Mater - penderfyniadau

Void Management

15/07/2024 - Void Management

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 33 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Soniodd hefyd am y wybodaeth ganlynol a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-

 

·         Nifer yr eiddo mawr gwag

·         Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi cynyddu ychydig i 237

·         Perfformiad y contractwyr presennol

·         Y prif resymau dros derfynu contractau

 

Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am y rhesymau dros derfynu contractau a restrir yn y nodyn briffio, gan awgrymu y dylid rhestru’r rhesymau dros derfynu mewn trefn i gyd-fynd â’r nifer a ddangosir yn y tabl.  Dywedodd fod y sylwadau am y contractwr ychwanegol wedi tawelu ei feddwl ond nad oedd yn teimlo’n gadarnhaol am nifer yr eiddo gwag, a dywedodd ei fod eisiau gweld y ffigwr hwn yn gostwng i’r bôn dros y misoedd nesaf. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin pa mor gyflym yr oedd eiddo gwag nad oedd angen gwaith gwella yn cael eu hail-ddyrannu i denant newydd.  Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth gan ddweud y byddai’r eiddo hynny’n cael eu pennu’n eiddo sydd angen mân welliannau, ac y byddent yn cael eu neilltuo i dîm mewnol y Cyngor.  Y targed ar gyfer mân welliannau oedd 20 diwrnod gwaith ac roedd y targed hwn yn cael ei gyrraedd.  Ychwanegodd fod 70% o’r eiddo angen cryn dipyn o waith ac mai dyma’r prif reswm y tu ôl i’r oedi oherwydd materion etifeddol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Kevin Rush sylwadau’r Cynghorydd Evans, gan godi pryder y byddai’n cymryd nifer o flynyddoedd i ddod â nifer yr eiddo gwag i lawr i lefel y gellir ei rheoli pe bai nifer yr eiddo gwag a ddychwelir yn dilyn y cyfartaledd dros yr 8 mis diwethaf. 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn gweithio gyda chwmni i ailgylchu dodrefn, ac yn unol â Pholisi’r Cyngor, y dylid dychwelyd eiddo gwag mewn cyflwr glân a thaclus, ac y gallai unrhyw beth a adawir yn yr eiddo fod yn gost daladwy i'r Cyngor.  Dywedodd y byddai’n ailafael ym mhryder penodol y Cynghorydd Hutchinson ar ôl y cyfarfod. 

 

Cafodd yr argymhelliad i nodi’r diweddariad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.