Mater - penderfyniadau
Y Wybodaeth Ddiweddaraf Ynghylch Urddas Mislif
03/03/2025 - Period Dignity Update
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r sefyllfa genedlaethol bresennol o ran urddas mislif a sut roedd cyllid grant wedi bod o fudd i ysgolion a chymunedau Sir y Fflint dros y ddau gyfnod ariannol ar gyfer 2022-2023 a 2023-2024, gyda Llywodraeth Cymru (LlC) yn cyflwyno “Cynllun Gweithredu Balch o’r Mislif Cymru” ym mis Chwefror 2023.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad am urddas mislif a chael sicrwydd y gwariwyd y grant yn briodol a’i fod wedi helpu i fodloni anghenion y rhai hynny yr anelwyd cynllun Llywodraeth Cymru atynt.