Mater - penderfyniadau

Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau

15/08/2024 - Constitutional Issues including Committees

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion y mae angen penderfynu arnynt yn y Cyfarfod Blynyddol, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts argymhellion 1, 2 a 3 (yn amodol ar adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac enw a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd).  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2024/25:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:

·         Tai a Chymunedau

·         Adnoddau Corfforaethol

·         Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

·         Yr Amgylchedd a’r Economi

·         Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor fel y nodir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.

 

(iii)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor, fel y nodir yn y Cyfansoddiad, yn amodol ar adolygiad o'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

Ar y pwynt hwn, cafwyd gohiriad er mwyn ystyried newidiadau i’r cydbwysedd gwleidyddol yn sgil ffurfio'r gr?p gwleidyddol newydd.  Ar ôl ailymgynnull, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) newid yn nhrefn yr eitemau gan y byddai penodi Cadeiryddion Pwyllgorau yn helpu i lywio Cydbwysedd Gwleidyddol, a rhannwyd dau opsiwn diwygiedig.  O’i roi i bleidlais, cytunwyd â hyn.

 

(vi)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff fel y nodir ym mharagraff 1.17, gan nodi bod cyfyngiadau o ran cymhwysedd.   Er bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet, roedd gofyn i’r Cyngor benodi Cadeiryddion ar gyfer pump o’r Pwyllgorau.

 

Ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, eiliwyd yn briodol enwebiad y Cynghorydd Helen Brown ar gyfer y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ac enwebiad y Cynghorydd David Healey ar gyfer y Cynghorydd Geoff Collett.

 

Awgrymodd y Cynghorydd David Healey fod yr adolygiad o'r Cylch Gorchwyl yn rhoi mwy o ffocws i warchod natur trwy amrywiaeth.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Collett:

Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush a Linda Thomas.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Ibbotson:

Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Gillian Brockley, Helen Brown, David Coggins Cogan, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Dennis Hutchinson, Alasdair Ibbotson, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Mike Peers, Carolyn Preece, David Richardson, Dan Rose, Dale Selvester, Jason Shallcross, Sam Swash, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren.

 

O’i roi i bleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ibbotson fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

Ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, eiliwyd yn briodol enwebiad y Cynghorydd David Coggins Cogan ar gyfer y Cynghorydd Dan Rose ac enwebiad y Cynghorydd Sean Bibby ar gyfer y Cynghorydd Ted Palmer.  Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Palmer:

Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush a Linda Thomas.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Rose:

Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Gillian Brockley, Helen Brown, David Coggins Cogan, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Dennis Hutchinson, Alasdair Ibbotson, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Mike Peers, Carolyn Preece, Dan Rose, Dale Selvester, Jason Shallcross, Sam Swash, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren.

 

O’i roi i bleidlais, penodwyd y Cynghorydd Rose fel Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, eiliwyd enwebiad y Cynghorydd Helen Brown ar gyfer y Cynghorydd Rob Davies gan y Cynghorydd Mike Peers.  Nid oedd yna enwebiadau eraill, ac fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.

 

Ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, eiliwyd yn briodol enwebiad y Cynghorydd Ibbotson ar gyfer y Cynghorydd Peers ac enwebiad y Cynghorydd Sean Bibby ar gyfer y Cynghorydd Rosetta Dolphin.  Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Peers:

Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Gillian Brockley, Helen Brown, David Coggins Cogan, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Dennis Hutchinson, Alasdair Ibbotson, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Mike Peers, Carolyn Preece, Dan Rose, Dale Selvester, Jason Shallcross, Sam Swash, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Rosetta Dolphin:

Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush a Linda Thomas.

 

O’i roi i bleidlais, penodwyd y Cynghorydd Mike Peers fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, enwebodd y Cynghorydd Richard Jones y Cynghorydd Richard Lloyd.  Nid oedd yna enwebiadau eraill, ac fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Cadeiryddion y Pwyllgorau canlynol yn cael eu penodi (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):

 

·             Pwyllgor Newid Hinsawdd - y Cynghorydd Alasdair Ibbotson

·             Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd - Y Cynghorydd Dan Rose

·             Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – Y Cynghorydd Rob Davies

·             Pwyllgor Trwyddedu – Y Cynghorydd Mike Peers

·             Pwyllgor Cynllunio - Y Cynghorydd Richard Lloyd

 

(b)       Bod y Pwyllgor Cwynion, y Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn penodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodau priodol.

