Mater - penderfyniadau

Corporate Parenting Charter - A Promise for Wales

04/09/2024 - Corporate Parenting Charter - A Promise for Wales

Wrth gyflwyno’r adroddiad cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant at lansiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Siarter Rhianta Corfforaethol: Addewid Cymru ym mis Medi 2023.  Darparwyd gwybodaeth ar yr 11 o egwyddorion a 9 o addewidion a nodwyd yn y Siarter  ac a oedd yn ffurfio  rhan o weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid Gwasanaethau Plant Cymru.  Eglurwyd sut yr oedd y Llysgenhadon Ifanc a fynychodd Uwchgynhadledd y Rhai sy’n Gadael Gofal ac a gafodd gyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol, roedd y rhain yn cynnwys pobl ifanc o Sir y Fflint.  Eglurwyd pe byddai Sir y Fflint yn llofnodi’r Siarter a’r Addewidion y byddai’n rhaid sicrhau bod yr addewidion a’r uchelgeisiau’n cael eu clywed yn y Cyngor gyda lleisiau’r ifanc hefyd yn cyfranogi. Gwnaed gwaith i gyflwyno hyn i sicrhau ei fod yn llwyddiant ac ar ôl i’r Cyngor lofnodi’r siarter cynigir y dylid cyflwyno adroddiad blynyddol ar y cynnydd a’r gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carol Ellis, cadarnhaodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor llawn er mwyn sicrhau bod pob aelod yn rhan o’r broses. 

 

            Roedd y Cynghorydd Hilary McGuill yn falch ei fod yma i’r holl Gynghorwyr ei lofnodi ac fe gyfeiriodd at y gwaith a wnaed gan y plant ar y Fforwm Gwasanaethau Plant a oedd wir yn ased i’r Cyngor.  Roeddent wedi cynorthwyo gyda’r prosesau o ran y broses gyfweld a thai ac roedd eu cyfraniadau’n amhrisiadwy.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad cyntaf gan y Cynghorwyr Hilary McGuill a Carol Ellis.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr ail argymhelliad gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Mel Buckley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod y pwyllgor yn argymell bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol:  ‘Addewid Cymru’.

 

(b)       Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol.