymor hir;
- Gostyngiadau Dewisol ar Dreth y Cyngor;
- Gostyngiad Dewisol ar y Drethi Busnes; a
- Gostyngiad Dewisol Ychwanegol ar Drethi Busnes i fusnesau bach
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod y fframwaith bolisi ar gyfer Gostyngiad Dewisol ar y Drethi Busnes yn 2017-18 wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2016, a’r swm ar gyfer eiddo gwag ym mis Mai 2016.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid mabwysiadu polisi o beidio â dyfarnu gostyngiadau ar Dreth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag tymor hir yn 2017-18. Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i godi premiwm Treth y Cyngor, dan amgylchiadau penodol, ar gyfradd o 50% uwchlaw’r gyfradd safonol o Dreth y Cyngor fel y cytunwyd eisoes drwy gyflwyno cynllun Premiwm o 2017-18 (e.e. taliad o 150%);
(b) Dylid parhau â’r polisi cyfredol o ystyried gostyngiadau Dewisol ar Dreth y Cyngor mewn achosion lle’r oedd argyfyngau sifil a thrychinebau naturiol yn unig
(c) Dylid nodi gweithrediad y Fframwaith Bolisi Gostyngiad Dewisol ar Drethi Busnes newydd ar gyfer 2017-18 a gytunwyd yn flaenorol gan y Cabinet; a
(d) Dylid parhau â’r polisi cyfredol o beidio dyfarnu Gostyngiadau Dewisol ‘ychwanegol’ i fusnesau sydd eisoes yn gymwys i dderbyn Gostyngiad ar Drethi Busnesau Bach yn 2017-18.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/01/2017
Dogfennau Atodol: