Mater - penderfyniadau

Welfare Reform Update

18/10/2024 - Cost of Living and Welfare Reform

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) adroddiadi ddarparu gwybodaeth am effeithiau Diwygio’r Gyfundrefn Les, a’r argyfwng costau byw ar breswylwyr, a’r ystod o fesurau sy’n cael eu gweithredu i helpu’r sawl a effeithir arnynt er mwyn ceisio, pan fo’n bosibl, lliniaru’r effeithiau negyddol.

 

Argymhellodd y Cynghorydd Helen Brown argymhelliad ychwanegol, sef llythyr gan y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, i’w anfon at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.

 

Yn dilyn cwestiwn am y lwfans tanwydd gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) y byddai’n anfon dolen i wefan y Cyngor yn dangos gwybodaeth a lleoliadau canolfannau clyd ledled y Sir i’r Pwyllgor, ar ôl y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les a’r argyfwng costau byw yn eu cael, ac y byddant yn parhau i’w cael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru a’r Cyngor i liniaru'r effeithiau

           

(c)       Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.