Mater - penderfyniadau

Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai

25/09/2024 - Housing Strategy Action Plan Performance Update

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a Rheolwr Strategol Tai a’r Rhaglen Gyflawni adroddiad i roi diweddariad ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 gyda phwyslais penodol ar flwyddyn ariannol 2023/24.  

Ar gais y Cynghorydd Helen Brown, byddai nodyn briffio am y risgiau yn y dyfodol yn cael ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn gweithdai’r Strategaeth Tai.

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.

PENDERFYNWYD:

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024; a

 

(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad i’r canlynol:

·         Alinio safonau a’r gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP).

·         Yr amserlen ddiweddaraf i adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol.