Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

13/09/2024 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd y Prif Archwilydd  y Rhaglen Waithgyfredol i’w hystyried.

Cefnogwyd yr argymhellion, yn amodol ar y ceisiadau canlynol:

  • Bod adroddiadau ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf, yn cael eu rhannu cyn gynted â phosib’, yn enwedig adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGC.
  • Bod adroddiad Archwilio Cymru ar sefydlogrwydd ariannol yn cael ei drefnu’n briodol pan fydd ar gael.
  • Y rhoddir ystyriaeth ar gyfer eitem yn y dyfodol ar fodel ‘y tair llinell amddiffyn’.

PENDERFYNWYD:

(a)Derbyn y Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a

(b)Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.