Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Dyddiadau cynharachCynharach - HwyrachDyddiadau diweddarach

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

11/03/2020 - Cofnodion ref: 8043    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at dudalen 4 o'r cofnodion a diolchodd i'r Cadeirydd ac Aelod Cabinet dros Dai am eu hymateb i'w gais i ddod â gwybodaeth am SARTH i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at y paragraff olaf ond un ar dudalen 5 o'r cofnodion a gofynnodd am iddo gael ei ddiwygio i gynnwys yr ymateb a roddwyd gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn ystod y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.


11/03/2020 - Town Centre Regeneration Update ref: 8046    Recommendations Approved

To update members on the approaches being taken to regenerate town centres

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) yr adroddiad a roddodd ddiweddariad ar y gwaith a wnaed ers mis Chwefror 2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig cynnydd yn y raddfa weithredu i hwyluso'r newid i ddefnyddiau tir mwy cynaliadwy yng nghanol trefi.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio fod canol trefi yn genedlaethol yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol oherwydd ymddygiad newidiol gan siopwyr a'r diwydiant manwerthu. Roedd y Cyngor bob amser wedi cefnogi canol trefi gyda'r Cyngor, yn y gorffennol, yn gallu tynnu cyllid cyfalaf i lawr yn rheolaidd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ac i eiddo gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac Asiantaeth Datblygu Cymru.  Crynhowyd rhestr o raglenni a phrosiectau a gefnogwyd ac a gyflwynwyd trwy'r pecynnau cyllido yn yr adroddiad.

 

                        Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio sylw'r Aelodau at y dull mwy uchelgeisiol a gymerir gan y Cyngor i gynorthwyo cynghorau tref, yng nghyd-destun y dull strategol y cytunwyd arno gan y Cabinet ym mis Mai 2019, fel y manylwyd yn yr adroddiad.      

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ron Davies ynghylch yr angen am adolygiad o oleuadau traffig a lôn fysiau yn Shotton, cytunodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad i roi gwybodaeth i'r Cynghorydd Davies yn dilyn y cyfarfod ar y cynigion i wella'r gyffordd a goleuadau traffig yn Shotton fel rhan o osod gwelliannau cyffyrdd ar hyd Shotton a Queensferry.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gynnydd wedi’i wneud o ran datblygu’r tir lle roedd swyddfeydd y Cyngor yn arfer bod yng Nghei Connah a safle Somerfield. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y bu sgyrsiau gweithredol gyda'r Cyngor ar y defnydd o’r safle yn y dyfodol ac er nad oedd llyw clir ar hyn o bryd, y gobaith oedd gweld uned siop yno.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Ted Palmer sylwadau ar gau adeiladau mawr ar stryd fawr Treffynnon, ers yr astudiaeth gwirio iechyd a gynhaliwyd yn 2008, fel banciau, nad oeddent yn addas ar gyfer adeiladau manwerthu a gofynnodd a ellid addasu'r adeiladau hyn i ddarparu tai ond cadw ychydig o le at ddibenion manwerthu. Gwnaeth y Cynghorydd Dave Wisinger sylwadau hefyd ar nifer yr unedau manwerthu gwag, ar gyrion canol trefi, a oedd yn aros yn wag am gyfnod hir a’I fod yn teimlo mai'r defnydd gorau ohonynt fyddai eu trawsnewid yn dai, a fyddai'n cynorthwyo gyda chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio, yn dilyn yr astudiaeth gwirio iechyd flaenorol, y byddai canol trefi yn cael eu hailystyried a'u hadolygu yn unol â hynny. Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a oedd yn anelu at wneud canol trefi yn lleoedd cynaliadwy i fyw ynddynt, gan ystyried cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylwadau ar y Polisi Canol Trefi a oedd, yn ei farn ef, wedi bod o fudd i rai ardaloedd o'r Sir ond nid pob un. Dywedodd fod angen i'r Aelodau gofio am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fyddai'n pennu dyfodol canol trefi a dywedodd bod angen buddsoddiad teg ym mhob canol tref ar draws y Sir. Amlinellodd rywfaint o amheuaeth o ran y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a gwnaeth sylwadau ar nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yn Sealand a oedd wedi bod yn ardal risg llifogydd. Ymatebodd y Prif Swyddog fod y dull a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi yn unol â gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. O ran adeiladu tai ym Mhorth y Gogledd yn Sealand, roedd y tir wedi'i amddiffyn rhag llifogydd trwy fuddsoddiad gan LlC a ddiogelodd y safle am 100 mlynedd.    

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Dennis Hutchinson sylwadau ar y dad-bedestreiddio arfaethedig yng nghanol tref Bwcle a gofynnodd pen na fyddai'r cyhoedd yn cefnogi'r cynnig a fyddai hyn yn rhwystro gwelliannau arfaethedig eraill sy'n parhau yn y dref.  Gofynnodd hefyd am gefnogaeth i wella ac ailagor adeilad hanesyddol Baddonau Bwcle. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio y gallai cynlluniau arfaethedig eraill barhau pe na bai'r dad-bedestreiddio yn cael ei gefnogi. 

 

            Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad fod nifer o gynlluniau i wella canol trefi yn cael eu hystyried ac wedi cael eu rhoi ar waith megis gwelliannau i gysylltu canol trefi trwy drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau Teithio Llesol newydd, a thrwy hynny’n eu cynnal fel hybiau trafnidiaeth.Gwnaeth sylwadau hefyd ar yr awydd i ganol trefi ddod yn wyrdd gyda phlannu coed lled aeddfed gan ddefnyddio pyllau coed sy'n gwella draeniad, creu ymdeimlad o les a gwella'r amgylchedd naturiol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin ynghylch cyllid yn y dyfodol, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio y byddai'r Cabinet yn gwneud penderfyniad ar gyllid wrth ystyried yr adroddiad ym mis Mawrth, 2020, fodd bynnag, dywedodd y byddai cael y buddsoddiad cywir a’r dull cywir yr un mor bwysig â'r cyllid. Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar sefydlu ardal Gwella Busnes ar gyfer canol trefi, er mwyn i gymunedau busnes allu rheoli beth i'w wella.

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies fod cyngor tref Shotton yn enghraifft o dref lewyrchus gyda llawer o siopau ond nad oedd pobl yn cael eu hannog i ymweld â hi oherwydd y problemau traffig a oedd wedi bod yn mynd rhagddynt ers nifer o flynyddoedd. Gwnaeth sylwadau hefyd ar yr hen Bargain Stores yng Nghei Connah a oedd wedi dadfeilio ers nifer o flynyddoedd a gofynnodd beth ellid ei wneud i wella hyn. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y byddai traffig yn Shotton yn cael ei wella fel rhan o'r Gwelliannau Lôn Bysiau. Esboniodd y Prif Swyddog fod y Cyngor eisioes yn edrych i brynu'r hen Bargain Stores fel rhan o Orchymyn Prynu Gorfodol ond nad oedd hwn wedi'i gwblhau. Dywedodd fod yr adeilad hwn yn enghraifft o adeilad a esgeuluswyd yn cael effaith niweidiol ar estheteg ardal. 

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Cefnogi'r cynnydd a wnaed o ran adfywio yng nghanol trefi yn Sir y Fflint a'r dull o ail-ganolbwyntio sy'n cael ei gynnig ar gyfer 2020 a thu hwnt; a

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet yr adnoddau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer swydd Uwch Swyddog.


11/03/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking ref: 8044    Recommendations Approved

To consider the Forward Work Programme of the Community & Enterprise Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol ddiweddaraf ac adroddodd ar y trefniadau sy'n cael eu gwneud i gynnal gweithdy ar gyfer bob Aelod ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) ym mis Mai, 2020. Byddai manylion dyddiad, amser a lleoliad y gweithdy cael ei ddosbarthu i'r Aelodau maes o law.

 

            Adroddodd yr Hwylusydd hefyd, ar ôl ymgynghori â'r Cadeirydd, bod trefniadau wedi'u gwneud i'r Pwyllgor dderbyn sesiwn friffio ar SARTH a'r Polisi Dyraniadau cyn dechrau cyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 29 Ebrill, 2020.

 

            I gloi, nododd yr Hwylusydd fod Swyddfa Archwilio Cymru yn ceisio siarad â nifer fach o Aelodau'r Pwyllgor am y Gwasanaeth Ôl-ddyledion Rhent. Dywedodd y byddai'n anfon e-bost at y Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod i ofyn am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn cyfarfod gyda Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei siom nad oedd y gweithdy ar gyfer bob Aelod ar NWEAB yn cael ei gynnal tan fis Mai a dywedodd fod angen i’r Aelodau graffu ar y fargen ar frys. Esboniodd yr Hwylusydd, yn dilyn ceisiadau gan nifer o Bwyllgorau Craffu am adroddiad ar NWEAB, teimlwyd mai gweithdy i ganiatáu i'r holl Aelodau gyfrannu fyddai'r ffordd orau ymlaen. Y rheswm fod mis Mai yn cael ei gynnig fel dyddiad oedd bod angen gweithdai ychwanegol i ganiatáu i’r Aelodau ystyried Cynllun y Cyngor 2020/21 a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddiwygiedig (MTFS) yn gyntaf er mwyn caniatáu ystyried cyn cyflwyno adroddiadau i'r Cyngor Sir.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.


