Mater - penderfyniadau
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
04/03/2024 - Governance & Audit Committee Annual Report
Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn y Cyngor. Wrth fodloni’r gofynion o ran arfer gorau, byddai’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor ar feysydd atebolrwydd penodol.
Wrth dynnu sylw at y prif feysydd, diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg am ei gwaith i sicrhau bod pynciau’r adroddiad yn cyd-fynd â chylch gorchwyl y Pwyllgor. Dywedodd fod cynnydd mewn adolygiadau a cheisiadau am wybodaeth yn ystod y cyfnod yn dangos effeithiolrwydd rôl y Pwyllgor. O ran y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, dywedodd y byddai gweithdy’n cael ei drefnu ym mis Ionawr i’r Pwyllgor baratoi at yr hunanasesiad ym mis Mawrth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at ragair y Cadeirydd ac awgrymodd y gellid adlewyrchu’r pryderon amrywiol a godwyd gan y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn yn y frawddeg olaf.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn briodol bod unrhyw faterion sylweddol o ran llywodraethu, rheolyddion a threfniadau rheoli risg oedd yn rhan o’r farn Archwilio Mewnol yn cael eu hamlygu i’r Cyngor. Fodd bynnag, cydnabu bod materion parhaus megis terfynau amser a fethwyd yn parhau yn bryder allweddol i’r Pwyllgor ac y gallai gysylltu â’r Rheolwr Archwilio Mewnol i gynnwys geiriad priodol yn y rhagair.
Yn dilyn cefnogi’r dull hwn, cynigwyd yr argymhelliad a’i eilio gan Sally Ellis a’r Cynghorydd Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar gynnwys brawddeg a gytunwyd arni gyda’r Cadeirydd, cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2022/23 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ei gymeradwyo ar 6 Rhagfyr 2023.