Mater - penderfyniadau

Election of the Leader of the Council

15/08/2024 - Election of the Leader of the Council

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson o blaid ei enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Ian Roberts fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.  Ategwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Chris Dolphin a eiliodd y cynnig.

 

Eglurodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei resymau dros fethu â chefnogi’r enwebiad a’i benderfyniad i ffurfio gr?p gwleidyddol newydd, gan alw ar y grwpiau eraill i gydweithio’n adeiladol.

 

Eiliwyd enwebiad y Cynghorydd Helen Brown ar gyfer y Cynghorydd Richard Jones fel Arweinydd y Cyngor gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

Mewn perthynas ag enwebiadau pellach, cynigiodd y Cynghorydd Gillian Brockley y Cynghorydd Carolyn Preece ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Ibbotson.

 

Eiliwyd enwebiad y Cynghorydd David Coggins Cogan ar gyfer y Cynghorydd Andrew Parkhurst gan y Cynghorydd Carolyn Preece.

 

Ni chafwyd enwebiadau eraill.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr Coggins Cogan a Sean Bibby ill dau am bleidlais wedi'i chofnodi ar y pedwar enwebiad, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Richard Jones:

Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Helen Brown, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Mike Peers, David Richardson, Dale Selvester, Jason Shallcross, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Andrew Parkhurst:

Y Cynghorwyr: David Coggins Cogan ac Andrew Parkhurst

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Carolyn Preece:

Y Cynghorwyr: Gillian Brockley, Alasdair Ibbotson, Carolyn Preece, Dan Rose a Sam Swash

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Ian Roberts:

Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush, Linda Thomas ac Arnold Woolley.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.