11/03/2020 - Tenancy Management Policy ref: 8045    Recommendations Approved

To consider the Tenancy Management Policy which covers tenants’ right to succession

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Polisi Rheoli Tenantiaethau a oedd yn nodi sut roedd y Cyngor yn rheoli'r mathau o denantiaethau a ddarperir ganddo o dan y ddeddfwriaeth gyfredol ac wrth gyflawni ei rwymedigaethau statudol fel landlord. Ceisiodd y Polisi hefyd sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu ar gyfer rheoli a gweinyddu gwasanaethau tai yn effeithlon.

 

            Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth ychwanegol ar bob un o adrannau'r Polisi Rheoli Tenantiaethau, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad. Tynnodd sylw'r Aelodau at newidiadau diweddar i ardaloedd cymunedol, a gyflwynwyd i gydymffurfio â'r rheoliadau diogelwch tân cyfredol. Roedd hyn yn golygu nad ddylai’r mannau cymunedol gael eu defnyddio i storio eitemau a allai beri risg pe bai tân, naill ai oherwydd llosgadwyedd neu rwystro allanfa pe bai angen gwagio.

 

Tynnodd y Prif Swyddog sylw'r Aelodau hefyd at newidiadau Llywodraeth Cymru (LlC) i denantiaethau, fel y manylir yn yr adroddiad ac awgrymodd y dylid cynnwys adroddiadau diweddaru pellach ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wrth iddi gael ei deddfu'n llawn, ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor, i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn diweddaru'r Aelodau.

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i swyddogion am yr adroddiad a gofynnodd a allai Aelodau'r Pwyllgor gymryd rhan mewn ymweliad â Swyddfeydd y Fflint i ddod yn gyfarwydd â'r swyddogion newydd yn dilyn ailstrwythuro'r adran dai. Awgrymwyd y dylid llunio pwy yw pwy o staff tai a'u dosbarthu i'r Pwyllgor er gwybodaeth yn y lle cyntaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a allai tenant golli hawl olyniaeth ar ôl i'r berthynas chwalu. Gofynnodd hefyd pa gymorth a ddarparwyd i denantiaid pe bai'n rhaid dymchwel eu cartref. Cadarnhaodd y Rheolwr Tai y byddai angen sefydlu tenantiaeth newydd yn dilyn perthynas yn chwalu. Cadarnhaodd hefyd pe bai angen dymchwel cartref, byddai'r tenant yn cael ei ail-gartrefu.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Ted Palmer bod yr adran sy'n delio ag Olyniaethau yn y Polisi Rheoli Tenantiaethau yn anodd ei deall, cytunodd y Prif Swyddog y byddai swyddogion yn edrych ar hyn ymhellach ac yn ei newid os yn bosibl.

 

Gwnaeth y Cynghorydd David Wisinger sylwadau ar y cynnydd yn nifer y tenantiaid y cysylltir â nhw i wneud hawliadau ynghylch diffyg atgyweirio a gofynnodd sut ymatebodd y Cyngor iddynt.  Gwnaeth sylwadau hefyd ar effeithiau ariannol posibl COVID-19 a gofynnodd a ellid gohirio taliadau rhent ar gyfer tenantiaid sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol. Esboniodd y Brif Swyddfa fod y Cyngor wedi amddiffyn hawliadau diffyg atgyweirio yn drwyadl. Esboniodd hefyd nad oedd unrhyw gynigion ar hyn o bryd i ohirio taliadau rhent ar gyfer tenantiaid ond y byddai pob cais yn cael ei ystyried fesul achos.

 

Croesawodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yr adroddiad ond cododd bryderon ynghylch newidiadau i ddyraniadau a oedd wedi arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn llety gwarchod.  Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar y prosesau sydd ar waith i droi tenantiaid allan sy'n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol a dibyniaeth ar wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Dywedodd hefyd y byddai adolygiad o ddyraniadau i lety gwarchod yn cael ei gynnal. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ron Davies ar ymweliadau â thenantiaid, cadarnhaodd y Rheolwr Tai fod ymweliadau â thenantiaid yn cael eu cynnal trwy apwyntiad. Dywedodd hefyd, yn ystod tenantiaethau rhagarweiniol, bod swyddogion tai wedi ymweld bob 3, 6 a 9 mis fel y gallai unrhyw broblemau posib gael eu nodi'n gynnar.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Ron Davies y dylid nodi'r Polisi Rheoli Tenantiaethau ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Polisi Rheoli Tenantiaethau yn cael ei nodi.


11/03/2020 - Flintshire in Business Update ref: 8047    Recommendations Approved

To update members on the work on the Council’s business development team and specifically on the Flintshire in Business events programme.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) yr adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y tîm datblygu busnes ac yn rhoi diweddariad ar raglen Sir y Fflint Mewn mewn Busnes ar gyfer 2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi ar beth fyddai’r gwasanaeth yn canolbwyntio ei waith yn 2020 a thu hwnt mewn ymateb i newidiadau i'r economi ac i flaenoriaethau corfforaethol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio mai prif swyddogaeth y gwasanaeth oedd ymgysylltu â busnes a oedd yn gweithredu fel platfform ar gyfer adeiladu gweithgareddau eraill gan y gwasanaeth a darparwyr eraill.  Roedd hon yn rôl unigryw na ddarparwyd mewn man arall ac roedd yr adborth gan randdeiliaid a chwsmeriaid busnes wedi bod yn gadarnhaol dros ben o ran y gwasanaeth a gawsant gan y tîm.

 

Un o'r rhaglenni blaenllaw a ddarparwyd gan y gwasanaeth oedd Sir y Fflint Mewn Busnes (Wythnos Fusnes Sir y Fflint gynt). Roedd hyn wedi gweithredu am 13 blynedd ac wedi'i ariannu'n llawn trwy nawdd gan y gymuned fusnes. Yn 2019 penderfynwyd rhoi’r gorau i weithredu’r rhaglen fel cyfres o ddigwyddiadau wythnos o hyd gan y teimlwyd bod hyn yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau fynychu pob un o’r digwyddiadau. Yn lle hynny, cynigiwyd lledaenu’r digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Manylwyd ar y digwyddiadau a gynhwyswyd yn y rhaglen ar gyfer 2019 yn yr adroddiad. 

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio sylw'r Aelodau at gyfeiriad strategol y gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaeth yn ailffocysu ei waith yn 2020/21 i adlewyrchu'r byd sy'n newid i fusnesau yn y Sir, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei bod yn bwysig i’r Aelodau gydnabod gwaith y tîm a llongyfarchodd y tîm ar eu gwaith a’r rhwydweithio sy’n cael ei wneud ledled Sir y Fflint.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) y byddai 7 tref ledled Gogledd Cymru yn elwa o Wi-Fi am ddim. Cytunodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i ddarparu mwy o wybodaeth am hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ynghylch y diffyg buddsoddi yn Nociau Mostyn, sicrhaodd y Prif Swyddog y Cynghorydd Heesom nad oedd Dociau Mostyn yn cael eu hanghofio ac y byddai’r adran o'r adroddiad yn cyfeirio at y llif gwaith i wella'r cydlyniad a chydgysylltu gweithgaredd cymorth busnes gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cynorthwyo gyda dull mwy cydgysylltiedig.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Wisinger ar faint o unedau diwydiannol y cyngor a feddiannwyd, nododd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod tuag at ben uchaf 80% o unedau diwydiannol yn cael eu meddiannu. Esboniodd fod adolygiad o ystadau diwydiannol i fod i gael ei gynnal er mwyn sefydlu pa rai y byddai angen eu hailddatblygu yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r cynnydd a wnaed o ran darparu cymorth busnes yn Sir y Fflint a'r blaenoriaethau a adnewyddwyd ar gyfer y dyfodol.


11/03/2020 - Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) ref: 8042    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol yn eitem 5 ar y Rhaglen - Polisi Rheoli Tenantiaeth, fel tenant i’r Cyngor.

 

            Datganodd y Cynghorwyr Paul Shotton a David Wisinger gysylltiad personol yn eitem 8 ar y Rhaglen - Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2019/20 Chwarter 3, fel Aelodau o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.


11/03/2020 - Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report ref: 8048    Recommendations Approved

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2019/20

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 11/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i gyflwyno crynodeb o'r gwaith monitro a wnaed o gynnydd o ran sefyllfa chwarter tri 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 'Cyngor sy’n Gofalu', 'Cyngor Uchelgeisiol' a 'Chyngor sy’n Gwasanaethu' sy'n berthnasol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) er bod nifer yr unigolion a gefnogwyd trwy'r gwasanaeth mentora sy'n mynd i gyflogaeth, dysgu a gwirfoddoli yn is na'r targed, roedd ef a'r tîm yn hyderus bod y targed blwyddyn lawn yn gyraeddadwy.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rosetta Dolphin sylwadau ar berfformiad y Tîm Digartrefedd a'r Tîm sy'n cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer tenantiaid y Cyngor a gofynnodd am anfon llythyr at Jenni Griffiths, Rheolwr Digartrefedd a Chyngor a Sean O'Donnell, Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf yn diolch iddyn nhw a'u timau am eu gwaith caled yn eu meysydd gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin hefyd at fesur perfformiad 1.4.5.1 a gofynnodd pam y dangoswyd bod y cynnydd yn wyrdd os oedd nifer yr unedau llety cymdeithasol a ddarparwyd wedi gostwng ar ôl i'r gymdeithas dai fethu â chyrraedd ei tharged. Cytunodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ddarparu ymateb yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin ynghylch gosod pympiau gwres yr awyr, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i ddarparu manylion y swyddogion i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod fel y gallai'r Aelodau ddarparu gwybodaeth i breswylwyr trwy eu cylchlythyrau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.