 

(iv)      Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Nododd yr adroddiad sail y gofyniad statudol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn ogystal â gwahanu’r pwyllgorau ‘cyflogaeth’ i sicrhau nad oedd grwpiau llai dan anfantais; arfer a oedd yn galw am gytundeb penodol gan bob Aelod.  Nid oedd y rheolau’n berthnasol i’r Cabinet na’r Pwyllgor Safonau.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y ddau opsiwn ychwanegol a oedd wedi'u dosbarthu a dywedodd nad oedd opsiwn 5 yn cyd-fynd â Chadeiryddion y Pwyllgorau a bennwyd yn yr eitem flaenorol.  Cafodd ei argymhelliad y dylid mabwysiadu'r ail opsiwn (di-deitl) ei roi i bleidlais ac fe’i cymeradwywyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyrannu’r seddi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol, fel y’i nodir yn y daenlen ddiwygiedig a rheolau aelodaeth Pwyllgorau, fel y’u nodir yn yr adroddiad; a

 

(b)       Dyrannu’r seddi ar y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu i roi amrediad gwleidyddol eang i’r aelodaeth.

 

(vi)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gofynion ar gyfer penodi Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gan ystyried cryfder y gwahanol grwpiau gwleidyddol a'r rhai sydd â seddi ar y Cabinet.  Yn olaf, roedd gan y grwpiau Llafur ac Annibynnol hawl i ddwy sedd ac roedd gan gr?p newydd Llais y Bobl Sir y Fflint hawl i un sedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones bod y gr?p Annibynnol yn cadw Cadeiryddion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.  Cynigiodd hefyd fod gr?p Llais y Bobl Sir y Fflint yn enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a’r gr?p Llafur yn enwebu cadeiryddion ar gyfer y ddau bwyllgor sy’n weddill.  Eiliwyd hyn yn briodol ac o’i roi i bleidlais, cafodd ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dyrannu fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu:                  Gr?p i ddewis Cadeirydd:

Tai a Chymunedau                                       Annibynnol

Adnoddau Corfforaethol                              Annibynnol

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant                    Llafur

Yr Amgylchedd a’r Economi                        Llafur

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd                     Llais y Bobl Sir y Fflint

 

(vii)     Cymeradwyo’r Cyfansoddiad

 

Gofynnodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am gymeradwyaeth i’r Cyfansoddiad a oedd yn manylu ar swyddogaethau’r Cyngor ac a oedd yn cael ei adolygu’n barhaus.

 

O’i roi i bleidlais, cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r rheolau, gweithdrefnau, dirprwyaethau a’r codau / protocolau sydd yn y Cyfansoddiad.

 

(viii)    Enwebu i Gyrff Mewnol

 

Roedd y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen, yn cynnwys saith Aelod.  Nid oedd hwn yn Bwyllgor sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr Gr?p.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Marion Bateman y dylid cymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Roy Wakelam.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cyfansoddiad y Pwyllgor Penodiadau.

 

(ix)      Pwyllgor Safonau

 

Eglurodd y Prif Swyddog gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys y tri Chynghorydd Sir a benodwyd tan fis Ebrill 2027.  Gan fod y Cynghorydd Andrew Parkhurst wedi gadael y Pwyllgor, gofynnwyd am enwebiadau i gymryd ei le am weddill y tymor hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Helen Brown y dylai’r Cynghorydd Ian Hodge gael ei benodi.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones ac o’i roi i bleidlais, cafodd ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Ian Hodge fel trydydd Cynghorydd i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau am weddill y tymor hwn.

 

(x)       Penodiadau i Gyrff Allanol

 

Gan fod penodiadau wedi'u gwneud yng Nghyfarfod Blynyddol 2022 am dymor cyfan y Cyngor, gofynnwyd am gymeradwyaeth i roi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau, i wneud unrhyw newidiadau i benodiadau i gyrff allanol, yn ôl yr angen.

 

Cafodd yr argymhelliad ei roi i bleidlais a’i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau, i wneud unrhyw ddiwygiadau i benodiadau i gyrff allanol yn ôl y gofyn.