10/03/2020 - Cofnodion ref: 8036    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr a chawsant eu cynnig i’w cymeradwyo gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror a chyfeiriodd y Cynghorydd  Hardcastle at yr ail baragraff ar dudalen 13 ac roedd eisiau ychwanegu ei ddiolch i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant). Cynigiwyd y cofnodion i’w cymeradwyo gan y Cynghorydd Chris Dolphin a’u heilio gan y Cynghorydd Cindy Hinds.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.


10/03/2020 - Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) ref: 8035    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:


10/03/2020 - Complaint made to the Public Services Ombudsman for Wales ref: 8038    Recommendations Approved

To share the outcome of an investigation against Flintshire County Council and its failure to take timely and appropriate action to deal with a car wash which was causing Statutory Nuisance of noise and water/chemical spray.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad oedd yn cynnwys manylion cwyn a wnaed yn erbyn Cyngor Sir y Fflint a gafodd ei ymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 2019. Cadarnhaodd fod y 10 argymhelliad wedi cael eu derbyn.

 

                        Fe ychwanegodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes fod y tîm wedi ystyried y casgliadau’n ofalus iawn a’u bod yn ceisio symud ymlaen yn adeiladol gan ystyried y gwersi sydd wedi’u dysgu a fydd yn cael eu defnyddio fel model ar gyfer achosion eraill yn y dyfodol.  Fe ffurfiwyd gr?p rhwng adrannau er mwyn mynd i’r afael â phob achos wrth symud ymlaen a fyddai’n cael eu cofnodi’n ffurfiol yn ychwanegol i gynllun gweithredu manwl.  Fe ychwanegodd fod y tîm wedi’i gydleoli yn Ewlo. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at y polisi gorfodi cynllunio a’r ôl-groniad o achosion. Roedd dros 300 o achosion oedd angen eu hymchwilio. Roedd hi’n cydnabod tra bod y tîm gorfodi yn dîm bach iawn, roedd hi’n obeithiol y byddai’r adroddiad Archwilio Mewnol yn foddhaol.  

           

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio dywedodd y Cynghorydd Wisinger nad oedd yn hapus gyda’r hyn oedd wedi digwydd, ond cafodd gwersi eu dysgu ac roedd o’n hyderus y byddai’r gwasanaeth yn parhau i wella. Fe groesawodd y cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r argymhellion.

 

Mynegodd y Cynghorydd Cindy Hinds bryderon yngl?n ag adeiladau oedd wedi eu hesgeuluso.  Gan ymateb dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod yna bot bychan o arian i’w roi/benthyg i berchnogion adeiladau mewn cyflwr gwael i’w helpu i’w defnyddio eto. 

 

Roedd y Cynghorydd Sean Bibby o’r farn fod yna welliant mawr wedi bod yn y modd y mae achosion gorfodi yn cael eu trin.  Roedd yn teimlo fod y broses cwynion newydd yn gweithio’n dda ac roedd yn cydnabod llwyth achosion prysur y swyddogion.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu drosolwg o strwythur y Tîm Gorfodi a dywedodd y byddai pob swyddog yn gyfrifol am tua 80-90 achos, ond byddai unrhyw un o’r swyddogion yn gallu rhoi diweddariad i aelodau ar unrhyw achos. Yn ychwanegol, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio a Datblygu) i ddosbarthu rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost y Tîm Gorfodi i Aelodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Wisinger yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi camau gweithredu a gymerwyd gan yr Adran Cynllunio, Yr Amgylchedd ac Economi fel yr amlinellir ym mharagraffau 54 a 55 yr adroddiad fel y nodir yn Atodiad 2.


10/03/2020 - Waste Permitting and Data Flow ref: 8041    Recommendations Approved

To provide Scrutiny with details of the reporting mechanism for waste material in order that recycling performance can be measured.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:

Yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu, cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad am drosolwg trwyddedu gwastraff a gweithgareddau adrodd llif data o fewn y Cyngor. Y pwyntiau allweddol oedd;

 

·         Trwyddedu gwastraff

·         Dyletswydd gofal

·         Cludydd gwastraff

·         Adrodd gwastraff

Roedd y Cadeirydd ac Aelodau yn hapus iawn gyda manylder yr adroddiad a’r hyn oedd wedi cael ei wneud ac fe wnaethant eu hannog nhw i gario ymlaen gyda’r gwaith da. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y byddent yn cyfleu eu canmoliaeth yn ôl iddynt.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Owen Thomas ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.


10/03/2020 - Update on Garden Waste charges in Flintshire ref: 8040    Recommendations Approved

To provide Scrutiny with an update on the number of green waste permits sold in the 2020 season.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio ddiweddariad ar dymor casglu gwastraff gardd 2020 ers i’r newidiadau gael eu gweithredu fel rhan o’r adolygiad o ffioedd blynyddol a chyflwyno system tag newydd sydd wedi disodli’r sticer. Fe bwysleisiodd nad oedd yna ddyletswydd ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd; serch hynny roedd gwastraff gardd yn cyfrannu’n sylweddol at berfformiad ailgylchu cyffredinol a’i fod yn wasanaeth taladwy yn ôl disgresiwn sy’n cael ei gynnig i leihau gwastraff tirlenwi a chreu refeniw er mwyn darparu gwasanaethau statudol eraill fel yr argymhellir gan Glasbrint Casgliadau Gwastraff Llywodraeth Cymru (2011).

 

                        Wrth ymateb i gwestiynau am y ffioedd a sut roedd y gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo ymysg y rhai nad oedd wedi tanysgrifio eto, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y ffi gostyngedig o £32 dal ar gael ar gyfer taliadau ar-lein. Byddai modd i aelodau’r cyhoedd oedd methu gwneud taliad ar-lein wneud hynny yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu a bydd aelod o staff yn eu cwblhau ar-lein iddynt. £35 oedd y ffi ar gyfer taliadau a wnaed ar ôl 1 Mawrth 2020 dros y ffôn neu mewn ciosg talu yn Sir y Fflint yn Cysylltu ar gyfer taliadau arian parod. Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn cyflwyno taliadau Debyd Uniongyrchol y flwyddyn nesaf. Gwnaed dadansoddiad o sut roedd taliadau’n cael eu gwneud a hyd yn hyn, roedd 70% yn digwydd ar-lein a 30% yn digwydd yn bersonol.

           

Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i roi cyfarwyddiadau i bob criw i gasglu biniau brown hyd yn oed os oedd y tagiau wedi cael eu gosod ben uchaf isaf gan ymateb i fater a godwyd gan y Cynghorydd Hardcastle.

           

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar gynllun casglu gwastraff gardd 2020 yn cael ei nodi.


10/03/2020 - Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report ref: 8039    Recommendations Approved

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2019/20.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:

Cyd-gyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar grynodeb perfformiad sefyllfa Chwarter 3 (Hydref – Rhagfyr 2019) ar gyfer 2019/20 ar flaenoriaethau ‘Cyngor Gwyrdd’, ‘Cyngor Uchelgeisiol’ a Chyngor Diogel a Glân’ Cynllun y Cyngor i’r Pwyllgor.

 

Roedd y Cynghorydd Hardcastle eisiau diolch i’r adran Strydwedd ac Aelodau’r Cabinet am newid diweddar i ddiwrnod casglu gwastraff ar gyfer rhai o aelwydydd Sir y Fflint. Dywedodd ei fod yn disgwyl nifer o alwadau ffôn gan bobl yn ei ardal, ond fe aeth y cyfan yn esmwyth. Serch hynny, dywedodd y Cynghorydd Thomas nad oedd biniau wedi cael eu casglu yn ei ardal o gan fod pobl ddim yn gwybod am y diwrnod casglu newydd.Dywedodd fod yn hyn arbennig o beryglus ar hyd yr A541 lle mae biniau’n cael eu gosod ar y pafin. 

 

Fe ychwanegodd y Cynghorydd Wisinger fod casglu gwastraff yn her enfawr, ond nid y gwasanaeth Strydwedd sydd bob amser yn achosi problemau gan fod rhai pobl yn rhoi’r biniau anghywir allan, yn rhoi gormod o bethau yn y bin neu ddim yn llenwi’r bagiau’n iawn gan achosi i’r sbwriel ddisgyn allan a does gan swyddogion casglu sbwriel ddim amser i bigo sbwriel sydd wedi bod yn hedfan o gwmpas.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) drwy ddweud eu bod wedi dysgu gwersi o newidiadau yn 2012 a bod 10,000 eiddo yn Sir y Fflint wedi newid. Er ei fod yn cydnabod y methwyd rhai strydoedd, cawsant eu casglu’n fuan gan y criwiau oedd angen amser i ddysgu’r rowndiau newydd. Fe ychwanegodd y dylai unrhyw dystiolaeth o flerwch gael ei adrodd yn syth bin, gan ei bod hi’n anoddach ymateb i adroddiadau ddiwrnodau wedyn.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Dolphin, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i roi manylion cyswllt/rota dyletswydd i Aelodau ar gyfer casgliadau gwastraff oedd yn cael eu methu ar ddyddiau Sadwrn.

 

Siaradodd y Cynghorydd am y ffaith tra bod ailgylchu wedi rhagori ar dargedau, roedd targedau trefniadau teithio lleol a osodwyd wedi dyblu ac roedd gwaith cyfleustodau wedi cyflawni mwy na’r hyn oedd wedi’i gynllunio ac roedd angen eglurhad ar ardaloedd nad oedd yn bositif.  Gofynnodd ble oedd y trothwy a ble roedd yn sbarduno statws COG gan nad oedd yn eglur, ac fel dogfen gyhoeddus fe ddylai fod. Gan ymateb dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’n mynd â’r mater yn ôl at y Tîm Perfformiad i ymchwilio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.


10/03/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking ref: 8037    Recommendations Approved

To consider the Forward Work Programme of the Environment Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/03/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol a rhoddodd fanylion byr am yr Ymweliad â Pharc Adfer ar 7 Ebrill. 

 

Cytunwyd y byddai’r eitemau canlynol oedd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfod ar 5 Mai yn cael eu gohirio tan 7 Gorffennaf er mwyn gallu cynnal gweithdy ar gynnal a chadw ffosydd a chyrsiau d?r ar 5 Mai.

 

·         Trydaneiddio’r Fflyd

  • Rheoli Plâu

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Wisigner bwysigrwydd clirio ffosydd yn rheolaidd, ac fel enghraifft fe soniodd am sefyllfa yn Sandycrofft y llynedd pan gafwyd llifogydd gan fod ffosydd heb gael eu clirio yn wahanol i eleni, pan gafodd ffosydd eu clirio, ac o ganlyniad ni chafwyd llifogydd. 

 

Wrth ymateb i fater a godwyd o ran newidiadau arfaethedig i lwybrau hedfan Maes Awyr Lerpwl, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) i rannu dogfen ymgynghori Maes Awyr Lerpwl gyda’r Aelodau. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at newidiadau i wasanaethau bws sydd wedi gadael ardaloedd fel Llys Alyn yn Rhydymwyn heb gludiant cyhoeddus. Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i drefnu bod Sarah Blake yn cwrdd â phreswylwyr Rhyd-y-mwyn yngl?n a thrafnidiaeth seiliedig ar alw.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at broblem gyda chebl o dan yr A548 a dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wrth y Pwyllgor mai’r Cyngor sydd bellach yn gyfrifol am waith atgyweirio gan ei fod y tu allan i’r cyfnod gwarant 2 flynedd a’u bod wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid gwytnwch.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Dave Wisinger yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.


10/02/2020 - Betsi Cadwaladr University Health Board ref: 8034    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/08/2020

Yn effeithiol o: 10/02/2020

Penderfyniad:

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod, a diolchodd iddynt am fynychu. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y rhesymau pam fod cynrychiolwyr BIPBC wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod, fel a ganlyn:-

 

  1. Rhoi sicrwydd dros drefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer a pharhad gwasanaeth;
  2. Ymateb i ganlyniad y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd gan y Cyngor Sir ar 28 Ionawr 2020; ac
  3. Ystyried cwestiynau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr er mwyn rhoi sicrwydd dros drefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer a pharhad gwasanaeth;

 

            Dywedodd Mark Polin bod awgrym mai BIPBC oedd ar fai am y materion o ran trefniadau dan gontract gydag Ysbytai Iarlles Caer, ond dywedodd nad hynny oedd yr achos. Nid oedd yn rhagweld y byddai’r mater yn codi yn y dyfodol ac roedd cyfarfodydd i sicrhau bod Ysbyty Iarlles Caer yn bodloni eu trefniadau dan gontract, yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau y byddai’r contractau yn cael eu harwyddo’n fuan.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd o ran terfynau amser, dywedodd Sue Hill y rhagwelwyd y byddai’r contract yn cael ei arwyddo ddiwedd mis Mawrth. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai adborth gael ei rannu gydag Aelodau, unwaith i’r contract gael ei arwyddo.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carol Ellis o amgylch y term ‘gweithgaredd heb ei ddarparu’, eglurodd Mark Polin nad oedd yr holl weithgareddau oedd i gael eu darparu gan Ysbyty Iarlles Caer drwy’r trefniant dan gontract wedi cael eu darparu, ac felly roedd gwaith pellach yn cael ei gyflawni i ddeall hyn yn well cyn arwyddo’r contract newydd. Eglurodd Simon Dean mai dyma’r broses arferol er mwyn sicrhau bod y nifer o gleifion a gaiff eu hatgyfeirio a’u trin gan Ysbyty Iarlles Caer ar y lefel iawn er mwyn sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd Sue Hill nad oedd unrhyw gynigion i newid y llwybr er mwyn i drigolion Sir y Fflint gael mynediad at wasanaethau yn Ysbyty Iarlles Caer.  Dywedodd Gill Harris yr hoffai weld cynnydd mewn gwasanaeth, yn arbennig o ran gwasanaethau mamolaeth. 

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd gynrychiolwyr BIPBC i ddarparu ymateb i gwestiynau penodol a amlinellwyd o fewn y Rhybudd o Gynnig a ystyriodd y Cyngor ar 28 Ionawr; 2020.

 

1. Oes digon o le yn ysbytai Maelor Wrecsam, Glan Clwyd ac Iarlles Caer?

 

            Gwahoddodd Mark Polin, Imran Devji i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar fesurau ataliol a’r gwaith partneriaeth sy’n digwydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

 

            Adroddodd Imran Devji bod adolygiad o ran cleifion oedd yn cyrraedd yr uned ddamweiniau ac achosion brys a oedd angen gofal brys, wedi cael ei gynnal er mwyn rheoli llwybrau a blaenoriaethu cleifion. Yn ystod yr adolygiad, ystyriwyd nifer o ffactorau, gan gynnwys 1) proffil awr wrth awr yr uned ddamweiniau ac achosion brys dros y 5 mlynedd ddiwethaf; a 2) shifftiau nyrsio dros 24 awr 7 diwrnod yr wythnos. Yn dilyn yr adolygiad, gwnaed gwelliannau allweddol, yn arbennig o amgylch gwasanaethau clinigol ac acíwt, er mwyn cynyddu’r nifer o lefydd yn yr uned ddamweiniau ac achosion brys i 57 a chyflwyno ardaloedd ymgynghori meddygon.  Mae’r model newydd wedi cael ei groesawu gan y tîm clinigol a oedd yn rhan o’r ymgynghoriad yn ystod yr adolygiad, ac adroddodd bod y gyfradd tagfeydd wedi lleihau ers hynny o 85/90% i 55/60%.   

 

            Croesawodd Mark Polin y gwelliannau a gwnaeth sylw ar yr ymgynghoriad eang a ddigwyddodd gyda nyrsys a meddygon. Adroddodd hefyd y byddai’n mynychu cyfarfod gyda Phrifysgol Bangor er mwyn symud ymlaen gyda’r dyheadau o gael ysgol feddygol Gogledd Cymru er mwyn diwallu anghenion capasiti yn y dyfodol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis, dywedodd Imran Devji bod 57 o lefydd ychwanegol wedi bod yn weithredol ers 4 Tachwedd 2019.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Ellis i Imran Devji a Mark Polin am eu hymateb ac am gydnabod nad oedd digon o gapasiti ar hyn o bryd. Croesawodd hefyd y cwestiynau a godwyd gan Jack Sargeant AC gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn ystyriaeth y Cyngor o’r Rhybudd o Gynnig. Rhoddodd fanylion am ddigwyddiad diweddar a gafodd ei adrodd iddi gan drigolyn o fewn ei ward, a chododd bryderon am yr amser yr oedd rhaid i’r ddynes aros heb gael bwyd na diod. Fe wnaeth sylw hefyd ar y Gofal Iechyd Parhaus ac roedd yn bryderus mai BIPBC oedd gan un o’r cyfraddau oedi uchaf mewn perthynas â chleifion yn derbyn pecyn gofal dros gyfnod o 12 mis. Er y canmolodd gwaith y Cyngor wrth ddarparu cefnogaeth i’r cleifion sy’n disgwyl am becynnau gofal, teimlodd mai dyma’r rheswm pam fod cleifion yn gorfod aros am amser hir yn yr uned ddamweiniau ac achosion brys.             

 

            Dywedodd yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod Cyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd yn 7fed ar draws Cymru am eu perfformiad wrth ddarparu pecynnau gofal ar gyfer cleifion oedd yn gadael ysbytai.

 

            Ymddiheurodd Simon Dean am y gwasanaeth a brofodd y trigolyn o fewn ward y Cynghorydd Ellis a chytunodd i olrhain hyn yn dilyn y cyfarfod. Fe wnaeth sylw ar y pwysigrwydd o beidio â gweithio’n ynysig a bod angen i’r cysylltiadau agos â chydweithwyr gofal cymdeithasol barhau i ddatblygu mewn partneriaeth yn seiliedig ar y dulliau i sicrhau lles trigolion.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey mewn perthynas â chleifion yn yr uned ddamweiniau ac achosion brys gyda materion iechyd meddwl, rhoddodd Imran Devji wybodaeth ar I CAN, a oedd yn ddull newydd i wella iechyd meddwl a lles pobl ar draws Gogledd Cymru, a chyflwyno’r gefnogaeth iechyd meddwl I CAN newydd er mwyn symud y canolbwynt gofal i atal ac ymyrryd yn fuan, gan sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir yn y llefydd cywir ar yr amser cywir. 

 

2. Oes angen Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ei hun ar Sir y Fflint?

 

Dywedodd Mark Polin bod angen i Ysbyty Glan Clwyd a Wrecsam berfformio i’w lefelau uchaf bosibl, gan olygu bod angen y staff a phrosesau iawn yn eu lle, ond dywedodd bod angen gwasanaethau cynradd ac eilaidd priodol yn Sir y Fflint er mwyn cynorthwyo i leihau’r nifer o bobl oedd yn dod i’r uned ddamweiniau ac achosion brys. Rhoddodd wybodaeth ar yr adolygiad o gadernid gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu, ac adroddodd y byddai asesiad risg diwygiedig ar gapasiti Meddygon Teulu a chwmpas ar draws Sir y Fflint yn cael ei rannu ag Aelodau erbyn diwedd Ebrill 2020.      

 

3.  Pam bod perfformiad yr Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys mor wael ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o’i gymharu gyda gweddill Cymru?

 

Eglurodd Simon Dean bod hyn yn fater system ehangach a oedd yn effeithio Cymru a Lloegr ac yn aml-weithredol. Gwnaeth sylw ar y boblogaeth sy’n heneiddio a’r angen i ddod o hyd i fodelau gofal gwahanol er mwyn bodloni ystod o ofynion gwahanol. Dywedodd bod llawer o waith i’w gyflawni mewn partneriaeth ac roedd yn falch o glywed bod cydweithio rhwng BIPBC a’r Cyngor eisoes yn cael ei gyflawni.  

 

4. Pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith i wella perfformiad yr Unedau Damweiniau ac Achosion Brys mewn argyfwng drwy ganolfannau galw heibio Meddygon Teulu, oriau ychwanegol mewn unedau mân anafiadau, gwell mynediad i Feddygon Teulu a gwasanaethau cymunedol gwell?

 

            Adroddodd Simon Dean bod Llywodraeth Cymru yn 2019, wedi cyhoeddi cyfres newydd o safonau ar gyfer Meddygon Teulu a ddylai godi a gwella’r lefel gwasanaeth ar gyfer cleifion yng Nghyrmu mewn meddygfeydd teulu. Roedd rhai o’r safonau newydd yn cynnwys 1) sicrhau bod pobl yn derbyn ymateb prydlon i’w cyswllt â’r meddyg teulu dros y ffôn; a 2) bod gan y meddygfeydd systemau ffôn priodol yn eu lle i gefnogi anghenion pobl gan atal yr angen i ffonio yn ôl nifer o weithiau. Bydd y safonau newydd yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru yn ystod 2020/21 ac roedd cyllid wedi cael ei ddarparu i gefnogi hyn.

 

            Rhoddodd Simon Dean wybodaeth ar y gwelliannau a gyflawnwyd i wella mynediad i Uned Mân Anafiadau yr Wyddgrug, a dywedodd bod hyn wedi bod yn effeithiol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd mewn perthynas â’r defnydd o dechnoleg uwch, dywedodd Gill Harries bod defnydd uchelgeisiol o dechnoleg digidol wedi cael ei sefydlu yn y Strategaeth Glinigol er mwyn cael mynediad at ofal yn ddigidol ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.

 

5. Beth yw’r lefel o fuddsoddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gleifion yng Ngogledd Cymru i sefydlogi ac yna gwella'r perfformiad? 

 

Dywedodd Mark Polin bod ymgysylltiad â LlC yn digwydd er mwyn cadarnhau pa gymorth ariannol sydd ei angen, pa arbedion effeithlonrwydd y gellir eu gwneud wrth barhau i ddarparu gwelliannau i wasanaethau a pha gymorth ariannol a allai gael ei ddarparu i fynd i’r afael â thensiynau o fewn y system bresennol. Roedd yr ymgysylltiad hwn wedi bod yn gadarnhaol.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr sylwadau ar allu partneriaid rhanbarthol i ymgysylltu a chynnig cymorth wrth drafod cyllideb gweithredu ddigonol a chynaliadwy gyda LlC. Croesawodd Simon Dean hyn.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Paul Cunningham beth oedd y cynrychiolwyr yn ystyried fel amseroedd aros derbyniol ar gyfer cleifion yn yr Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys, a soniodd am ei brofiadau ei hun, gyda rhai ohonynt yn brofiadau cadarnhaol, ac er fod amseroedd aros wedi bod yn hir ar rai achlysuron, roedd y gwasanaeth a dderbyniodd yn dda iawn. Ymddiheurodd Gill Harris am yr oedi a brofodd, ond roedd yn falch o glywed bod y Cynghorydd Cunningham wedi derbyn gwasanaeth da. Dywedodd na ddylai unrhyw un aros yn hirach nag oedd angen ac mai’r canolbwynt oedd ar reoli cleifion ar sail unigol i roi cynlluniau priodol yn eu lle.   

 

            Roedd cwestiynau a ddarparwyd gan Aelodau’r Pwyllgor wedi cael eu cyflwyno cyn y cyfarfod hwn. Gwahoddodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr BIPBC ymateb i’r cwestiynau.

 

  1. Beth yw’r gymhareb darged meddyg/claf ar gyfer Sir y Fflint a beth yw’r gymhareb ar hyn o bryd? Sut mae hyn yn cymharu â Chymru a’r DU; a

 

  1. Os ydym ni o dan y targed, beth sy’n cael ei wneud am hyn a pham eu bod yn dweud wrth gynllunwyr y gall eu hisadeiledd gefnogi datblygiadau newydd?

 

Amlinellodd Rob Smith sut oedd y pwysau ar feddygon teulu yn cael ei olrhain. Drwy’r safonau newydd a ddisgwylir gan Feddygon Teulu, mae LlC yn darparu cyllid ychwanegol a fydd yn gwella mynediad i wasanaethau gan nad yw hi bob amser yn angenrheidiol i bobl fynd i weld eu Meddyg Teulu a  byddai eu hanghenion yn gallu cael eu diwallu drwy siarad neu ymweld â fferyllydd/ffisiotherapydd.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn mewn perthynas â chymhareb darged meddyg/claf a chynnydd mewn adeiladu tai, eglurodd Rob Smith nad oedd cymhareb benodol. Eglurodd Simon Dean bod BIPBC yn cael gwybod am ddatblygiadau tai arfaethedig fel rhan o’r broses cynllunio. Eglurodd y Prif Weithredwr y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r angen i gasglu ystod eang o wybodaeth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol er mwyn darparu sail ffeithiol ar gyfer y cynllun. Roedd angen i’r CDLl annog datblygiad oedd yn gynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a oedd yn cynnwys holl wasanaethau cyhoeddus, nid mynediad i Feddygon Teulu yn unig.    

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis mewn perthynas â cholli’r Feddygfa yn yr Wyddgrug a’r anawsterau oedd yn wynebu trigolion Bwcle i gael apwyntiadau, eglurodd Rob Smith yn dilyn y cau, roedd y gwasanaeth wedi cael ei drosglwyddo i feddygfa ym Mwcle, ac nid oedd cais am gymorth ychwanegol wedi cael ei wneud. Byddai’r cyfres o safonau a ddisgwyliwyd gan LlC yn gwella mynediad ar gyfer gwneud apwyntiadau.   

 

            Gwnaeth Carolyn Thomas sylw am yr angen ar gyfer darpariaeth cludiant cyhoeddus well er mwyn galluogi trigolion yn yr Wyddgrug i gael mynediad at y Feddygfa ym Mwcle. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cunningham mewn perthynas â Meddygfa’r Fflint, dywedodd Rob Smith y byddai gwasanaeth gofal sylfaenol yn parhau i gael ei weithredu o’r adeiladu ac roedd hysbyseb ar gyfer ymarferydd annibynnol wedi cael ei gyhoeddi.

 

  1. Mae awgrym bod Ysbyty Maelor Wrecsam yn llogi gwelyau bariatrig gan gwmnïau preifat. Ydych chi’n fodlon bod offer, sy’n cael eu llogi ar draws y gwasanaeth yn cael eu dychwelyd yn ôl yr angen ac nad yw BIPBC yn mynd i gostau gormodol oherwydd methiant i ddychwelyd eitemau? 

 

Eglurodd Gill Harries, mewn rhai achosion, roedd angen gwelyau penodol ac roedd y rhain yn cael eu llogi gan gwmni preifat. Rhoddodd sicrwydd bod y cwmni yn cael eu hysbysu unwaith nad oedd y gwely ei angen ac nid oedd unrhyw gostau ychwanegol, hyd yn oed pe byddai’n cymryd ychydig o ddyddiau i’r gwely gael ei gasglu. 

 

  1. Mae’r cyhoedd o dan yr argraff bod ein hysbytai yn bendrwm gydag adrannau rheoli a bod haenau rheoli eu hunain yn rhwystr ar gyfer newid. Ydych chi’n credu bod yr amser wedi dod i’r haenau rheoli hyn gael eu torri er mwyn cyfeirio’r adnoddau hyn i’r rheng flaen?

 

Eglurodd Simon Dean bod rheolaeth dda yn hanfodol er mwyn galluogi i staff clinigol gyflawni eu swyddi yn effeithiol. 

 

  1. Pam nad yw BIPBC yn gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfleusterau Mân Anafiadau a Phelydr-X sydd ar gael mewn Ysbytai Cymunedol lleol yr ydym wedi ymdrechu i’w cadw ar gyfer defnydd lleol ac i dynnu pwysau oddi ar yr Ysbytai Cyffredinol fel Maelor? 

 

Adroddodd Gill Harris a Rob Smith ar yr adolygiad cynlluniedig o’r gwasanaeth Mân Anafiadau ac roeddent yn cydnabod y byddai hyn yn cyfrannu tuag at leihau’r galw ar wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys.  Pwrpas yr adolygiad oedd i wneud y defnydd gorau o’r gwasanaeth Mân Anafiadau a chanfod y ddarpariaeth i wneud hynny.          

 

Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell mai pwrpas cadw’r gwasanaeth Mân Anafiadau yn yr Wyddgrug yn y lle cyntaf, oedd i dynnu’r pwysau oddi ar ysbytai cyffredinol. Cytunodd Gill Harris a soniodd am y camau i benodi ymarferwyr nyrsio a darparu hyfforddiant priodol er mwyn gallu eu penodi i’r gwasanaeth Mân Anafiadau.   

 

  1. Pa gamau sy’n cael eu cymryd i ddatrys gorlenwi yn ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam? Ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf, wrth ymweld ag Ysbyty Wrecsam roedd cyflenwadau a sbwriel yn cael eu cadw ar y coridorau.

 

Adroddodd Imran Devji bod Cynllun Rheoli Coridorau mewn lle a bod coridorau yn lân ac yn glir rhag llanast er mwyn sicrhau diogelwch cleifion. Os oedd rhaid i offer gael eu cadw ar y coridor, yn gyntaf dylid ystyried os oedd hynny’n ddiogel.

 

Soniodd y Cynghorydd Ellis am yr anawsterau i bobl oedd wedi colli eu golwg os oedd offer yn cael eu cadw yn y coridorau.

 

  1. Pa mor aml mae’r wardiau yn cael eu glanhau’n drylwyr?

 

Adroddodd Gill Harries bod llawer iawn o waith yn cael ei gynnal i wella gwasanaethau glanhau yn yr ysbytai cyffredinol. Roedd gwasanaeth glanhau 24 awr ar gael ac roedd hyn wedi gwella’n sylweddol. Ar achlysuron, rhaid i gleifion gael eu hynysu er mwyn atal lledaeniad feirws ac mae’r broses lanhau ar gyfer hyn wedi gwella hefyd. Mae’r lefelau o heintiau wedi lleihau’n sylweddol ac mae’r tîm clinigol a’r tîm glanhau wedi bod yn gefnogol er mwyn cyflawni hyn.

 

  1. Beth yw lefelau clefydau heintus cyfredol, megis C diff yn y ddau ysbyty sy’n gwasanaethu Sir y Fflint?

 

Dywedodd Gill Harries bod gostyngiad sylweddol yn y lefelau o glefydau heintus yn y ddau ysbyty ac erbyn hyn mae’r lefelau o dan gyfartaledd Cymru. Byddai rhagor o wybodaeth a ffigyrau yn cael eu darparu i Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

  1. Beth yw cyfartaledd yr amser aros i gleifion sy’n cyrraedd yr Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys  ac angen gwely ar frys?

 

Cytunodd y Pwyllgor bod ymateb i’r cwestiwn hwn wedi cael ei ddarparu yn gynharach yn y cyfarfod.

 

  1. Beth yw’r polisi ar ddarparu bwyd a diod wrth ddisgwyl yn yr Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys ar gyfer yr henoed a’r rhai ar eu pennau eu hunain?

 

Dywedodd Gill Harries bod Polisi mewn grym o fewn adrannau brys i fyrbrydau a diod gael eu cynnig i gleifion a dylai hyn gael ei fonitro bob dwy awr. Os nad oedd hyn wedi digwydd, dywedodd y byddai’n dilyn trywydd hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

  1. Beth yw’r weithdrefn i gael apwyntiad Orthopedig a’r amseroedd aros?

 

Eglurodd Gill Harries bod apwyntiadau orthopedig yn cael eu trefnu yn dilyn atgyfeiriad. Roedd amseroedd aros rhwng 8 a 26 wythnos a cydnabuwyd bod hyn yn rhy hir, felly roedd cefnogaeth yn cael ei ddarparu gan LlC i gynyddu a gwella gwasanaethau orthopedig. Byddai adolygiad gwasanaeth yn galluogi BIPBC i ddatblygu llwybrau ac efallai y byddai ymgysylltiad tymor byr/canolig gyda chontractwyr allanol yn angenrheidiol i ddiwallu’r galw ar y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas mewn perthynas â’r nifer o lawdriniaethau a gafodd eu gohirio, dywedodd Mark Polin bod yr oedi mewn amseroedd aros yn cael ei archwilio gan BIPBC ac roedd yn hyderus y byddai’r gwasanaeth yn gwella gyda chymorth LlC.

 

  1. Beth yw’r sefyllfa bresennol o ran prinder Meddygon Teulu ac effaith hyn ar holl wasanaethau.

 

Cytunodd y Pwyllgor bod ymateb i’r cwestiwn hwn wedi cael ei ddarparu yn gynharach yn y cyfarfod.

 

  1. Pam fod problem staff nyrsio parhaus yn Ysbyty Glan Clwyd?

 

Dywedodd Gill Harris oherwydd y galw uchel yn yr Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys, bod staff yn Ysbyty Abergele wedi cael eu hadleoli i Ysbyty Glan Clwyd er mwyn diwallu’r galw.  Roedd hyn er mwyn galluogi i fylchau yn y rota gael eu cefnogi ac i gadw cleifion yn ddiogel, ac roedd rhaid i’r risg gael ei reoli ar sail dydd i ddydd. Cydnabuwyd bod problemau o ran gofynion staff nyrsio a meddygol, ac roedd ffocws yn cael ei roi ar recriwtio a chadw staff a sicrhau bod yr amgylchedd a’r modelau gofalu hefyd yn cyfrannu tuag at y gallu i recriwtio staff.

 

Dywedodd Mark Polin bod 28 allan o 29 o gleifion lle gohiriwyd eu llawdriniaethau bellach wedi derbyn eu llawdriniaeth. Pan gwestiynodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y ffigyrau, cytunodd Mark Polin i edrych y mewn i hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cynghorydd Healey i’r cynrychiolwyr am eu presenoldeb a gofynnodd pryd fyddai BIPBC yn cael eu tynnu o’r mesurau arbennig. Gwnaeth Simon Dean sylw ar y nifer o weithwyr o fewn BIPBC yng Ngogledd Cymru ac ymrwymiad pawb i weld gwelliannau. Soniodd hefyd am bwysigrwydd cydweithio gyda phartneriaid rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru a’r weledigaeth gadarnhaol ar gyfer gwelliannau. Pe byddai LlC yn gweld bod mesurau derbyniol o gynnydd yn digwydd, byddai hyn yn helpu i ddenu staff o safon uchel yn y dyfodol.

 

            Mewn ymateb i sylw’r Prif Weithredwr mai BIPBC yn unig oedd yn gyfrifol am fod mewn mesurau arbennig ac nid oedd y gwaith partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol yn cyfrannu at hyn, cytunodd Mark Polin ac eglurodd bod gwelliannau yn digwydd fesul camau. Soniodd am y cynnydd amlwg oedd yn cael ei wneud mewn perthynas a gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd fod pawb yn awyddus i weld gwelliannau ar draws y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am lefelau dyledion, adroddodd Sue Hill bod lefelau dyledion wedi lleihau dros y 12 mis diwethaf a bod cynlluniau cadarn yn eu lle ar gyfer parhau i leihau’r rhain.

 

Soniodd y Cynghorydd Geoff Collett am y gwaith da oedd yn digwydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam a’r profiad cadarnhaol a gafodd pan ymwelodd â’r ysbyty am apwyntiad. Soniodd am y drafodaeth gynharach o ran yr Uned Mân Anafiadau yn yr Wyddgrug a dywedodd ei fod wedi bod yn rhan o godi arian tuag at yr offer, a dywedodd yr hoffai weld bod yr offer hyn yn cael eu defnyddio’n llawn.

 

            Wrth grynhoi, amlygodd y Prif Weithredwr y prif faterion canlynol a godwyd o’r drafodaeth:-

 

  • Y byddai atebion ysgrifenedig i’r cwestiynau a gyflwynwyd yn hwyr i’r Pwyllgor yn cael eu darparu i Aelodau;
  • Dylid rhoi sicrwydd dros adnewyddu trefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a mynediad di-dor i gleifion (erbyn diwedd mis Mawrth);
  • Bod asesiad risg diwygiedig ar gapasiti Meddygon Teulu a chwmpas ar draws Sir y Fflint yn cael ei rannu (erbyn diwedd mis Ebrill);
  • Bod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd i gynllunio gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn y dyfodol yn seiliedig ar dwf poblogaeth a chynlluniau adeiladu tai a chymunedau;
  • Bod y Bwrdd Iechyd yn cynnwys y Cyngor wrth gwmpasu’r adolygiad cynlluniedig o ddarpariaeth gwasanaeth Uned Mân Anafiadau yn Sir y Fflint i gyfrannu tuag at leihau’r galw ar wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys (erbyn diwedd mis Ebrill); 
  • Bod mwy o wybodaeth yn cael ei rannu ar recriwtio gweithlu, strategaethau cadw a hyfforddi gyda’r Cyngor yn cefnogi’r cynnig i ddatblygu Ysgol Feddygol ar gyfer Gogledd Cymru; ac
  • Annog y Bwrdd Iechyd i sicrhau cefnogaeth partneriaid rhanbarthol wrth drafod cyllideb weithredu ddigonol a chynaliadwy gyda Llywodraeth Cymru. 

 

            Cynigodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid cefnogi’r prif faterion a godwyd o’r drafodaeth fel argymhellion gan y Pwyllgor. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Carol Ellis.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o BIPBC am eu presenoldeb ac am ymateb i gwestiynau’r Aelodau. Croesawodd y Cadeirydd y cydweithio oedd yn digwydd rhwng y Cyngor a BIPBC ac roedd yn dymuno gweld hyn yn parhau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi’r atebion a roddwyd i’r cwestiynau a baratowyd ymlaen llaw a’r cwestiwn a godwyd yn y cyfarfod;

 

(b)          Bod atebion ysgrifenedig yn cael eu darparu o ran y cwestiynau hwyr a gyflwynwyd gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(c)          Bod sicrwydd yn cael ei roi dros adnewyddu trefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a mynediad di-dor i gleifion (erbyn diwedd mis Mawrth);

 

(d)          Bod asesiad risg diwygiedig ar gapasiti Meddygon Teulu a chwmpas ar draws Sir y Fflint yn cael ei rannu (erbyn diwedd mis Ebrill);

 

(e)          Bod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd i gynllunio gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn y dyfodol yn seiliedig ar dwf poblogaeth a chynlluniau adeiladu tai a chymunedau;

 

(f)           Bod y Bwrdd Iechyd yn cynnwys y Cyngor wrth gwmpasu’r adolygiad cynlluniedig o ddarpariaeth gwasanaeth Uned Mân Anafiadau yn Sir y Fflint i gyfrannu tuag at leihau’r galw ar wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys (erbyn diwedd mis Ebrill);

 

(g)          Bod mwy o wybodaeth yn cael ei rannu ar recriwtio gweithlu, strategaethau cadw a hyfforddi gyda’r Cyngor yn cefnogi’r cynnig i ddatblygu Ysgol Feddygol ar gyfer Gogledd Cymru;

 

(h)          Annog y Bwrdd Iechyd i sicrhau cefnogaeth partneriaid rhanbarthol wrth drafod cyllideb weithredu ddigonol a chynaliadwy gyda Llywodraeth Cymru. 


29/01/2020 - Cofnodion ref: 8026    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Woolley a’u heilio gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.


29/01/2020 - Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) ref: 8025    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Dim.


29/01/2020 - Treasury Management Strategy 2020/21 and Treasury Management Quarter 3 Update 2019/20 ref: 8027    Recommendations Approved

To recommend to Cabinet and Council the 2020/21 Treasury Management Strategy, 2019/20-2021/22 Treasury Management Policy, Practices and Schedules. Quarterly update on matters relating to the Council’s Treasury
Management Policy, Strategy and Practices 2019/20.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) y Strategaeth ddrafft ar Reoli’r Trysorlys yn 2020/21 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. I baratoi er mwyn i’r Cyngor Sir fabwysiadu’r Strategaeth ym mis Chwefror, gwahoddwyd holl aelodau i sesiwn hyfforddi ym mis Rhagfyr 2019. Hefyd fe gyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf yn y chwarter ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli’r Trysorlys y Cyngor 2019/20.

 

Nid oedd unrhyw newidiadau i’r Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys trosfwaol ar gyfer 2020/21 a dim ond mân newidiadau a wnaed i Arferion ac Amserlenni Rheoli’r Trysorlys. Roedd yr adroddiad yn crynhoi adrannau o ddiddordeb o’r Strategaeth a gafodd eu cynnwys fel rhan o’r sesiwn hyfforddi. O ganlyniad i’r canllawiau buddsoddi diwygiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC), mae’r diffiniad o fuddsoddiadau yn y Strategaeth wedi cael ei ehangu i gynnwys buddsoddiadau nad ydynt yn rhai rheoli’r trysorlys, megis benthyciadau a buddsoddiadau arenillion heb fod yn ariannol. Dull Sir y Fflint i’r gofyniad ychwanegol hwn oedd atodi’r buddsoddiadau nad oeddent yn rhai Rheoli’r Trysorlys i’r Strategaeth.

 

Fel rhan o’r wybodaeth ddiweddaraf Rheoli’r Trysorlys yn Chwarter 3 2019/20, nodwyd anghywirdeb yng nghyfanswm llog blynyddol ar ddadansoddiad benthyca hirdymor ar Randaliad Cyfradd Sefydlog y Prif Fenthyciadau gan Fwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB).

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Collett ar effaith chwyddiant ar ofynion benthyca yn y dyfodol, dywedodd y Rheolwr Cyllid bod y rhagolygon yn cael eu llywio gan y Rhaglen Gyfalaf lle'r oedd rhai cynlluniau yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd gyda phris contract sefydlog. Dywedodd nad oedd pryderon am effaith chwyddiant ar y rhaglen dreigl o fuddsoddiad.

 

Gofynnodd Sally Ellis am oruchwyliaeth ar waith ychwanegol i fodloni gofynion newydd LlC. Siaradodd y Rheolwr Cyllid am yr heriau o gydymffurfio â datgeliadau o amgylch sgiliau, diwylliant a newid hinsawdd ar draws y Cyngor, yn arbennig ar fuddsoddiadau rheoli’r trysorlys lle roedd diogelwch a hylifedd yn cael eu blaenoriaethu.  Byddai trafodaeth fanwl yn digwydd gyda Phrif Swyddogion i gytuno ar y dull a gaiff ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio tuag at ddiwedd y flwyddyn galendr.

 

Ar y gofynion ychwanegol ar gyfer buddsoddiadau moesegol cyfrifol, siaradodd y Prif Weithredwr am newid disgwyliadau a thynnodd sylw tuag at yr adroddiadau ar gael ar agendâu Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Gofynnodd Sally Ellis am y paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o fenthyca o ffynonellau ar wahân i PWLB. Dywedodd y Rheolwr Cyllid bod Ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn gyfforddus gyda hyd at 20% o’r portffolio yn cael ei fenthyca ar sail benthyca tymor byr, gan ganiatáu digon o gapasiti er mwyn ystyried dewisiadau manwl ar gyfer benthyca hirdymor. Er fod benthyciadau PWLB yn parhau i fod yn opsiwn hyfyw, byddai cyfleoedd i fenthyca o ffynonellau amgen, megis cronfeydd pensiwn neu gwmnïau yswiriant yn cael ei archwilio gydag ymgynghorwyr rheoli’r trysorlys.

 

Gofynnodd Allan Rainford am y dangosydd darbodus ar gyfer y gymhareb o gostau cyllido i gyfrif refeniw net, a chafodd wybod bod y cyfraddau ychydig o dan 5% ar gyfer Cronfa'r Cyngor ac o dan 25% ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Cafodd y ffigyrau eu cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf, a’u cymeradwyo gan y Cyngor y diwrnod blaenorol, a byddent yn cael eu hanfon i’r Pwyllgor. Pan ofynnwyd am addasu i fodloni’r gofynion newydd, siaradodd y Rheolwr Cyllid am y cynlluniau i gryfhau hyfforddiant ar weithgarwch nad oeddent yn rhai rheoli’r trysorlys. Ar fuddsoddiadau mewn gwledydd tramor, rhoddodd y Rheolwr Cyllid sicrwydd ar y mesurau diogelu a dywedodd mai ond mewn sterling all y Cyngor fuddsoddi.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y nifer o gynghorau ar y portffolio benthyca tymor byr a gofynnodd am enghraifft lle'r oedd Sir y Fflint yn gyd-barti i gyngor arall. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i ystyried rhannu enghraifft flaenorol ac eglurodd y dull i fenthyca tymor byr er mwyn rheoli sefyllfa llif arian ar y pwynt hwnnw mewn amser.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl adolygu’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Rheoli’r Trysorlys yn 2020/21, nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd at y Cabinet ar 18 Chwefror 2020; a

 

 (b)      Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn Chwarter 2019/20.


29/01/2020 - Code of Corporate Governance ref: 8029    Recommendations Approved

To endorse the review of the Code of Corporate Governance.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol. Yn dilyn adolygiad sylweddol yn 2017, dim ond mân newidiadau a wnaed ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at yr adroddiad diweddar i’r Cyngor ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a oedd yn cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer ail-enwi’r Pwyllgor Archwilio fel y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cafodd y cynnig i newid yr enw i adlewyrchu rôl y Pwyllgor yn well ei wrthod yn dilyn trafodaeth, gan gydnabod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor.

 

Wrth rannu cefndir i ymgynghoriad polisi Llywodraeth Cymru, eglurodd y Prif Weithredwr nodau’r diwygiadau a sut y gallai hyn weithio’n effeithiol o fewn y Cyngor. Roedd ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad yn gofyn am ddisgresiwn lleol ar sut oedd hyn yn cael ei gymhwyso i’r rolau gwahanol yn y pwyllgor o fewn y fframwaith cyn i’r Bil ddod i rym.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Woolley, nodwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad er mwyn argymell i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r newidiadau.  Ar y cam hwn y byddai’r Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.


29/01/2020 - Wales Audit Office (WAO) - Annual Audit Letter 2018/19 ref: 8028    Recommendations Approved

The letter summarises the key messages arising from the Auditor General for Wales’ statutory responsibilities under the Public Audit (Wales) Act 2004, and reporting responsibilities under the Code of Audit Practice for the financial year 2018/19.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru'r Llythyr Archwilio Blynyddol oedd yn nodi’r negeseuon allweddol oedd yn codi o gyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

 

Wrth gadarnhau bod y Cyngor wedi bodloni ei gyfrifoldebau adrodd ariannol a’r defnydd o adnoddau, dywedodd y byddai gwaith yn parhau gyda swyddogion ar y paratoadau ar gyfer y broses o brofi’r terfynau amser cyfrifon cynharach ar gyfer 2019/20 cyn y terfynau amser statudol newydd erbyn 2020-21. Fe gadarnhaodd hefyd bod gan y Cyngor drefniadau priodol i ddiogelu economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.  Ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o gynaliadwyedd ariannol holl gynghorau yng Nghymru, roedd yr adroddiad drafft ar gyfer Sir y Fflint i fod i gael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Chwefror er mwyn ystyried Setliad Llywodraeth Cymru ac i gymedroli canfyddiadau lleol gyda’r rhai ar draws Cymru er mwyn rhoi cyd-destun.

 

Wrth groesawu’r canfyddiadau, gofynnodd Allan Rainford am gymariaethau gyda chynghorau o’r un maint. Dywedodd Matthew Edwards bod y berthynas weithio gadarnhaol gyda swyddogion y Cyngor wedi cael ei adlewyrchu yn nhrefniadau effeithiol ar gyfer cau’r cyfrifon yn gynnar. Dywedodd bod brwdfrydedd i ddiwygio unrhyw gamgymeriadau materol a chyfeiriodd at y trafodaethau ar y dull yn y dyfodol o ran camddatganiadau uwchben y trothwy adrodd. Ar yr adolygiad cynaliadwyedd ariannol, byddai’n rhoi adborth ar y sylwadau ar fodel newydd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod Cyfarwyddwr Ymgysylltu Swyddfa Archwilio Cymru wedi adlewyrchu’n gadarnhaol ar berfformiad ariannol y Cyngor yn y flwyddyn flaenorol a chyfeiriodd at yr adborth cadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a oedd hefyd yn darparu sicrwydd.

 

Rhannodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yr hunanasesiad a gyflawnwyd gan holl gynghorau er mwyn cyfrannu at yr adolygiad cynaliadwyedd ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford am y ffi archwilio, dywedodd Matthew Edwards bod elfen arian at raid wedi cael ei gynnwys ar gyfer gwaith ychwanegol megis yr hyn ar Ddyfarniad McCloud.  Pan ofynnwyd am unrhyw effaith o’r cynnydd a ddisgwyliwyd mewn ffioedd archwilio ar gyfer cynghorau yn Lloegr, dywedodd y byddai adroddiad ar Gynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020 – oedd wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf – yn cynnwys cynigion ar gyfer y ffi archwilio. Er fod ffioedd Archwilydd Cyffredinol yn cynyddu oherwydd pwysau amrywiol, roedd nifer o ffyrdd o leihau’r effaith ar gynghorau, megis adolygu’r gymysgedd sgiliau timau Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr na ddisgwyliwyd unrhyw effaith sylweddol ac y gallai dull y Cyngor i reoli risg helpu i ddylanwadu ffioedd. Siaradodd am y gwaith sylweddol gydag actiwarïaid ar Gronfa Bensiynau Clwyd er mwyn paratoi i leihau risg ar Ddyfarniad McCloud.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Llythyr Archwilio Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018/19.


29/01/2020 - Financial Procedure Rules ref: 8030    Recommendations Approved

To provide Audit Committee with updated Financial Procedure Rules for recommendation to County Council.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Rheolau Gweithdrefn Ariannol Diwygiedig i’w hardystio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad ar gyfer eu hargymell i’r Cyngor Sir.  Ers y diweddariad diwethaf yn 2018, gwnaed mân newidiadau i adlewyrchu’r dulliau darparu gwasanaeth a gweithdrefnau diwygiedig yn dilyn ymgynghoriad â rheolwyr gwasanaeth a Prif Swyddogion perthnasol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Johnson, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gryfhau’r geiriad yn y frawddeg gyntaf yn adran 4.3 a oedd ar hyn o bryd yn dweud bod y gofyniad am swyddogaeth Archwilio Mewnol yn cael ei ‘awgrymu’ yn y ddeddfwriaeth.

 

Wrth groesawu’r oruchwyliaeth gynyddol gan y tîm Prif Swyddogion, ategodd Sally Ellis yr angen i sicrhau cydymffurfiad ar draws y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cyfrifoldebau yn glir ac yn cael eu hategu trwy gyfarfodydd adrannol a sesiynau corfforaethol, yn ogystal â thargedu meysydd risg uchel yn benodol, neu os oedd newidiadau mewn personél.  Roedd cydymffurfiad â’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn cael ei fonitro gan y prif gyfrifwyr ym mhob portffolio ac nid oedd unrhyw batrymau sylweddol o ran torri rheolau.

 

Yn adran 4.1(e) ar yr addefiad o atebolrwydd sy’n codi o hawliad yswiriant, fe wnaeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gydnabod pryderon Sally a chytunodd i adolygu’r geiriad er mwyn annog gweithwyr i chwilio am gyngor yn y sefyllfaoedd hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau Allan Rainford, darparwyd eglurder ar rôl y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fel rhan o’r tîm Prif Swyddogion. Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cynghorydd Mullin a siaradodd am y cyngor gwerthfawr a ddarperir i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rheolau Gweithdrefn Ariannol wedi’i diweddaru yn cael eu hardystio a’u cymeradwyo i’r Cyngor.


29/01/2020 - Internal Audit Progress Report ref: 8031    Recommendations Approved

To present to the Committee an update on the progress of the Internal Audit Department.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chynnydd yr adain Archwilio Mewnol.

 

Nid oedd unrhyw adroddiad coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gyflwyno ers y cyfarfod diwethaf. Roedd gwybodaeth ar y farn Melyn/Coch (rhywfaint o sicrwydd) ar Gronfa Ddata Grantiau Corfforaethol yn dangos camau gweithredu cytunedig i fynd i’r afael â defnydd anghyson o’r gronfa ddata. O ran olrhain camau gweithredu, roedd 14 o gamau gweithredu gweddillol allan o 88 wedi eu cau ers cyhoeddi’r adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i’r mecanweithiau sydd mewn grym i atgoffa rheolwyr o adborth amserol ar y camau gweithredu a gwblhawyd a oedd yn effeithio ar yr ystadegau. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar yr adnoddau yn y tîm Archwilio Mewnol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Amlygodd Sally Ellis bwysigrwydd gweithredu camau ar Gronfa Ddata Grantiau Corfforaethol yng ngoleuni’r gwaith archwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru. Wrth nodi y gall y nifer o gamau gweithredu byw fod yn is nac yr adroddwyd, gofynnodd am sicrwydd bod y rhai ar gyfer meysydd blaenoriaeth uchel megis Cronfeydd Ysgolion yn cael eu gweithredu. Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y gall y camau gweithredu ond gael eu cau unwaith y derbynnir tystiolaeth bod gwaith dilynol wedi cael ei drefnu yn y Cynllun Archwilio. Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno ar y camau gweithredu oedd wedi eu cwblhau ar Gronfeydd Ysgolion ac roedd yn fodlon gyda’r cynnydd hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.


29/01/2020 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ref: 8033    Recommendations Approved

To consider the Forward Work Programme of the Internal Audit Department.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried. Yn ymateb i bryderon y Cadeirydd, dywedodd y byddai’r nifer o eitemau ar y rhaglen yn cael ei adolygu ar gyfer y cyfarfod ym mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Awdurdodi Rheolwr yr adran Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.


29/01/2020 - Action Tracking ref: 8032    Recommendations Approved

To inform the Committee of the actions resulting from points raised at previous Audit Committee meetings.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2020

Yn effeithiol o: 29/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad diweddaru ar gamau a gododd o gyfarfodydd blaenorol. Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddyled heb eu casglu’r Bwrdd Iechyd i’r Cyngor yn cael ei rannu â’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.